Hafan YDDS  -  Alumni  -  Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod a Champws Caerfyrddin

Cyn-Fyfyrwyr Caerfyrddin

Croeso i gyn-fyfyrwyr a astudiodd ar gampws Caerfyrddin.

Mae'r campws yn gyfuniad o'r hen a'r newydd gyda'i adeiladau yn ymestyn dros dair ganrif - ysblander yr Hen Goleg sy'n dyddio yn ôl i 1848 a'r Ganolfan S4C drawiadol ac eiconig a leolir yn Yr Egin, yn ganolfan greadigol a adeiladwyd yn 2018.

Sir Gaerfyrddin, a adwaenir hefyd fel Gardd Cymru, gyda'i thraethau hardd, trefi hanesyddol a llawer o siopau annibynnol. Cewch ymweld â'r rheilffordd ager, castell Dinefwr neu erddi hardd Aberglasney. Mae tŷ cwch Dylan Thomas yn cynnig golygfa ac arhosfan brydferth wrth gerdded taith Dylan yn Nhalacharn. 

Mae Sir Gaerfyrddin yn fan harddwch, ac mae'r campws yn enwog am ei gymuned glos a gofalgar, lle adwaenir myfyrwyr gan eu henwau, nid gan rifau yn unig.   

 

Gobeithiwn y byddwch yn mwyhau darllen am y newyddion yn y Drindod a champws Caerfyrddin ac y cewch eich annog i fod yn rhan o'i bresennol a'i ddyfodol drwy Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Gall aelodau fanteisio ar y gwasanaethau lu sydd ar gynnig, gan gynnwys:

  • Digwyddiadau aduno
  • Y Celfyddydau a digwyddiadau diwylliannol 
  • Cylchlythyrau 
  • Cyfleoedd gwaith
  • Rhwydweithio a digwyddiadau busnes 

Cadwch mewn cysylltiad i ddysgu rhagor!  

Rydym hefyd yn awyddus i glywed oddi wrthych felly e-bostiwch eich awgrymiadau i alumni@uwtsd.ac.uk.

Urdd Y Graddedigion - Prifysgol Cymru

Urdd Y Graddedigion - Prifysgol Cymru

Yn union fel daw graddedigion o’r Drindod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Coleg, mae pawb sy'n ennill gradd ym Mhrifysgol Cymru yn dod yn aelod o Urdd y Graddedigion. 

Os cyflwynwyd gradd i chi yn un o seremonïau graddio'r Brifysgol, fe fyddwch wedi eich cyfarch a'ch croesawu ar y llwyfan gan gynrychiolydd yr Urdd.

Bydd yr Urdd yn cadw cofrestr weithredol o aelodau. Ein nod yw cynnwys cynifer o raddedigion ag sy'n bosibl ar y gofrestr fel y gallant dderbyn gohebiaeth am yr Urdd a'i gweithgareddau.

Os ydych chi'n raddedig ym Mhrifysgol Cymru, ac am gael eich rhoi ar y rhestr, gellwch wneud hynny drwy ysgrifennu at:

Logo dwyieithog

Y Clerc
Urdd y Graddedigion
Cofrestrfa Prifysgol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NS

Hanes

Hanes

Coleg y Drindod, a sefydlwyd yn 1848, yw’r coleg hyfforddi athrawon hynaf sydd yn dal ar ôl yng Nghymru. Pan agorodd, ei unig swyddogaeth oedd hyfforddi dynion ifainc ar gyfer dysgu mewn ysgolion cynradd eglwysig.

Cofnodir Walter Powell fel y myfyriwr cyntaf – roedd yn ddwy ar bymtheg oed ac wedi gweithio fel cynorthwy-ydd mewn siop a werthai ddillad a bwyd. Gweithiasai myfyrwyr eraill fel labrwyr, seiri coed, teilwriaid ac argraffwyr. O fewn blwyddyn, ymunodd y cyntaf o nifer o lowyr o Flaenafon, Gwent.

Dengys enw gwreiddiol y sefydliad – Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy – ddyheadau’r sefydlwyr. Cododd cnwd newydd o athrawon cymwysedig i staffio ysgolion elfennol (cynradd) gyda’r nod o leihau anwybodaeth eang ymysg plant.

Roedd dechreuadau’r Coleg yn fach a syml iawn – cafodd 22 o fyfyrwyr eu recriwtio yn y flwyddyn gyntaf, a’u dysgu gan dri aelod o staff gan gynnwys y Prifathro, William Reed. Roedd y gofynion mynediad yn cynnwys gwybodaeth ddigonol o rifyddeg a gramadeg, ynghyd â’r gallu i gymryd nodiadau yn gywir o arddweud. Yn y blynyddoedd cynnar, oherwydd rheoli craff, llwyddodd y Coleg i oroesi bygythiadau i’w gau oherwydd niferoedd bach a chyllid cyfyngedig.

