Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar gampws SA1 Abertawe, neu ar ein campws yng Nghaerfyrddin, neu ar ein campws cymunedol yng Nghaerdydd.

Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd) wedi'i llunio ar gyfer y rheini sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg a gofal plant, ac mae’n caniatáu iddynt astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau gwaith.  Mae darlithoedd yn cael eu cyflwyno gyda’r hwyr ac ar ambell ddydd Sadwrn er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i weithio tra byddant yn cwblhau eu gradd a bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o arfer a damcaniaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar a fydd yn  rhoi iddynt ddealltwriaeth lawn a chytbwys o’r pwnc.

Social Care Wales Logo

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd (BA)
Cod UCAS: 8Q18
Ymgeisio drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Gofyn Am Fwy o Wybodaeth
E-bost Cyswllt: g.tinney@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Dr Glenda Tinney BSc


£9,000
£13,500

Pam dewis y cwrs

  1. Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi am yrfa foddhaol a chyffrous ar draws ystod o ddisgyblaethau'n cynnwys addysgu a gwaith cymdeithasol.
  2. Mae astudio dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth.
  3. Dosbarthiadau o faint bach, aseiniadau arloesol sy’n cyfoethogi sgiliau cyflogaeth a dim arholiadau.
  4. Cyflwynir ein gradd garlam ddwy flynedd unigryw gyda’r nos i’r rheini sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar.
  5. Profiadau myfyrwyr- ehangu gorwelion drwy ymweliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol. Rydym yn cynnig ystod o gymwysterau ychwanegol i gyfoethogi'ch sgiliau a’ch gwybodaeth gan gynnwys wythnos cyflogadwyedd arbennig.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Datblygwyd y rhaglen er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc.  Mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau yn yr amgylchedd gwaith â damcaniaethau’n gysylltiedig ag addysg a gofal plant. Bydd y dysgu’n digwydd drwy drafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol. Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar. Hefyd mae ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.

Pynciau Modylau

Addysgir y rhaglen drwy ddull addysgu bloc arloesol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio’n fanwl ar un pwnc ar y tro.

Rydym wedi gweld bod y dull hwn yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i ennill gwell dealltwriaeth o gynnwys y pwnc. Mae myfyrwyr yn astudio chwe phwnc ar bob lefel o’r rhaglen, pob un yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o agweddau penodol ar addysg a gofal blynyddoedd cynnar.

Mae myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, llesiant, chwarae, llythrennedd, diogelu, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Mae arweinyddiaeth hefyd yn ffocws allweddol, gan ddatblygu sgiliau arwain y blynyddoedd cynnar.

Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)

  • Chwarae plant: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol)
  • Datblygiad Dynol (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Amlieithrwydd, Aml-feddwl (20 credyd; gorfodol)
  • Y 1,000 Diwrnod Cyntaf (20 credyd; gorfodol)
  • Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credyd; gorfodol).

Lefel 5 (Dip AU a BA)

  • Ennyn Parch a Rhyfeddod – Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored (20 credyd; gorfodol)
  • Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol)
  • Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credyd; gorfodol)
  • Diogelu: Arfer, Deddfwriaeth a’r Tîm Aml-ddisgyblaeth (20 credyd; gorfodol)
  • Llesiant, Gofal a Byw yn Iach (20 credyd; gorfodol).

Lefel 6 (BA)

  • Arweinyddiaeth Gatalytig – Hawliau, Gwydnwch a Newid Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol)
  • Cwricwla’r Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
  • Arweinyddiaeth Gynhwysol Gweithio gyda’n gilydd i Gefnogi Teuluoedd (20 credyd; gorfodol)
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Systemau Ansawdd (20 credyd; gorfodol)
  • Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
  • Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau. Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy.  Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol. Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.

Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.   

