Cyflawnwch eich potensial llawn yn Y Drindod
Mae gan Y Drindod hanes hir o gynnig rhaglenni trwy ddysgu o bell.
Mae’r Drindod yn cydnabod nad yw mynychu darlithoedd ar gampws yn gweddu pawb, a dyna pam rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni y gellir eu hastudio o gysur eich cartref – neu ble bynnag arall y dewiswch!
Fel dysgwr ar-lein/o bell yn Y Drindod byddwch yn ymuno â chymuned fywiog, ryngwladol o ddysgwyr sy’n dod atom o bob cefndir.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn Dysgu o Bell Sut i wneud cais
Cyrsiau Ar-lein/o Bell
Rhestrir cyrsiau Busnes a’r Dyniaethau ar-lein yn y rhestr A-Z isod.
Cyrsiau Israddedig
- Astudiaethau Celtaidd (BA)
- Athroniaeth, Crefydd a Moeseg (BA) – Dysgu o Bell
- Athroniaeth, Crefydd a Moeseg (BA) – Dysgu o Bell – Blwyddyn Sylfaen
- Y Beibl a Diwinyddiaeth (BA, Diploma Graddedig)
- Y Beibl a Diwinyddiaeth (BA, Diploma Graddedig) – Blwyddyn Sylfaen
- Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) (BA)
- Busnes Cymhwysol (Rheolaeth) (BA)
- Busnes Cymhwysol (Marchnata) (BA)
- Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (BA) – Dysgu o Bell
- Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (BA) – Dysgu o Bell – Blwyddyn Sylfaen
- Ar gael yn Saesneg: Liberal Arts with Distance Foundation Year
- Rheolaeth Digwyddiadau Byd-eang (BA)
- Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol (BA, Dip AU, Tyst AU)
- Rheolaeth Twristiaeth Fyd-eang (BA)
Cyrsiau Ôl-raddedig
- Ar gael yn Saesneg:Ancient History (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Ancient History (MRes)
- Ar gael yn Saesneg:Ancient Religions (MA)
- Astudiaethau Celtaidd (MA)
- Astudio Crefyddau (MA)
- Dehongli’r Beibl (MA)
- Dehongli’r Beibl (MRes)
- Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Classics (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Christian Theology (MTh)
- Cultural Astronomy and Astrology (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Cybersecurity and Digital Forensics (MSc, PgDip, PgCert)
- Ar gael yn Saesneg:Design (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Digital Skills for Health and Care Professions (MSc, PGDip, PGCert, UniCert)
- Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf)
- Ar gael yn Saesneg:Ducere-Wales Online MBA: One Year Plus Major Industry Project
- Ar gael yn Saesneg:Ducere-Wales Online MBA: Data and Cyber Leadership
- Ar gael yn Saesneg:Ducere Wales Online MBA: Health Sector Digital Transformation
- Ar gael yn Saesneg:Education Studies (MA, PGDip, PGCert)
- Ar gael yn Saesneg:Equity and Diversity in Society (MA)
- Moeseg (MA, PGDip)
- Moeseg – Moeseg Gofal a Meddygol (Tyst. Ôl-radd)
- Moeseg – Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid (Tyst. Ôl-radd)
- Ar gael yn Saesneg:Greek (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Greek and Latin (Postgraduate Certificate and Diploma)
- Ar gael yn Saesneg:Harmony and Sustainability (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Heritage (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Heritage (MRes)
- Ar gael yn Saesneg:International Hotel Management (MBA)
- Ar gael yn Saesneg:Interfaith Studies (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Interfaith Studies (DProf)
- Ar gael yn Saesneg:Islamic Studies (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Islamic Studies (MRes)
- Ar gael yn Saesneg:Latin (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Medieval Studies (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Medieval Studies (MRes)
- Ar gael yn Saesneg:MBA (Online) (Part-time)
- Ar gael yn Saesneg:MBA (Online) (Sustainability Leadership)
- Ar gael un Saesneg: MBA (Online) Social Entrepreneurship
- Ar gael yn Saesneg:Modern Literature (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Peace Studies (MA, PGDip, PGCert)
- Ar gael yn Saesneg:Philosophy (MA)
- Ar gael yn Saesneg:Philosophy and Religion (MA)
- Tystysgrif Ôl-radd mewn Polisi a Chynllunio Iaith
- Ar gael yn Saesneg:Religious Experience (MRes)
Coleg Y Dyniaethau
I ddysgu rhagor am ein cyrsiau Dyniaethau ar-lein, ewch i wefan coleg iHumanities.
