Beth i’w ddisgwyl gan eich TAR – safbwynt y mentor

cynorthwyydd a disgyblion

Rôl y mentor yw arwain darpar athrawon tuag at eu gôl sef cyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac yn y pendraw, cael eu swydd ddelfrydol.

Roedd Rob Wilson yn fentor pwnc am 10 mlynedd cyn dod yn uwch fentor yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae’n annog hyfforddeion i sicrhau eu bod yn cychwyn y cwrs “gyda’u llygaid yn llydan agored” neu “fe all fod yn sioc fawr i’r system”. Mae’n credu ei fod yn hanfodol cael peth profiad mewn amgylchedd ysgol cyn cychwyn y cwrs TAR.

Mae athrawon dan hyfforddiant yn ymgymryd â dau leoliad ysgol yn ystod y TAR; mae’r materion a fydd yn wynebu hyfforddeion yn amrywio’n enfawr, sy’n adlewyrchu gwahanol gyfnodau datblygiad wrth ddod yn athro.  

Yn ystod y lleoliadau hyn, mae dyletswyddau’r mentor yn cynnwys helpu hyfforddeion gyda’u cynllunio, yn arbennig gyda rheoli amser, “i’w helpu nhw gyda sut i weithio’n ddoethach yn hytrach nag yn galetach”. Dywed Rob, “Bydd mentor da’n datblygu unrhyw fyfyriwr a chaiff hyn ei gwblhau drwy roi adfyfyrdodau a gwerthusiadau agored a gonest am eu cynnydd. Yn arbennig yn y lleoliad cyntaf, mae arweiniad a mentora gofalus yn hanfodol i ddatblygiad yr hyfforddai”.

Mae Rob yn disgrifio’r lleoliad cyntaf fel “cromlin ddysgu serth iawn” ac ychwanegodd mai’r “her fwyaf yw  rhoi damcaniaeth ar waith. Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr ymdopi ag elfen academaidd y lleoliad... yr elfen ddisgyblu a meithrin perthynas gyda’r myfyrwyr a’r staff sy’n gallu peri problem. Mae sefydlu gweithdrefnau effeithiol a chywir yn hanfodol ar y lleoliad cyntaf.”

Erbyn yr ail leoliad, sy’n digwydd yn ail hanner y cwrs, mae’r heriau’n wahanol iawn. “Yn amlwg, mae’r hyfforddeion wedi cael rhagor o brofiad ac felly maent wedi paratoi’n well ac maent yn ymwybodol o’r safonau a ddisgwylir gan athrawon. Maent yn dueddol o fod wedi datblygu gwell strategaethau ymdopi a phatrymau gwaith a strwythurau effeithiol. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi sylweddoli a yw’r alwedigaeth yn eu gweddu neu beidio erbyn hyn, a golyga hyn bod safonau uchel wedi’u bodloni gan yr hyfforddeion ac yna rydych yn eu herio drwy ddefnyddio canllawiau SAC.”