Gwasanaethau ar gyfer Cyn-fyfyrwyr

Humanities Masterclasses Banner

Wedi symud tŷ neu swydd? Wedi cyhoeddi llyfr newydd? Am rannu newyddion da? Cysylltwch â Llambed, byddwn wrth ein boddau yn clywed gennych!

Pe bai gennych ymholiad cyffredinol, neu os ydych am fynd ar daith o amgylch y campws, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cynllunio aduniad neu gynnal digwyddiad arbennig ar Gampws Llambed, croeso i chi gysylltu â Tîm Cyn-fyfyrwyr unrhyw bryd.

Wedi symud tŷ neu swydd? Cymerwch eiliad i’n diweddaru:

Diweddaru'ch Manylion Cyswllt

Swyddog Cyn-fyfyrwyr
PCYDDS Llambed 
Ceredigion
SA48 7ED

E-bost: lampeteralumni@uwtsd.ac.uk
Ffôn: +44 (0) 1570 422351


Buddion i Gyn-fyfyrwyr

Gostyngiad o 10% ar Briodasau

Gall cyn-fyfyrwyr Llambed gael gostyngiad o 10% ar gost defnyddio Campws Llambed fel lleoliad priodas. Nodwch eich blwyddyn graddio wrth archebu i dderbyn y gostyngiad. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a gynigir i’w gweld ar venuewales.co.uk

Gostyngiad o 20% ar Aros ar y Campws

Gall cyn-fyfyrwyr Llambed gael gostyngiad o 20% ar archebion Gwely a Brecwast ar Gampws Llambed. Nodwch eich blwyddyn graddio wrth archebu i dderbyn y gostyngiad. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a gynigir i’w gweld ar venuewales.co.uk.

Gostyngiad o 10% ar Archebion y Siop Goffi

Gall cyn-fyfyrwyr Llambed gael gostyngiad o 10% ar archebion yn Siop Goffi 1822 gan ddefnyddio’r cod 'ALUMNI10' wrth archebu gan ddefnyddio ap Blasus (ar gael ar gyfer Android ac Apple).