Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC) - Ein Partneriaid
ATiC yw un o’n pedwar partner yn rhaglen Accelerate (Cyflymydd Technoleg Arloesi Iechyd Cymru).
Mae Accelerate yn brosiect ar y cyd arloesol rhwng tair o brifysgolion Cymru a Hwb Gwyddor Bywyd Cymru. Mae’n helpu i drosi syniadau arloesol yn dechnoleg, cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal, yn gyflym.
Trwy Accelerate, gall ein partneriaid eich helpu i fynd i’r afael ag ystod eang o heriau cysylltiedig ag ymchwil a datblygu.
- Mae gan Hwb Gwyddor Bywyd Cymru rôl trosolwg strategol. Mae ganddi wybodaeth helaeth o heriau ac anghenion gwasanaethau iechyd a gofal Cymru ac yn darparu cysylltiadau ag ecosystem gwyddorau bywyd ehangach Cymru.
- Cyflymydd Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd – wedi’i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae gan CIA lawer o gysylltiadau yn yr ysbyty, â doctoriaid, cleifion ac ymchwilwyr clinigol. Gall helpu arloeswyr i gyrchu a gweithio gyda’r adnoddau hyn.
- Canolfan Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe – mae gan y ganolfan galluoedd labordy gwlyb, o fioleg celloedd i nanodechnoleg, yn ogystal â gwyddonydd data a chysylltiadau cryf ar draws yr ecosystem o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Wedi’i gyd-sefydlu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF), Grŵp Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddor Bywyd Cymru a byrddau iechyd, nod pennaf Accelerate yw creu gwerth economaidd parhaus yng Nghymru.
Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol
Technium 1
Glannau Abertawe
Heol y Brenin
Abertawe
SA1 8PH
Ffôn: 01792 481232
E-bost: atic@uwtsd.ac.uk