Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC) - Tim Stokes
Mae Tim yn Gymrawd Arloesi ATiC
Mae gan Tim gefndir fel artist, gwneuthurwr a meddyliwr creadigol, a defnyddia amrywiaeth o gyfryngau digidol, delwedd symudol, defnyddiau a phrosesau ffisegol. Ymunodd â phrosiect ATiC yn ddiweddar ac mae’n trosglwyddo ei sgiliau creadigol i’r tîm.
Bydd Tim yn gweithio mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o fentrau o fewn y meysydd iechyd a gwyddorau bywyd i gefnogi prosiectau Ymchwil ac Arloesi.
Mae diddordebau ymchwil Tim yn cynnwys posibiliadau creadigol ar gyfer y symiau mawr o fetreg defnyddiwr a data bio sydd wedi’u cynaeafu ar ein dyfeisiau personol, a sut y gellir datblygu’r rhain ymhellach yn gynhyrchion a meddalwedd. Ymhlith y diddordebau bydd sut y gellir cyfrif am a dadansoddi’r cyfryw ddata yn y dyfodol gan ddylunwyr, gwyddonwyr, peirianwyr a chlinigwyr i atal afiechyd ac anaf ac arwain ein iechyd a’n llesiant.
Ar hyn o bryd, mae Tim yn ymchwilio i argraffu 3D, gan ddehongli metreg defnyddiwr a ffyrdd o ryngweithio gyda meddalwedd digidol i arloesi iechyd, ffitrwydd a llesiant.
Mae Tim wedi gweithio fel technegydd a darlithydd o’r blaen ar draws ystod o gyrsiau arbenigol am nifer o flynyddoedd yng Ngholeg Celf Abertawe, YDDS. Ochr yn ochr â hyn mae e wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau creadigol, treftadaeth ddiwylliannol yn y gymuned yn lleol a rhyngwladol.
Mae arfer creadigol Tim yn ymwneud ag archwilio defnyddiau’n fetafforig a’u cymysgu’n ffisegol a’r modd maen nhw’n dylanwadu ar y corff neu’r cyrff. Mae ei waith cyfredol yn ystyried gwneud a chreu yn ffordd o oroesi, gan adeiladu strwythurau a defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau hapgael, mannau ac amgylcheddau.