O fyfyriwr peirianneg i athro ffiseg
“Nid oes yna lawer o alwedigaethau sy’n eich galluogi i ddatgan ‘heddiw, rydw i wedi gwneud gwahaniaeth’ ar ddiwedd y dydd”
Graddiodd Dan Lockett o YDDS gyda TAR Uwchradd Ffiseg ac ers hynny, mae e wedi mwynhau gyrfa wobrwyol fel athro Ffiseg. “Nid oes yna lawer o alwedigaethau sy’n eich galluogi i ddatgan ‘heddiw, rydw i wedi gwneud gwahaniaeth’ ar ddiwedd y dydd”. Rhoddodd YDDS gymysgedd strwythuredig o arfer addysgu ac astudiaethau damcaniaethol i Dan. “Roedd darlithoedd ar amrywiaeth o agweddau, fel, newidiadau i’r cwricwlwm, technoleg newydd yn y dosbarth a’r newid cyson i gynnwys pynciau, yn amhrisiadwy yn fy mlynyddoedd cychwynnol.”
Gellid dweud nad Peirianneg yw’r llwybr arferol at ddod yn athro ffiseg, ond nid yw Dan yn deall pam, “Rhan fawr o addysgu yw’r gallu i symbylu disgyblion i ddysgu a pha ffordd well i wneud hyn na chael y wybodaeth gefndir i gymhwyso ffiseg i sefyllfaoedd bob dydd, fel ceir formula one neu bont grog. Mae bod yn greadigol yn natur peirianyddion, ac mae cael y rhyddid i greu gwers ysbrydoledig ac i addysgu pwnc mewn ffyrdd gwbl ddychmygus yn unigryw.
“Heb unrhyw amheuaeth, buaswn yn argymell YDDS! Mae ei henw da a ffordd wych y staff o gyflwyno cyrsiau yn siarad drostynt eu hunain. Dyna pam, ers gwneud y TAR, rwyf wedi bod yn gweithio tuag at gwblhau Meistr mewn Addysg yn YDDS. Ni fyddwn wedi dewis unman arall i astudio ynddo.”