Gwasanaethau’r Llyfrgell ar gyfer Dysgwyr o Bell
Nid yn unig y cewch wybodaeth ar-lein drwy’r Llyfrgell, ond hefyd nifer o wasanaethau eraill, fel apwyntiadau un-i-un gydag ymgynghorwyr y llyfrgell a mannau astudio rhithwir. I ddysgu rhagor, ewch i Gwasanaethau ar gyfer Myfyrwyr Dysgu o Bell ac Ymchwilwyr.
Beth a Ddywed Ein Myfyrwyr
Rhaid mai un o fuddion mwyaf y rhyngrwyd yw addysg. Yn fam a gofalwr i blentyn ag anableddau, prin oedd yr opsiynau lleol gen i astudio, ond dim byd fel y cyfleoedd a gyflwynwyd gan Y Drindod i ddysgu o bell.
Mae wedi agor y drws i doreth o bosibiliadau ar gyfer y rheiny fel fi na fyddent fyth wedi gobeithio gallu cael mynediad i bynciau mor arbenigol o’r blaen. Rwy’n astrolegwr ac roedd arna’i eisiau astudio’r hanes a’r cyfraniad y mae’r wybrennau serennog wedi’u gwneud at stori dynolryw, felly cofrestrais ar yr
Ar y dechrau, roeddwn yn teimlo bod diffyg sgiliau truenus gen i i ymgymryd â rhywbeth o’r fath, ond cefais gefnogaeth ac anogaeth gan y staff wrth i mi ffeindio fy nhraed ar ddechrau’r cwrs.
Cysylltais i â’r myfyrwyr eraill a nawr mae gen i ffrindiau i rannu’r daith gyda nhw. Gallaf wneud y gwaith darllen ac ysgrifennu pan fo’n gyfleus rhwng fy nghleientiaid ac mae strwythur da i’r cwrs, felly rwy’n gwybod beth i’w wneud a sut i’w wneud.
Mae popeth sydd arnom ei angen yno ar y cyfrifiadur, ddydd neu nos, ac mae hyn yn rhoi mwy o amser ar gyfer astudio. Rwy’n teimlo’n falch o’r hyn rwy’n ei gyflawni ac ni fuaswn i fyth wedi gallu rhoi cynnig arni heb addysgu ar-lein.
Ffordd wych i ddysgu!
Fy enw yw Andrew Oberg ac rwy’n astudio ar y rhaglen MA Athroniaeth Gymhwysol gan ddysgu o bell.
Mae’n debyg y dylwn ddechrau drwy ddweud ychydig amdanaf fi fy hun. Rwy’n byw yn Tokyo, Japan, gyda’m gwraig a’m plentyn ac rwy’n addysgu mewn prifysgol sydd tuag awr i’r gogledd orllewin o’r ddinas. Yn ddiweddar, penderfynais yr hoffwn ddatblygu fy addysg am gwpl o resymau.
Yn anad dim, rwyf wedi bod eisiau astudio athroniaeth ers blynyddoedd ar lefel graddedig ond ni fuodd erioed amser da i wneud hynny. Hefyd, er mai fy maes galwedigaethol cyfredol yw hyfforddi iaith, teimlais ei fod yn ddoeth ymestyn y meysydd rwy’n gymwys i’w haddysgu ac felly rhoi mwy o gyfleoedd gyrfaol i mi fy hun, efallai, yn y dyfodol.
Rhoddodd Y Drindod Dewi Sant i mi’r cyfle i astudio’r maes rwy’n dwlu arno a gallu gwneud hynny wrth weithio’n llawn amser. Mae staff gweinyddol pob adran rwyf wedi cysylltu â nhw wedi bod yn eithriadol o gefnogol, cwrtais, a phrydlon wrth ymdrin â fi.
Yn fyfyriwr dysgu o bell, mae’n debyg mai chi eich hun fydd eich her fwyaf o ran dod o hyd i’r amser sydd arnoch ei angen ar gyfer eich astudiaethau. Yn sicr, dyma fu’n wir i mi. Yn bersonol, y ffordd orau i mi baratoi ar gyfer fy aseiniadau yw astudio wrth gymudo ar y trên bob dydd, weithiau gyda’r nos, ac yn aml ar benwythnosau.
