Mae'r llenyddiaeth ar Gytgord, yn gysyniad athronyddol eang ac yn ganllaw ar gyfer gweithredu, yn dyddio’n ôl dros fil o flynyddoedd.

Mae’r dudalen yn cynnwys gweithiau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith yn y canlynol:

  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Yr Athrofa Cytgord
  • Y Prosiect Cytgord

Rydym yn cyhoeddi testunau ffisegol ac ar-lein.


Harmony book Cover

EUB Tywysog Cymru, Tony Juniper ac Ian Skelly, Harmony: A New Way of Looking at our World (London: Harper Collins, 2010).

Fe wnaeth y llyfr hwn symbylu’r diddordeb cyfredol mewn Cytgord trwy gyfuno’r raddfa fawr (y cosmos) a’r raddfa fach (sut rydym yn byw fel unigolion), y byd-eang (newid yn yr hinsawdd) a'r lleol (ein hamgylchedd a'n cymunedau).


Richard Dunne

richard dunne harmony book cover

Richard DunneHarmony: A new way of looking at and Learning about Our World: A Teachers Guide

Darllenwch ddarnau o’r llyfr

Mae Richard Dunne yn bennaeth ysgol gynradd (sy’n addysgu plant rhwng 4 a 6 oed) yn y DU. Mae’r ddogfen hon yn cofnodi sut mae’n rhoi egwyddorion Cytgord ar waith wrth addysgu’n ymarferol.


The harmony Debates

The Harmony Debates: Croeso i’r recordiad o lansiad The Harmony Debates, 22 Hydref 2020.

Cyhoeddwyd gan Wasg Canolfan Sophia mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy

Gyda Nick Campion, Jane Davidson, Tony Juniper, Rupert Sheldrake, Sneha Roy, Toto Gill, Mark Goyder, Richard Dunne, Mike Durke, M.A.Rashed, Luci Attala, Leo Downer a Caroline Lohmann-Hancock.