Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC) - Billy Woods
Billy Woods, Uwch Gymrawd Arloesi a Gwyddonydd Clinigol, BIP Hywel Dda
Mae Billy Woods yn Uwch Gymrawd Arloesi yn ATiC ac yn Wyddonydd Clinigol gyda Sefydliad TriTech newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae Billy wedi ymuno ag ATiC drwy secondiad blwyddyn o hyd, yn rhan o’r cydweithredu rhwng y Ganolfan a Sefydliad TriTech.
Roedd Billy wedi hyfforddi mewn peirianneg adsefydlu ar raglen hyfforddi gwyddonwyr y GIG, gan weithio’n agos â chleifion mewn meysydd megis ymddaliad y corff a symudedd, technoleg gynorthwyol, dadansoddi cerddediad clinigol a datblygu dyfeisiau meddygol.
Drwy ddod o hyd i atebion ymarferol i broblemau a oedd yn wynebu unigolion â namau niwrolegol, ym maes diwydiant ac yn y GIG, mae wedi datblygu brwdfrydedd dros wella canlyniadau i gleifion.