Mae hyn wedi galw am rai aberthau personol, ond nid gormod, a gan fy mod yn wir yn mwynhau’r hyn rwy’n ei astudio, dydw i ddim yn teimlo bod yr aberthau wedi bod yn negyddol o gwbl.
Rwy’n dwlu ar fod yn fyfyriwr MA Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg ac yn ystyried fy hun yn ffodus iawn i ddysgu am bwnc mor wych ac i ennill cymhwyster ôl-raddedig yn y pendraw yma yn Y Drindod Dewi Sant.Roedd y maes pwnc MA yn gymhelliant mawr i mi ac roeddwn yn hoffi’r syniad o allu astudio a pheidio gorfod symud am ei fod yn gweddu fy ffordd o fyw.
Rwy’n eithriadol o frwdfrydig ynghylch astudio Astroleg ac mae’r opsiwn Dysgu o Bell yn rhoi’r cyfle i mi astudio fy hoff bwnc.Rwy’n gwerthfawrogi cwrdd â phobl o’r un meddylfryd sydd â diddordeb yn yr un maes pwnc.Mae cynllun y rhaglen yn strwythuredig a threfnus iawn.Mae’r ffaith y gallwch ddal lan ar ddarlith drwy wrando arno eto yn arbennig o ddefnyddiol.
Ceir llawer o wybodaeth ychwanegol ar Moodle ac mae’r dolenni i’w cyrchu yno hefyd. Mae llawer o adnoddau eraill ar gael ar gyfer myfyrwyr ac mae’r tiwtoriaid yn barod iawn i help a gwneud eu gorau glas drosoch. Maent yn darparu cyngor da yn seiliedig ar eu profiadau nhw eu hunain ac yn ceisio eich helpu i osgoi’r maglau. Mae staff y llyfrgell hefyd wedi bod yn gymwynasgar iawn wrth fy helpu i ddod o hyd i gyfnodolion academaidd i wneud fy mhrosiect ymchwil.
Gwnes fwynhau’r Ysgol Haf yn fawr a’r cyfle i gwrdd â’r tiwtoriaid a’r myfyrwyr eraill wyneb i wyneb. Cefais brofiad hollol wych ac rwyf mor falch fy mod wedi mynd. Pe bawn i’n gallu cynnig cyngor i ddarpar fyfyriwr, buaswn i’n dweud rheolwch eich amser a pheidiwch â gadael traethodau tan y funud olaf!
Rwy’n fyfyriwr aeddfed (aeddfed iawn — bron yn bensiynwr!), yn astudio cwrs MA mewn Astudiaethau Canoloesol fel myfyriwr dysgu o bell. Pan adawais yr ysgol yn 1972, gwnes i astudio Gwyddor Planhigion ac yna PhD mewn Imiwnoleg. Ar ôl ychydig flynyddoedd yn ymgymryd ag ymchwil ôl-ddoethurol, gwnes gwrs TAR a threulio gweddill fy oes waith fel athro gwyddoniaeth ac yn ysgrifennu gwerslyfrau gwyddoniaeth.
Fodd bynnag, mae fy nghalon wedi bod yn y Celfyddydau erioed, yn arbennig Hanes a Hanes Celf. Roedd y syniad y buaswn i ryw ddydd yn gallu dilyn y diddordeb hwn wedi bod yng nghefn fy meddwl erioed, ac yn 2002 dechreuais astudio BA yn Y Dyniaethau. Ar ôl gorffen hwn, y cwestiwn oedd ‘Beth nesaf?’ — a chwiliais am gwrs dysgu o bell MA mewn Astudiaethau Canoloesol.
Roedd angen iddo fod yn hyblyg, o ran y modylau oedd ar gael ac o ran gofynion amser — ni allaf gadw at batrwm astudio rheolaidd bob blwyddyn, ond rwy’n dueddol o gael pyliau byr lle mae gen i ddigon o amser rhwng cyfnodau lle mae’n rhaid i astudio gymryd sedd ôl. Gan edrych ar yr holl gyrsiau oedd ar gael, roedd Y Drindod Dewi Sant yn ticio’r holl flychau oedd gen i — a phan siaradais i gyda Janet Burton (Athro Hanes Canoloesol) roedd hi mor bositif, cyfeillgar a pharod i helpu y cwympodd bopeth i’w le ac roeddwn i ar bigau i ddechrau arni.
Hyd yma, yr uchafbwyntiau yw archwilio dulliau newydd (wel, newydd i mi beth bynnag) o feddwl am Hanes Canoloesol a’r cyswllt, cefnogaeth ac adborth gwych rwyf wedi’u cael bob tro gan fy nhiwtor. Gan ystyried fy oed, nid yw ‘cynlluniau gyrfaol’ wir yn berthnasol! Ond mae arna’i eisiau dal ati i astudio; buaswn i’n gweld ei eisiau’n ofnadwy pe bawn i’n stopio. Pwy a ŵyr, efallai y gwna’i droi fy MA yn PhD!
Adnoddau Ar-lein
Moodle
Bydd y rhan fwyaf o raglenni’n defnyddio cyfuniad o dechnolegau newydd a thraddodiadol gan gynnwys tiwtorialau ymchwil ac ar-lein unigol. Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar raglen, bydd gennych fynediad at ein rhith-amgylchedd dysgu o’r enw Moodle. Yn amodol ar eich rhaglen, bydd gennych fynediad, trwy Moodle, at ystod o becynnau dysgu, casgliad sy’n tyfu o adnoddau, cyfnodolion electronig ac e-lyfrau a grëwyd yn arbennig.
Curatr
Mae rhai o gyrsiau’r Drindod yn defnyddio platfform dysgu cymdeithasol o’r enw Curatr. Yn yr amgylchedd newydd hwn, fe gewch deithiau dysgu wythnosol sy’n gofyn i chi arsylwi a chymryd rhan er mwyn symud ymlaen.
Yno hefyd, fe gewch dasg wythnosol, a elwir yn borth, y mae angen ei gwblhau cyn y byddwch yn gallu cael mynediad at daith dysgu’r wythnos ganlynol. Byddwch yn gallu mynd yn ôl unrhyw bryd, i edrych ar wythnosau blaenorol eto, ond ni allwch symud ymlaen nes y byddwch wedi adeiladu’r sail wybodaeth sydd ei hangen i ryngweithio gyda cham nesaf eich dysgu.
MyDay
Yn fyfyriwr gyda’r Drindod Dewi Sant, bydd gennych hefyd fynediad i MyDay, drwy brif wefan y brifysgol. Bydd MyDay yn rhoi mynediad i chi at Moodle, gwasanaethau llyfrgell, gwasanaethau myfyrwyr, desg gymorth TG, arweiniad gyrfaoedd, e-bost y brifysgol, newyddion a digwyddiadau, Undeb y Myfyrwyr, Microsoft Office 365 a storfa ar-lein drwy OneDrive Microsoft.
Bydd dysgu drwy’r platfformau hyn yn rhoi i chi:
- Hyblygrwydd — ffordd o astudio pan fydd yn eich gweddu chi
- Cymorth cymheiriaid — mae fforymau ar-lein yn rhoi ffordd ichi gyfathrebu gyda myfyrwyr eraill a darlithwyr
- Arddull ddysgu hyblyg — offeryn dysgu sy’n gallu cynnwys llawer o arddulliau dysgu, clybodol a gweledol gyda’r posibilrwydd o recordio darlithoedd
- Atgyfnerthu dysgu — gallwch ailedrych ar ddeunydd nifer o weithiau
- Gwaith tîm a grŵp — mae Moodle yn galluogi cydweithio rhwng cymheiriaid ar waith prosiect y gellir ei gynnal o bell
- Asesiadau — Mae Moodle yn rhoi mynediad i chi i ‘Turnitin’, offeryn sector-benodol, arfer gorau ar gyfer cyflwyno eich gwaith a chael adborth.
Clustnodir tiwtor personol i bob myfyriwr, sef cydlynydd y rhaglen fel arfer, a byddant yn gallu cyrchu ystod o wasanaethau myfyrwyr sy’n cynnwys sesiynau ymsefydlu a hyfforddi, help a chymorth TG, sgiliau astudio ac amrywiaeth o sesiynau datblygu personol, a gyflwynir ar-lein neu drwy ‘gymorthfeydd’ sgiliau astudio dysgu o bell.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau dysgu ar-lein ac o bell Y Drindod, cysylltwch ag info@uwtsd.ac.uk neu am sut i wneud cais, ewch i’n hadran .