Ers graddio, dwi wedi gweithio i gwmnïau theatr fel Taking Flight a’r Tin Shed. Dwi hefyd yn gweithio llawer yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, yn perfformio yn y 'Polar Express' yn Birmingham ac 'One Man Two Guvnors' yn Theatr y Courtyard yn Henffordd. Dwi hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc mewn gwahanol rolau yn ogystal, a dwi wrth fy modd â hyn!
Dewisais i’r Drindod Dewi Sant oherwydd bod y cwrs yn cynnwys popeth y gallech ei ddymuno wrth hyfforddi i fod yn actor. Mae’r Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol gwych yn y diwydiant felly roeddwn i’n teimlo byddwn i mewn dwylo diogel drwy astudio yno. Roeddwn i hefyd wrth fy modd â'r syniad o symud i dref glan môr hyfryd yng Nghymru!
Ar y cwrs gwnaethom ni astudio amrywiaeth eang o ffurfiau a disgyblaethau. O Shakespeare i Berfformio Cerddorol, Theatr mewn Addysg i Theatr yr Absẃrd, gwnaethom ni roi sylw i bob maes yn wir.
Byddwn i'n dweud mai'r peth gorau a'm paratôdd ar gyfer y diwydiant oedd y gweithwyr broffesiynol y bues i’n gweithio gyda nhw, a byddaf yn parhau i weithio gyda rhai ohonyn nhw ar hyn o bryd.
Y peth mwyaf arbennig am fy nghyfnod i yn Y Drindod Dewi Sant oedd sut y paratôdd fi’n unigolyn. Tyfodd a thyfodd fy hyder dros y tair blynedd roeddwn i yno, ac fe roddodd i mi'r sgiliau personol sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant.