CCNA Diogelwch



Mae’r cwrs CCNA® Diogelwch Cisco Networking Academy® yn gam nesaf i unigolion sydd eisiau cyfoethogi eu set sgiliau lefel ardystiedig Cisco CCENT® a helpu i fodloni’r galw sy’n tyfu am weithwyr proffesiynol diogelwch rhwydwaith.

Mae’r cwricwlwm yn darparu cyflwyniad i’r cysyniadau a sgiliau diogelwch craidd sydd eu hangen i fewnosod, datrys problemau, a monitro dyfeisiau rhwydwaith i gynnal unplygrwydd, cyfrinachedd ac argaeledd data a dyfeisiau.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

CCNA Diogelwch

Gallwch baratoi at sefyll yr arholiad CCNA Diogelwch. Rhaid bwcio a thalu am arholiadau ar wahân drwy ganolfan brofi Pearson Vue.


CADW LLE AR DDIWRNOD AGORED CAIS AM WYBODAETH
E-bost Cyswllt: itacademy@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Kapilan Radhakrishnan


£750
N/A

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Deall cysyniadau diogelwch craidd a sut i ddatblygu a gweithredu polisïau diogelwch i liniaru risgiau.
  2. Caffael y sgiliau sydd eu hangen i ffurfweddu, monitro, a datrys problemau diogelwch rhwydwaith.
  3. Paratoi ar gyfer arholiad ardystiad CCNA Diogelwch Cisco.
  4. Dechrau neu ymestyn gyrfa mewn diogelwch rhwydwaith.
  5. Eich gwahaniaethu yn y farchnad gyda sgiliau ac arbenigedd arbenigol i lwyddo.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae CCNA Diogelwch yn cynnig y canlynol:

  • Darparu trosolwg manwl, damcaniaethol o egwyddorion diogelwch rhwydwaith yn ogystal â’r offer a’r ffurfweddiadau sydd ar gael
  • Pwysleisio cymhwysiad ymarferol y sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, gweithredu a chefnogi diogelwch rhwydwaith.
    Cefnogi datblygiad meddwl beirniadol a sgiliau datrys problemau cymhleth trwy labordai ymarferol
  • Hyrwyddo archwilio cysyniadau diogelwch rhwydweithio trwy weithgareddau dysgu seiliedig ar efelychu Cisco® Packet Tracer, a chaniatáu i fyfyrwyr arbrofi gydag ymddygiad rhwydwaith.
  • Yn cynnwys asesiadau arloesol sy’n darparu adborth uniongyrchol i gefnogi gwerthusiad o wybodaeth a sgiliau caffaeledig.
Pynciau Modylau

Amherthnasol

Asesiad

Mae’r Academi Rhwydweithio yn darparu profiad dysgu cyfoethogi a chynhwysfawr trwy’r defnydd o asesiadau ac offer arloesol. Caiff asesiadau ffurfiannol a chrynodol eu hintegreiddio yn y cwricwla a’u cefnogi gan uwch system darparu ar-lein i ddarparu adborth cyfoethog ar unwaith sy’n cefnogi gwerthusiad yr hyfforddwr a’r myfyriwr o’r wybodaeth a’r sgiliau a gaffaelir. Mae rhaglenni Academi Cisco yn cynnig casgliad llawn o asesiadau i gefnogi dysgu yn yr 21ain ganrif: Ffurfiannol, crynodol ac asesiadau Sgiliau ‘Packet Tracer’ Cisco.

Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau Diwydiant

BCS accrediation widget

Achrediadau Proffesiynol

Seiberddigelwch yn NetAcad o Safbwynt Myfyriwr

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Rhagofynion: Gwybodaeth a sgiliau rhwydweithio CCENTlevel.

Cyfleoedd Gyrfa

Allwch chi feddwl fel haciwr? Rhaid i arbenigwr diogelwch wybod am y dechnoleg diweddaraf a darganfod mannau gwan cyn i rywun arall wneud hynny. Maent yn mwynhau datrys problemau cymhleth, ac yn gallu dogfennu a chyfathrebu am eu gwaith. Mae rhaglen Academi Rhwydweithio Cisco yn eich rhoi ar ben ffordd i gael y swyddi hyn.

Teitlau Swyddi: Gweinyddwr Diogelwch seilwaith, data, a chymwysiadau), Pensaer Diogelwch Rhwydwaith, Peiriannydd Diogelwch Rhwydwaith, Arbenigwr Diogelwch Rhwydwaith.

Costau Ychwanegol

Ffi ardystiad Diwydiant CCNP Diogelwch. Am wybodaeth lawn, gwiriwch canolfan brofi Pearson Vue .

Cyrsiau Cysylltiedig
  • Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiber Ddiogelwch)
  • CCNA Routing and SwitchingCCNA Llwybro a Switsio
  • CCNP Llwybro a Switsio
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.