Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC) - Cyfleusterau
Cyfleusterau
Mae sawl ffordd y gall ATiC gefnogi busnesau fel rhan o’n ffocws i ddarparu cymorth i ddatblygu dyfeisiau cynorthwyol, addasol ac adferol.
Mae ein Labordy Ymchwil i Brofiadau Defnyddwyr (UX) yn greiddiol i’r hyn a wnawn a’r hyn y gallwn gynnig mynediad iddo. Mae’n darparu ystod gynhwysfawr o ddulliau cipio data i ddadansoddi profiadau defnyddwyr wrth ryngweithio gyda chynhyrchion, gwasanaethau, systemau a mannau ffisegol a digidol.
Mae gan ein Labordy UX ddau le addasadwy:
Mae’r Macro Labordy yn lle amlbwrpas sy’n caniatáu i ni gipio rhyngweithiadau corfforol a chymdeithasol ar raddfa fawr. Mae’n cipio profiadau defnyddwyr gydag amrywiaeth o ysgogiadau - gan gynnwys prototeipiau maint llawn a brasfodelau o’r amgylchedd, i efelychiadau rhithwir estynedig, llwyr ymdrochol.
Mae’r Micro Labordy yn caniatáu i ni ddadansoddi rhyngweithiadau defnyddwyr ar raddfa lai mewn amgylchedd ‘pod’ rheoledig. Rydym yn defnyddio tracio llygaid, delweddu thermol a chyfuniad o fesurau seicoffisiolegol a goddrychol i gael dirnadaeth fanwl o gyflyrau gwybyddol ac affeithiol y defnyddiwr wrth ryngweithio â chynnyrch.
Mae gennym hefyd systemau cipio realiti helaeth ar gyfer sganiau 3D cydraniad uchel o'r corff dynol, gwrthrychau ac amgylcheddau, yn ogystal â systemau o'r radd flaenaf ar gyfer cipio symudiad corff llawn heb farcwyr a dadansoddiad bio-fecanyddol. Gallwn hefyd helpu i ddatblygu prototeipiau, gan ddefnyddio ein systemau argraffu 3D ac oherwydd bod gennym nifer o systemau maes symudol, gallwn hefyd dracio profiadau defnyddwyr y tu allan i amgylchedd y labordy.
Profiadau Defnyddwyr
O fewn Labordy UX ATiC rydym yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o ffyrdd biometrig a seicoffisiolegol o fesur Profiadau Defnyddwyr:
- Labordy arsylwi ymddygiad gan ddefnyddio meddalwedd dadansoddi Noldus Viso, Observer XT a FaceReader
- System Ddadansoddi Simi Motion i Gipio Symudiad Corff heb Farcwyr
- Gweithfannau rhithrealiti (VR) pŵer uchel
- System Fesur Seicoffisiolegol Gludadwy (GSR, ECG, EEG)
- Camera Delweddu Thermol FLIR T1K HD
- Tracio Llygaid: Symudol, o bell a rhithrealiti (VR)
Cipio Realiti
Amrywiaeth o systemau sganio o safon diwydiant ar gyfer sganio a mesur y corff, gwrthrychau ac amgylcheddau gofodol yn fanwl gywir. Gyda’r gallu i ddefnyddio’r wybodaeth hon i fodelu, dadansoddi a hefyd gwireddu mewn rhithrealiti.
- Artec Eva a Space Spider
- Mantis Vision F6 a F6-SR
Prototeipio
Mae ein hamrywiaeth o weithdai a chyfleusterau yn caniatáu i ni brototeipio a gorffennu mewn ystod eang o ddeunyddiau:
- Llwybryddion CNC
- Torwyr laser
- Torrwr jet dŵr
Gyda phrototeipio 3D cyflym mewn amrywiaeth o ddefnyddiau, megis plastig, ffibr carbon, cwyr a resin, i weddu i lawer o gymwysiadau. O argraffu pen bwrdd cyfarwydd i safon peirianneg fel:
- Stratasys
- Ultimaker
- Formlabs
- Bigrep Studio
- Markforged