Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (BA)
Mae’n bosibl astudio'r cwrs hwn ar ein campws yn SA1 Glannau Abertawe neu yng Nghaerfyrddin.
Mae’r radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen tair blynedd, llawn amser, sy’n cynnwys darlithoedd a phrofiad ar leoliad ymarferol.
Mae’r rhaglen Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar wedi’i chynnwys yn rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau gofynnol i weithio o fewn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Fel rhan o’r rhaglen hon, mae myfyrwyr yn mynychu lleoliad mewn amrywiol leoliadau blynyddoedd cynnar i gasglu’r profiad galwedigaethol sy’n angenrheidiol er mwyn ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Mae hefyd yn gymhwyster sy’n cynnig cymwyseddau ymarferydd graddedig yn Lloegr fel rhan o’r Early Childhood Studies Degree Network (ECSDN).
Lluniwyd yr amserlen i gynorthwyo myfyrwyr i gael digon o amser i gwblhau profiadau ar leoliad yn ogystal â dysgu yn y Brifysgol. Gallai lleoliadau addas gynnwys:
- darparwyr addysg feithrin a gynhelir a nas cynhelir
- meithrinfeydd, Cylchoedd Meithrin
- dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion cynradd
- Chanolfannau Dechrau’n Deg.
Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus yn cael gradd yn ogystal â thrwydded i ymarfer o fewn ystod o sefydliadau blynyddoedd cynnar.
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (BA)
Cod UCAS: YBC1
Ymgeisio drwy UCAS
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (Dip HE)
Cod UCAS: YBC5
Ymgeisio drwy UCAS
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (Cert HE)
Cod UCAS: YBC6
Ymgeisio drwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth Blog Myfyrwyr
£9,000
£13,500
Pam dewis y cwrs
- Cymhwyster a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn drwydded i arfer yn y sector blynyddoedd cynnar - gan gefnogi cyflogadwyedd a datblygiad proffesiynol.
- Mae’n darparu cymwyseddau ymarferydd graddedig yn unol â’r ECSDN yn Lloegr.
- Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus a chyffrous ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
- Dosbarthiadau bach ac aseiniadau arloesol sy’n cyfoethogi sgiliau cyflogaeth a dim arholiadau.
- Profiadau myfyrwyr - ehangu gorwelion trwy ymweliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth.
- Mae astudiaethau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg wrth galon ein darpariaeth.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau â damcaniaethau’n ymwneud â datblygiad cyfannol.
Bydd y gweithgareddau dysgu’n cynnwys trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol.
Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar.
Bydd siaradwyr gwadd yn darparu cyfleoedd i glywed gan arbenigwyr sy’n arwain y sector ac yn cadw myfyrwyr yn gyfredol â pholisi a datblygiadau diweddar o fewn y sector blynyddoedd cynnar.
Mae hefyd ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.
Addysgir y rhaglen drwy ddull addysgu bloc arloesol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio’n fanwl ar un pwnc ar y tro.
Rydym wedi gweld bod y dull hwn yn llwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr i ennill gwell dealltwriaeth o gynnwys y pwnc. Mae myfyrwyr yn astudio chwe phwnc ar bob lefel o’r rhaglen, pob un yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o agweddau penodol ar addysg a gofal blynyddoedd cynnar.
Mae myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud ag addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gyda ffocws ar agweddau ar blentyndod megis datblygiad cyfannol, llesiant, chwarae, llythrennedd, diogelu, dysgu yn yr awyr agored a chynhwysiant. Mae arweinyddiaeth hefyd yn ffocws allweddol, gan ddatblygu sgiliau arwain y blynyddoedd cynnar.
Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Chwarae plant: Damcaniaeth ac Arfer (20 credyd; gorfodol)
- Datblygiad Dynol (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modiwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Amlieithrwydd, Aml-feddwl (20 credyd; gorfodol)
- Y 1,000 Diwrnod Cyntaf (20 credyd; gorfodol)
- Yr Ymarferydd Proffesiynol (20 credyd; gorfodol).
Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Ennyn Parch a Rhyfeddod – Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Awyr Agored (20 credyd; gorfodol)
- Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol)
- Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar gyfer Dysgu (20 credyd; gorfodol)
- Diogelu: Arfer, Deddfwriaeth a’r Tîm Aml-ddisgyblaeth (20 credyd; gorfodol)
- Llesiant, Gofal a Byw yn Iach (20 credyd; gorfodol).
Lefel 6 (BA)
- Arweinyddiaeth Gatalytig – Hawliau, Gwydnwch a Newid Cymdeithasol (20 credyd; gorfodol)
- Cwricwla’r Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
- Arweinyddiaeth Gynhwysol Gweithio gyda’n gilydd i Gefnogi Teuluoedd (20 credyd; gorfodol)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Systemau Ansawdd (20 credyd; gorfodol)
- Adennill Paradwys? Cynaliadwyedd yn y Blynyddoedd Cynnar (20 credyd; gorfodol)
- Cynorthwyo Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd; gorfodol).
Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau.
Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy.
Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol.
Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Alison Rees Edwards
- Ann Davies
- Ann Marie Gealy
- Dawn Jones
- Glenda Tinney
- Gwyneth Davies
- Natalie Macdonald
- Paul Darby
- Sioned Saer
- Cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 88-104 o bwyntiau UCAS.
- Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Mae’r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael ysgol ar ôl astudio amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, CACHE a Bagloriaeth Cymru. Gellir cysylltu’r pynciau cwrs hyn â datblygiad a gofal plant; fodd bynnag, mae’r radd hefyd yn briodol ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau gofal plant penodol ac sydd wedi astudio pynciau fel iaith, y celfyddydau, cerddoriaeth, drama, mathemateg, y gwyddorau neu’r Dyniaethau.
- Mae’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd at addysg.
- Yn rhan o’r broses gwneud cais, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu diwrnodau ymweld. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, cwrdd â’r darlithwyr, gofyn cwestiynau am y radd a mynd am dro o amgylch y safle gyda myfyriwr cyfredol.
- Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob amser yn ymddiddori ym mhrofiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant ifanc, er enghraifft, lleoliadau ysgol/coleg. Mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ddiddordebau, hobïau a chyfrifoldebau’r ymgeiswyr.
- Er mwyn ennill cymwyseddau ymarferydd graddedig mae’n bosibl y bydd angen TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu gymwysterau llythrennedd a rhifedd cyfatebol addas arall hefyd.
Gyrfaoedd yn y Blynyddoedd Cynnar
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
- Arweinydd ar ôl ysgol
- Gwarchodwr plant
- Rolau gydag elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
- Swyddog Cymorth Cymunedol
- Hwylusydd Teuluoedd
- Swyddog Cymorth Teuluoedd
- Swyddog Rhianta
- Cymorth Bugeiliol
- Gweithwyr chwarae
- Arweinwyr Ystafell
- Rheolwr Lleoliad
- Gweithwyr Ieuenctid
Astudiaethau Pellach
Mae rhai o’n graddedigion yn mynd yn eu blaenau i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.
Mae rhaglenni ôl-raddedig fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae astudiaethau o’r fath wedi galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i symud ymlaen yn eu maes gwaith cyfredol ac i eraill symud i yrfaoedd newydd.
Llwybr i addysgu
Yn fyfyriwr Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant, byddwn yn sicrhau y cewch gyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd, ar yr amod y byddwch yn bodloni’r gofynion cymwysterau mynediad. Wrth wneud cais ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd fe fyddwn, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cefnogi drwy proses gwneud cais a chyfweld ffug.
Astudiaeth ôl-raddedig a llwybrau amgen
Hefyd, bydd graddedigion yn gallu symud ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-radd yn eu maes diddordeb; mae dosbarth da mewn gradd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-radd.
Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.
- Teulu a Chymunedau
- Nyrsio
- Therapi Chwarae
- Polisi a Llywodraeth
- Ymchwil
- Gwaith Cymdeithasol
- Therapi Lleferydd ac Iaith
- Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
- Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn.
- Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol gan fod rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.
- Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y rhageln yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.
- Yn ogystal â hyn, mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr.
- Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i'r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.
Kirsty Goff, lefel 6, a raddiodd yn 2018
“Rydw i mor falch fy mod wedi dod fan hyn, ni fuaswn i eisiau bod yn unman arall yn gwneud unrhyw gwrs arall.”
Emma Blofield, a raddiodd yn 2017
“Mae astudio’r radd wedi bod yn help enfawr i mi, nid yn unig wrth adeiladu ar fy ngwybodaeth a’m sgiliau ond hefyd drwy fy ngalluogi i gredu ynof fi fu hun. Gyda chymorth y Brifysgol, ffrindiau hen a newydd, fy nheulu cefnogol a’m hawydd personol i lwyddo, cwblheais i'r radd yn llwyddiannus gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf!”
Anna Latham, myfyrwraig Lefel 6, a raddiodd yn 2018
“Bu’n wythnos wych o gyfleoedd a dysgu, diolch! Rwy’n teimlo ei fod yn fraint ac anrhydedd enfawr i astudio yn Y Drindod Dewi Sant, ac rwy’n credu bod y rhaglen Blynyddoedd Cynnar heb ei hail! Diolch yn fawr iawn am eich hymrwymiad anhygoel a’ch gwaith caled wrth ddarparu cwrs mor wych, gan gynnwys y gweithgareddau allgyrsiol, ac am gynnig cymaint o gefnogaeth ac anogaeth i ni fyfyrwyr”
Aimee Cousins
“Mae’r darlithwyr eu hunain yn astudio a chanddynt gariad amlwg at y pwnc. Maent yn rhoi hyder i chi! Rwyf nawr yn deall pam ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud – o ran theori. Er enghraifft, rydym yn gwybod y theori fathemategol a gwyddonol, tu ôl i flociau pren (Frobebel).”
Beth Nesaf: Rwyf nawr yn gweithio i ‘Action for Children’. Mae’r cwrs wedi fy helpu i wneud gwahaniaeth i blant ifanc drwy ddefnyddio mentrau Dechrau’n Deg.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i’r adran llety i ddysgu rhagor.