Rydych yn rhan o’r gymdeithas cyn-fyfyrwyr yn awtomatig os buoch yn fyfyriwr yn un o’r canlynol:
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Cymru Llambed
- Coleg y Drindod Caerfyrddin
- Coleg Prifysgol y Drindod
- Prifysgol Fetropolitan Abertawe (a’i sefydliadau rhagflaenol)
Gallwch ofyn am drawsgrifiad gan Gofrestrfa Academaidd Y Drindod:
O ganlyniad i Ddeddfwriaeth Diogelu Data ni allwn ddatgelu unrhyw gyfeiriadu’n uniongyrchol i drydydd parti. Fodd bynnag, gallwn gysylltu â nhw ar eich rhan.
Os hoffech chi drefnu aduniad ar gyfer eich ffrindiau/neuadd/cwrs/clwb neu grŵp blwyddyn, cysylltwch â’r swyddfa cyn-fyfyrwyr. Gallwn roi cyngor i chi ar leoliadau, rhestrau post, llety a gwirio i weld faint o’ch grŵp rydym yn dal i fod mewn cysylltiad â nhw.
Mae cyngor gyrfaol ar gael i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ei brif bwrpas yw cynorthwyomyfyrwyr i ddynodi eu hamcanion o ran gyrfa, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i’ch galluogi i weithredu’r amcanion hyn.
Mae llwyth o ffyrdd y gall ein cyn-fyfyrwyr helpu’r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr. Yn eu plith mae:
- Mentora myfyriwr presennol
- Cynnig lleoliad gwaith
- Recriwtio myfyriwr / un o’ch cyd- raddedigion i weithio i chi
- Darparu tystlythyr o’ch amser yn y brifysgol
- Cyflwyno sgwrs i fyfyrwyr presennol am eich gyrfa
- Cyfrannu’r defnydd o offer celf/chwaraeon
- Gwneud cyfraniad elusengar
- Gadael rhodd
Os oes gennych ddiddordeb mewn un o’r pethau hyn, e-bostiwch ni yn alumni@uwtsd.ac.uk am fanylion pellach
Oes! Rydym yn croesawu arbenigedd a gwasanaethau ein graddedigion bob tro. Os teimlwch y gallwch gyfrannu mewn unrhyw ffordd, boed mewn nwyddau, yn ariannol neu drwy roi o’ch amser, cysylltwch â’r Tîm Cyn-fyfyrwyr i drafod sut y gall eich cyfraniad gael yr effaith fwyaf.
Mae rhodd yn fuddsoddiad yn ein myfyrwyr presennol a rhai’r dyfodol yn ogystal ag yn y sefydliad ei hun. Bydd pob rhodd a wnewch chi, ni waeth beth y bo’i faint, yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac mae eich cefnogaeth yn hanfodol bwysig i’n dyfodol. Gallwch wneud cyfraniad trwy gysylltu â’r Tîm Cyn-fyfyrwyr – alumni@uwtsd.ac.uk