Mae gan Y Drindod Dewi Sant gymuned ôl-raddedig amrywiol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob math, p'un ai a ydych wedi graddio'n ddiweddar neu wedi bod allan o fyd addysg ers amser.
Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer yr holl gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir ac Ymchwil Ôl-raddedig (Ac eithrio Hyfforddiant Athrawon TAR) drwy glicio’r ddolen isod, yn ogystal ag yn uniongyrchol o'r dudalen cwrs berthnasol.
Gwnewch Gais Nawr Benthyciadau ôl-raddedig
Yn ogystal â’r manylion personol ac academaidd sydd eu hangen ar y ffurflen gais, bydd rhaid i chi enwi dau ganolwr. Yn ddelfrydol, fe ddylai eich canolwyr allu darparu geirda academaidd, ond mae geirdaon proffesiynol neu bersonol (nid teulu) yn dderbyniol i ymgeiswyr nad ydynt wedi bod mewn addysg yn ddiweddar. Os nad ydych yn siŵr ynghylch cael geirda, cysylltwch â’r tiwtor derbyn a fydd yn gallu rhoi arweiniad i chi.
Am ragor o gyngor ac arweiniad ar sut i wneud cais, cysylltwch â'n Tîm Derbyn yn yr Adran Gofrestrfa yn admissions@uwtsd.ac.uk
Hefyd, ceir gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn adran Ryngwladol y safle hwn.
Fel arall, os nad ydych yn gallu llenwi’r ffurflen gais ar-lein, gallwch gyflwyno cais drwy lenwi’r ffurflen berthnasol isod a’i dychwelyd i Adran y Gofrestrfa.
Hyfforddiant Athrawon TAR
Dylid gwneud ceisiadau i raglenni TAR Cynradd ac Uwchradd drwy wefan ceisiadau UCAS. Am ragor o wybodaeth am y broses gwneud cais ac i ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin, ewch i’n tudalennau TAR pwrpasol.