UWTSD Home - Astudio Gyda Ni - Ar y Campws, Ar lein, Ar gael i ti - Cymdeithasu
Cymdeithasu
Rhan fawr o fynd i’r Brifysgol yw gwneud ffrindiau newydd a darganfod diddordebau newydd ac rydyn ni’n ceisio sicrhau y byddwch yn cael profiad Prifysgol gwych yn Y Drindod Dewi Sant.
Mae ein campysau'n cynnig amgylchedd cyfeillgar a hamddenol gyda digon o gyfleoedd i chi gyfarfod â ffrindiau a mwynhau'r ystod o gyfleusterau a gwasanaethau.
Cynigia ein campysau a’n amgylchedd ar-lein brofiad personol, sy’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch profiad yn y brifysgol.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ac mae ganddo ddewis gwych o Glybiau a Chymdeithasau i’ch galluogi i gyfarfod â’ch cyd-fyfyrwyr a chymryd rhan ym mywyd y Brifysgol.
Oherwydd y Coronafeirws rydyn ni wedi cynllunio ein cyfleusterau ar y campws i sicrhau y cewch chi barhau i fwynhau manteision bywyd campws mewn amgylchedd diogel, fydd yn cynnwys mesurau pellhau cymdeithasol a mwy o gyfleusterau hylendid.
O gyfleoedd i fwynhau coffi gyda ffrindiau yn un o’n caffis, i wneud defnydd o’n cyfleusterau iechyd a ffitrwydd pan fydd yn briodol, eich iechyd a’ch diogelwch chi yw ein blaenoriaeth ni felly rydyn ni’n sicrhau ein bod yn hyblyg i allu ymateb yn gyflym i ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch cyd-destun y Coronafeirws.