Hafan YDDS  -  Alumni  -  Gwneud Rhodd

Gwneud Rhodd

Cefnogi'r Drindod Dewi Sant

Mae eich cymorth ariannol yn galluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau sy’n newid bywydau ac i gamu ymlaen yn eu hastudiaethau.

Gallwch ddewis cyfrannu at y gronfa caledi myfyrwyr, neu brosiect penodol, gwneud rhodd untro neu adael cymynrodd yn eich ewyllys. Mae rhoddion i gefnogi’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau bod ein cenhadaeth, ‘trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ yn cael ei hategu trwy ddarparu cyfleusterau, ymchwil, profiadau ar y campws a ffrwd o dalent, o israddedigion i arweinwyr mewn diwydiant, waeth beth fo’u hamgylchiadau ariannol, gan ddarparu mynediad i addysg uwch i bawb.

Croesewir rhoddion ar gyfer y canlynol:

  • Y gronfa cymorth a chaledi myfyrwyr
  • Entrepreneuriaid myfyrwyr
  • Profiadau myfyrwyr – cyfleoedd i deithio ac astudio
  • Bwrsarïau ac ysgoloriaethau pwnc-benodol

Os hoffech drafod prosiect codi arian, anfonwch e-bost i Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr ar alumni@uwtsd.ac.uk

Cymorth Rhodd – ar gyfer trethdalwyr cymwys yn y DU

Pan fyddwch yn gwneud cyfraniad trwy Gymorth Rhodd, gallwn hawlio treth yn ôl gan Gyllid a Thollau EM ar y gyfradd sylfaenol yr ydych eisoes wedi'i thalu ar eich rhodd. Mae hynny'n golygu bod eich rhodd i ni yn werth 25% yn fwy, heb ddim cost ychwanegol i chi.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio'n ôl y gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch a'r gyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i'r Brifysgol ar eich ffurflen dreth Hunanasesu.