Mae’r tîm gyrfaoedd yn y Drindod Dewi Sant yma i’ch cynorthwyo, pa un a ydych yn chwilio am waith ar ôl graddio, yn meddwl am newid gyrfa neu’n ystyried astudiaeth ôl-raddedig.
Nid oes terfyn amser ynghylch pryd y gallwch gysylltu a gofyn am gymorth. Gall graddedigion ddefnyddio ein porth gyrfaoedd, ac yna dewis newid i gyfrif graddedigion.
Mae gennym dîm o ymarferwyr profiadol sydd â chymwysterau proffesiynol ym maes Cyfarwyddyd Gyrfaoedd mewn Prifysgolion ac rydym yma i’ch helpu i ddeall eich opsiynau gyrfa ac i ddatblygu eich Cyflogadwyedd.
Gallwn hefyd helpu gydag ymholiadau ynghylch:
- Dechrau arni a meddwl am syniadau am Yrfaoedd
- Deall eich opsiynau a gwneud penderfyniadau cadarn
- Canfod a chael profiad gwaith o safon
- Deall eich opsiynau Ôl-raddedig
- Dechrau eich Busnes eich hun
- Chwilio am Swyddi’n effeithiol
- CVs, Ceisiadau a Datganiadau Personol
- Cyfweliadau a chanolfannau Asesu
Gallwch gysylltu â thîm y Gwasanaeth Gyrfaoedd drwy:
E-bost: careers@uwtsd.ac.uk
Darganfyddwch sut y gall ein tîm gyrfaoedd gefnogi eich dyfodol.