Ydds Hafan - Alumni - Alumni Llambed - Rhoddwch Nawr
Rhoddwch Nawr
Diolch i chi am gefnogi Llambed. Bydd pob cyfraniad - waeth pa mor fawr neu fach – yn cael effaith barhaol ar fyfyrwyr Llambed heddiw ac yfory.
Cyfrannu drwy siec, cerdyn credyd neu ddebyd uniongyrchol
I wneud rhodd unigol neu reolaidd, cliciwch ar y botwm isod:
Cronfa Bwrsari Cymdeithasol LlambedMae’r gronfa hon yn darparu bwrsarïau ar gyfer myfyrwyr preswyl newydd o gefndiroedd incwm isel.
Y Gronfa Prosiectau MyfyrwyrMae’r gronfa hon yn cefnogi mentrau sy’n cyfoethogi profiad myfyrwyr ar y campws gan gyfrannu’n helaeth at fywyd y campws, trwy ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gwibdeithiau, costau teithiau maes, teithiau ymchwil a mwy.
Cronfa arallCysylltwch â Gemma Russell ar gemma.russell@uwtsd.ac.uk i’n hysbysu ble yr hoffech i’ch rhodd gael ei chyfeirio
Os hoffech drafod prosiect codi arian, anfonwch e-bost at Gemma Russell ar gemma.russell@uwtsd.ac.uk
Rhodd Cymorth - ar gyfer trethdalwyr cymwys yn y DU
Pan fyddwch yn cyfrannu trwy Rodd Cymorth , gallwn hawlio'n ôl gan Gyllid a Thollau EM y dreth cyfradd sylfaenol rydych eisoes wedi'i thalu ar eich rhodd. Mae hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd i ni o 25%, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio'n ôl y gwahaniaeth rhwng treth cyfradd uwch a chyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i'r Brifysgol ar eich ffurflen dreth hunanasesu.