Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC) - Yolanda Rendon Guerrero
Yolanda Rendon Guerrero
Mae Yolanda yn Gymrawd Arloesi ATiC
Pensaer yw Yolanda yn ôl ei chrefft ac mae’n wneuthurwraig brofiadol. Daw gyda hi i’r tîm ATiC gymhelliant cryf i gymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol sy’n cael effaith positif ar iechyd a lles dynol.
Yn dilyn ei gwaith blaenorol gyda Fab Lab Sevilla a Fab Lab Amsterdam bu’n archwilio’r cyfuniad o dechnegau crefftio traddodiadol gyda diwydiant 4.0, y mae wedi’i ymgorffori fel rhan o’i gwaith.
Ar lefel ymchwil, mae wedi ymchwilio i’r posibiliadau o ran pecyn prosthesis DIY cost isel i bobl sydd ag angen cerdded pellterau maith am fywoliaeth ac sydd mewn perygl o gael eu dieithrio; optimeiddio dylunio celfi trwy offer dylunio digidol a pharametric i leihau’r gwastraff materol sydd yn sgil gwahanol dechnegau gwneud; ac effaith cynlluniau cadwraeth mewn ardaloedd canol dinas sy'n tyfu'n barhaus.
Mae ganddi ddiddordeb mewn dylunio parametrig, gwneud prototeipiau, electroneg ac arbrofi gyda deunyddiau newydd ac mae’n edrych ymlaen at weithio ar y cyd ag amrywiaeth eang o fentrau o feysydd iechyd a gwyddorau bywyd.