Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau
Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar 18 Tachwedd 2010 trwy uno Prifysgol Cymru Llambed a Choleg Prifysgol Y Drindod Caerfyrddin, o dan Siarter Frenhinol 1828 Llambed. Ar 1 Awst 2013, daeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn rhan o PCYDDS.
Siarter Frenhinol y Brifysgol yw’r hynaf yng Nghymru a Lloegr ar ôl prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Yn 2011, daeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn Noddwr Brenhinol y Brifysgol.
Mae Grŵp PCYDDS yn cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn rhan o strwythur grŵp sector deuol sy’n cynnwys colegau addysg bellach a’r brifysgol. Mae gan Grŵp PCYDDS dros 25,000 o ddysgwyr ar draws 17 o gampysau mewn lleoliadau gwledig a dinesig.
Gyda’n gilydd, rydym yn cyflwyno manteision clir, diriaethol i ddysgwyr, cyflogwyr, diwydiant a chymunedau trwy gynnig ymagwedd alwedigaethol o lefel mynediad i ymchwil ôl-ddoethurol. Cryfheir y Grŵp ymhellach maes o law pan fydd Prifysgol Cymru yn ymgyfuno â PCYDDS.
Lleolir prif gampysau’r Brifysgol mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas canol dinas Abertawe ac yn nhrefi gwledig Llambed a Chaerfyrddin yn Ne-orllewin Cymru. Lleolir Academi Llais Ryngwladol Cymru, dan Gyfarwyddiaeth Dennis O’Neill a’r Fonesig Kiri Te Kanawa yn noddwr arni, yng Nghaerdydd. Hefyd mae Ysgol Busnes gan y Brifysgol yn Llundain ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Mae gan PCYDDS gynllun strategol eglur a chyffrous sy’n gosod pwyslais ar ddysgu cymhwysol, disgyblaethau academaidd cadarn ac ymrwymiad eglur ag arloesi, mentergarwch a throsglwyddo gwybodaeth. Mae’r Brifysgol aml-gysylltiol hon yn gyrru newid strwythurol a strategol yn ei flaen sydd â chysylltiadau agos â diwydiant, busnes a mentergarwch. Mae gan y Brifysgol broffil cenedlaethol amlwg – gan gyflawni dros Gymru a chan ddathlu’i chymeriad arbennig ar lwyfan Brydeinig a rhyngwladol.
Mae profiadau’r dysgwr yn gwbl ganolog i’n cenhadaeth. Rydym wedi gwneud cynaliadwyedd yn greiddiol i’n cynllunio. Ehangwyd datblygu cynaliadwy drwy gyfrwng ein sefydliad arobryn, y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Mentre (INSPIRE) ac rydym wedi ymgorffori datblygu cynaliadwy ar draws ein dysgu, addysgu, cwricwla, campws, cymuned a diwylliant. Ein nod yw ysbrydoli unigolion a datblygu graddedigion ac ymarferwyr adfyfyriol a all wneud gwahaniaeth yn y gymdeithas. Trwy ddysgu seiliedig ar waith, ymchwil o ragoriaeth ryngwladol a rhwydweithiau trosglwyddo gwybodaeth, ein nod yw chwarae rôl ganolog mewn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, adfywio economaidd a datblygu cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol.
BETH
Mae Cyflymydd Digidol SMART yn dîm o gynghorwyr arbenigol o'r diwydiant sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i hybu eu helw.
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a'i gefnogi gan y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru). Nid oes yna unrhyw gostau ariannol i'r busnesau sy'n cymryd rhan.