Hafan YDDS  -  Ymchwil  -  Ymchwil Mewn Celf a Dylunio  -  Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC)  -  Dr Shelley Doolan

Shelley Doolan

Dr Shelley Doolan

Shelley yw Rheolwr Prosiect y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC).

Daw Shelley â’i phrofiad o weithio ar brosiectau ymchwil ac arloesi cydweithredol gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu a diogelu arian ar gyfer prosiectau Ewropeaidd aml-bartner ac ar hyn o bryd mae’n Gydlynydd prosiect Hybiau Entrepreneuriaeth y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHEH) a ariennir gan Erasmus+.

Roedd ymchwil PhD Shelley’n canolbwyntio ar rôl technoleg o fewn arfer crefft. Mae ei diddordeb ymchwil mewn datblygu dull sy’n gwneud defnydd priodol a sensitif o dechnoleg i ehangu sgiliau presennol yn hytrach na’u disodli. Archwiliwyd deilliannau ymchwil esblygol drwy arfer ac astudiaethau achos cydweithredol, a gefnogwyd gan ddull arbrofol.

Mae’r gwaith yn archwilio'r potensial ar gyfer offer Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur a Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur a sut y gallai’r sgiliau sy'n gysylltiedig â’u defnyddio gael eu hymgorffori o fewn repertoire yr ymarferydd crefft. Mae’r ymchwil yn archwilio terfynau arfer digidol yn nhermau paramedrau proses a deilliannau o ran deunydd yn ogystal â chodi ac ymateb i gwestiynau sy’n ymwneud â chreadigrwydd a dilysrwydd o fewn arfer digidol.

Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys arwyddocâd y weithred o wneud a’i effaith ar greadigrwydd a lles i’r gwneuthurwr, a’r effaith ar ‘ddefnyddiwr’ yr arteffact a saernïwyd.
Ar hyn o bryd mae Shelley yn datblygu’r ymchwil y tu hwnt i’w harfer ei hun a chyfrwng gwydr, ac yn dod o hyd i ffyrdd o gymhwyso ac addasu canfyddiadau o fewn cyd-destunau addysgol a diwydiannol.