Skip page header and navigation

Addysg Antur Awyr Agored (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen BA Addysg Antur Awyr Agored wedi’i llunio i ddarparu gradd sy’n drylwyr yn academaidd ac yn berthnasol yn alwedigaethol.

Yn bennaf, mae’r rhaglen wedi’i llunio i integreiddio’r sgiliau ymarferol a galwedigaethol sydd eu hangen o weithio yn y sector awyr agored gyda dealltwriaeth academaidd gref a gwerthfawrogiad o egwyddorion ehangach sy’n perthyn i feysydd addysgeg, seicoleg, cymdeithaseg, llesiant ac athroniaeth.

Er bod y rhaglen yn darparu sylfaen delfrydol ar gyfer gweithio ym maes antur awyr agored, mae hefyd wedi profi ei fod yn addas tu hwnt ar gyfer ystod o rolau cyflogaeth eraill sy’n dod i’r amlwg ym meysydd iechyd, addysg a gweithgarwch corfforol yn fwy cyffredinol.

Ydych chi’n siarad Cymraeg? Mae modylau’r cwrs hwn ar gael yn y Gymraeg. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddilyn cymaint o’u rhaglen â phosibl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Darllenwch rifyn diweddaraf y Cynefin Beacon, y cylchgrawn mewnol ar gyfer myfyrwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn Addysg Antur Awyr Agored (BA).

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
3L2N
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae Caerfyrddin Y Drindod mewn lle unigryw o ran mynediad i ystod o leoliadau gweithgarwch o’r radd flaenaf.
02
Mae’r rhaglen hon yn gallu manteisio ar ei chyfleuster arbenigol ei hun ar gyfer darpariaeth Antur Awyr Agored: Cynefin.
03
Mae gan y cwrs sylfaen cadarn a chyfoethog mewn gwaith tîm ac ymdrechu ar y cyd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae campws Caerfyrddin Y Drindod mewn lle unigryw o ran cael mynediad i ystod o leoliadau gweithgareddau o’r radd flaenaf, fel: Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Yn yr ardaloedd hyn mae rhai o gyfleoedd caiacio, arforgampau, beicio mynydd a dringo creigiau gorau’r byd. Rydym hefyd mewn lleoliad ardderchog i gerdded mynyddoedd, ogofa, caiacio dŵr gwyn a gweithgareddau mewn coetiroedd.

Mae’r rhaglen hon yn gallu manteisio ar ei chyfleuster arbenigol ei hun ar gyfer darpariaeth Antur Awyr Agored: Cynefin. Mae’r lle pwrpasol hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu’r rhaglen ymhellach gyda mynediad ehangach i adnoddau, gwell mannau addysgu a chyfleusterau ar y safle sy’n hyrwyddo’r amcan allweddol o integreiddio theori ac arfer ymhellach.

Nod tîm y rhaglen yw creu amgylchedd cynhwysol lle bydd pob aelod o staff a dysgwr yn teimlo’n saff, yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu ac yn gallu cyrraedd eu potensial.

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i ganiatáu i fyfyrwyr rhan mewn gwaith tymhorol.

Ecoleg Antur

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Yr Awyr Agored

(20 credydau)

Antur: Risg sy'n Werth ei Gymryd?

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Hwyluso Gweithgareddau Anturus

(20 credydau)

Gorfodol

Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Deall Arweinyddiaeth Antur

(20 credydau)

Seicoleg Antur Bersonol

(20 credydau)

Teithiau Cynaliadwy

(20 credydau)

Datblygu eich Proffil Proffesiynol (Lleoliad)

(20 credydau)

Dewisol

Darganfod Ffyrdd o Fyw Awyr Agored

(20 credydau)

Sylfeini ar gyfer Dysgu Corfforol ac Awyr Agored o Ansawdd Uchel

(20 credydau)

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

((60 Credyd))

Gorfodol

Digwyddiadau Tyngedfennol mewn Gweithgareddau Antur

(20 credydau)

Safbwyntiau ar Addysg Awyr Agored

(20 credydau)

Tirwedd a Hamdden Gynaliadwy

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Dewisol

Antur Cwricwlwm

(20 credydau)

Addysgeg Hyfforddi

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 96 pwynt UCAS neu’n amodol ar gyfweliad. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21 neu hŷn) sydd â phrofiad awyr agored perthnasol.

  • Nod yr asesiadau yw galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod wedi bodloni gofynion y rhaglen a chyflawni deilliannau dysgu pob modiwl.

    Gan ystyried natur ymarferol y rhaglen, mae asesiadau wedi’u dyfeisio i wneud yn fawr ar y cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain.

    Defnyddir amrywiaeth o fformatau ar gyfer gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol, yn cynnwys:

    Portffolios
    Addysgu/hyfforddi ymarferol
    Traethodau
    Cyfnodolion
    Cyflwyniadau
    Cyfryngau digidol
    Blogiau
    Cyfweliadau academaidd. 

  • Ar wahân i ddarparu pecyn cymorth cyntaf personol, cyllell afon, a rhai dillad awyr agored sylfaenol, nid oes costau ychwanegol gorfodol gyda’r rhaglen hon ar hyn o bryd.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau

  • Mae’r rhaglen Addysg Antur Awyr Agored wedi’i chyfoethogi gan ein partneriaeth sefydledig gyda phrifysgol De-ddwyrain Norwy sy’n cynnig cyfle rhagorol i astudio Sgïo Gwledig Llychlynnaidd ac Arweinyddiaeth Awyr Agored am semester yn yr ail flwyddyn.

  • Ceir nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o wahanol rolau cyflogaeth yn y sector.

    Mae yna gysylltiadau agos rhwng y rhaglen a’r cyrff proffesiynol a rheolaethol perthnasol, gyda nifer o bartneriaethau cryf gyda busnesau lleol a sefydliadau trydydd sector. Fel y cyfryw, mae myfyrwyr mewn sefyllfa dda i gysylltu eu hastudiaethau gyda’r cymunedau arfer ehangach.

    Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr ennill nifer o ddyfarniadau gan gyrff llywodraethol ar wahanol lefelau, mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae’r dyfarniadau hyn yn gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r cyrff llywodraethol perthnasol a chynnal llyfrau log o brofiad.