Roedd y drefn ar y dechrau yn galed iawn. Bob bore, codwyd y myfyrwyr am hanner awr wedi chwech i gael bath oer. Ni newidiodd bywyd beunyddiol y coleg ryw lawer yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y cwricwlwm ar y dechrau yn cynnwys pynciau corfforol, megis garddio a gwaith coed, er mwyn atgoffa myfyrwyr o’u safle gwerinol mewn bywyd. Bu i un arolygydd ar ymweliad yn 1849 longyfarch y Coleg ar ddarparu ‘cymysgedd call o lafur corfforol â gwaith ar eu heistedd’. Câi’r myfyrwyr wersi Lladin a Groeg hefyd. Cynigwyd hefyd ddarlithoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ar y dechrau drwy gynllun a ariannwyd gan y Llywodraeth ond daeth hwn i ben yn fuan, cyn ailddechrau eto yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd naws mynachaidd i’r amserlen a chedwid rheolaeth lem ar y cysylltiad â phobl y dref (yn enwedig y menywod). Rhoddid dirwyon i fyfyrwyr am bob math o bethau, yn amrywio o gysylltu â merched i danio powdwr gwn yn yr ystafelloedd cysgu!

O ran hamdden, mwynhâi’r myfyrwyr gyngherddau cerddorol, ysmygu, darllen papurau newydd yn yr ystafell gyffredin a chwaraeon gwahanol. Daeth ffotograffiaeth yn hobi poblogaidd yn niwedd Oes Victoria (gweler y llun). Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, ehangodd y Coleg ei ystod o chwaraeon i gynnwys badminton, tennis a hoci. Sefydlwyd Cymdeithas Gymraeg i drefnu cyngherddau, eisteddfodau ac ymweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond serch hynny mewn rygbi y rhagorai’r  Coleg. Daeth nifer o gyn-fyfyrwyr yn chwaraewyr rhyngwladol neilltuol gan gynnwys Sid Judd, Ronnie Boon, Dewi Bebb a Barry John.

Mae aduniadau ffurfiol y coleg yn dyddio yn ôl i’r 1870au ac erbyn y cyfnod rhwng y ddau ryfel sefydlwyd canghennau cyn-fyfyrwyr y coleg ledled Prydain.  Bu i adeiladu Undeb y Myfyrwyr yn 1972 roi canolbwynt ar gyfer adloniant. Yn ystod y 1920au a’r 30au ehangodd y campws i wneud lle i’r cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr. Codwyd neuadd Dewi yn 1925. Dyma atgofion myfyriwr o’r cyfnod hwnnw am yr amodau byw yn y bloc newydd:

“Roedd cadw’n gynnes yn y rhan newydd yn ystod misoedd y gaeaf yn broblem oherwydd er bod yno system gwresogi, anaml iawn y cyrhaeddai’r gwres yr ail lawr. Er mwyn ymolchi, roedd yn rhaid inni ddibynnu ar ddŵr glaw yr oeddem yn ei ddal ar do’r adeilad ac roedd hwn wastad yn oer”.

Yn sgil derbyn merched yn fyfyrwyr yn 1957 ehangwyd ymhellach drwy adeiladu neuadd Non. Cafwyd prosiectau eraill yn y 1970au a’r 80au oedd yn cynnwys canolfan adnoddau i athrawon a bloc addysg i gyflenwi anghenion myfyrwyr athrawon. Agorodd y llyfrgell yn 1995, gan adlewyrchu portffolio eang y cyrsiau a gynigir yn y Drindod. Yn yr ugain mlynedd diwethaf, mae’r Coleg wedi cynyddu’r amrywiaeth o gyrsiau drwy gyflwyno cynlluniau gradd BA a BSc, yn ogystal â Chyrsiau Gradd Meistr mewn amryw o bynciau.

Mae’r Coleg wastad wedi ceisio cadw ei dri o’i werthoedd hanesyddol, sef hyfforddiant o safon i athrawon, hyrwyddo ethos Cristnogol mewn addysg, a dwyieithrwydd.  Yn 1858, ar ddegfed pen-blwydd y Coleg, awgrymodd un arolygydd bod dysgu yn ‘yrfa ddiddiolch sy’n arwain at heneiddio’n gynnar ac, yn ôl pob tebyg, at dlodi.’  Efallai y bydd myfyrwyr yn yr unfed ganrif ar hugain yn cytuno â hyn.

Os hoffech ddarllen mwy am hanes y Coleg, mae dau lyfr ar gael:

Hanes hollgynhwysol a llawn darluniau:
R. Grigg, History of Trinity College Carmarthen 1848-1998 (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)

Hanes mewn ffotograffau, dwyieithog:
R. Grigg, A Noble Institution (Llandysul: Gwasg Gomer, 1998)

Cedwir archifau'r coleg yn y Casgliadau Arbennig ac Archifau ar gampws Llambed. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech weld yr archifau, cysylltwch â Nicky Hammond ar n.hammond@uwtsd.ac.uk neu specialcollections@uwtsd.ac.uk.