Dolenni Perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd at addysg gan y bydd ganddynt brofiadau a sgiliau bywyd a all gefnogi eu cais. Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr wedi cael neu’n gweithio tuag at gymhwyster gofal plant / addysg lefel 3 perthnasol fel NNEB, CACHE, BTEC, NVQ, Safon Uwch.  Fodd bynnag, mae profiad arall hefyd yn werthfawr. Byddant hefyd yn gweithio neu’n gwirfoddoli’n rheolaidd mewn lleoliad neu weithle blynyddoedd cynnar sy’n darparu gwasanaethau i blant ifanc a theuluoedd.

Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Yn rhan o’r broses gwneud cais bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwrdd â'r tiwtoriaid. Rhydd hyn gyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, gwrdd â’r darlithwyr a gofyn cwestiynau am y radd. Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob tro’n ymddiddori ym mhrofiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant.

Cyfleoedd Gyrfa

Gyrfaoedd Blynyddoedd Cynnar

Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  •  Cymorth anghenion dysgu ychwanegol.
  • Arweinydd ar ôl ysgol
  • Gwarchodwr plant
  • Rolau elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
  • Swyddog Cymorth Cymunedol
  • Hwylusydd Teuluoedd
  • Swyddog Cymorth Teuluoedd
  • Swyddog Rhianta
  • Cymorth Bugeiliol
  • Gweithwyr chwarae
  • Arweinwyr Ystafell
  • Rheolwr Lleoliad
  • Gweithwyr Ieuenctid

Astudiaethau Pellach

Mae rhai o’n hisraddedigion yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.

Costau Ychwanegol

Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44. 

Gall myfyrwyr orfod talu costau ychwanegol oherwydd:

  • mae’n rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored. 
  • o bryd i’w gilydd, yn amodol ar ymchwil cefndir myfyriwr ar gyfer pynciau aseiniad, efallai y bydd angen iddynt deithio i leoliadau blynyddoedd cynnar. 

Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd yr Ysgol yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain. 

Yn ogystal â hyn, mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i'r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

Dyfyniadau Myfyrwyr

Kirsty Goff, lefel 6, a raddiodd yn 2018

 “Rydw i mor falch fy mod wedi dod fan hyn, ni fuaswn i eisiau bod yn unman arall yn gwneud unrhyw gwrs arall.”


Emma Blofield a raddiodd yn 2017

 “Mae astudio’r radd wedi bod yn help enfawr i mi, nid yn unig wrth adeiladu ar fy ngwybodaeth a’m sgiliau ond hefyd drwy fy ngalluogi i gredu ynof fi fu hun.  Gyda chymorth y Brifysgol, ffrindiau hen a newydd, fy nheulu cefnogol a’m hawydd personol i lwyddo, cwblheais i'r radd yn llwyddiannus gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf!”


Anna Latham, myfyrwraig Lefel 6, a raddiodd yn 2018.

 “Rwy’n teimlo ei fod yn fraint ac anrhydedd enfawr i fod yn astudio yn YDDS lle rwy’n credu bod y cwrs Blynyddoedd Cynnar heb ei ail! Diolch yn fawr iawn am eich hymrwymiad anhygoel a’ch gwaith caled wrth ddarparu cwrs mor rhagorol, gan gynnwys y gweithgareddau allgyrsiol, ac am gynnig cymaint o gefnogaeth ac anogaeth i ni fyfyrwyr.”


Aimee Cousins | Blynyddoedd Cynnar

 “Mae’r darlithwyr eu hunain yn astudio a chanddynt gariad amlwg at y pwnc. Maent yn rhoi hyder i chi! Rwyf nawr yn deall pam ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud – o ran theori. Er enghraifft, rydym yn gwybod y theori fathemategol a gwyddonol, tu ôl i flociau pren (Frobebel).”

Beth nesaf: Rwyf nawr yn gweithio i ‘Action for Children’. Mae’r cwrs wedi fy helpu i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc drwy ddefnyddio mentrau Dechrau’n Deg.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Os hoffech ddysgu rhagor am astudio yng Nghaerfyrddin neu Abertawe, gallwch ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored.