Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Ymchwil Mewn Celf a Dylunio  -  Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC)  -  Dr Fatma Layas

Dr Fatma Layas

Fatma Layas

Cymrawd Arloesi ATiC

Mae Dr Fatma Layas yn arbenigwr ar brofiad defnyddwyr (UX). Mae ei phrif feysydd ymchwil ym maes Rhwydweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar:

  • Ddylunio technolegau’n gynhwysol ar gyfer pobl anabl a phobl oedrannus.
  • Defnyddioldeb a hygyrchedd.
  • Mesur UX. 

Mae Fatma wedi ymuno â'r tîm yn ddiweddar a bydd yn cydweithio ag aelodau eraill o dîm ATiC ac amrywiaeth o fentrau ym maes iechyd i gefnogi gwahanol brosiectau ymchwil.

Cyn iddi ymuno ag ATiC, roedd Fatma yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil a Darlithydd Cysylltiol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.Cyn hynny, hi oedd is-lywydd Cymdeithas y Myfyrwyr Graddedig (GSA) ym Mhrifysgol Efrog, lle cwblhaodd ei PhD mewn cyfrifiadureg. 

Mae gan Fatma brofiad mewn gweithio ar y cyd â dylunwyr, timau datblygu, defnyddwyr posibl, a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod dyluniad y cynnyrch yn bodloni anghenion, disgwyliadau a gofynion pobl.

Mae ganddi brofiad hefyd o gasglu, dadansoddi a syntheseiddio ymchwil defnyddwyr gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol, wyneb yn wyneb ac o bell i lywio’r broses dylunio pensaernïaeth.