Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Animeiddio a VFX (BA Hons, HND, HNC)

Animeiddio a VFX (BA Hons, HND, HNC)

Ymgeisio drwy UCAS - Llawn Amser

Dod â gweledigaethau anhygoel yn fyw!

Mae ein rhaglen Animeiddio a VFX yn ystyried datblygiadau creadigol a thechnolegol wrth gynnwys elfennau dylunio cynhyrchu animeiddio a rhithiol. Cewch ragor o gyfleoedd i adeiladu portffolio cryf o waith cynhyrchu stiwdio ac Animeiddio a gwaith sy’n ffocysu ar VFX diolch i’r radd hon, a fydd hefyd yn cynyddu eich cyfleoedd i gael swydd yn y maes.

Gyda help y cwricwlwm hwn, byddwch yn gallu rheoli’n effeithiol cylch cynhyrchu llawn animeiddio digidol ac arteffactau cynhyrchu gweledol trwy ymestyn eich gwybodaeth ymarferol a deallusol ohono.

Bydd gennych y cyfle i archwilio cyfleoedd cyfoes ym maes Animeiddio Cyfrifiadurol a VFX yn greadigol a dychmygus gan gydnabod y cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol maent yn cyfathrebu o’i fewn.

Bydd twf sgiliau deallusol fel dadansoddi, dyfeisgarwch, asesu beirniadol, ac eraill yn thema trwy gydol eich dosbarthiadau ffurfiol a’r broses ddysgu. Pwrpas darlithoedd yw archwilio syniadau a damcaniaethau gan ennill gwybodaeth i gefnogi medrau artistig a thechnegol ehangach.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

BA Cod UCAS: AVF1
Gwnewch gais trwy UCAS

HND Cod UCAS: AVF8
Gwnewch gais trwy UCAS

HNC Cod UCAS: AVF9
Gwnewch gais trwy UCAS

Sut i wneud cais

Gwneir pob cais i astudio gradd israddedig llawn amser drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais trwy’r Brifysgol.

Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80.

Ewch i adran Sut i Wneud Cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: n.masih@uwtsd.ac.uk.
Enw'r cyswllt:: Nabeel Masih


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Gennym ni y mae’r unig amgylchedd cynhyrchu wedi’i efelychu yn y DU sy’n cysylltu Animeiddio gyda Ffilm a Thechnoleg Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio – i gyd o dan un piblinell stiwdio, efelychu cynyrchiadau animeiddio a wneir yn Hollywood.
  2. Gosodwn heri i chi i greu ar gyfer eich diwydiant – ac ar gyfer eich cynulleidfa, gyda briffiau byw ar gyfer ffilm, teledu a thu hwnt. Yn ddiweddar, gwnaeth myfyrwyr animeiddio weithio ar brofiadau Rhith-wirionedd ar gynnwys wedi’i animeiddio DragonFiAR, Ben10 ac Abbaand ar gyfer y llwyfan (The Little Mermaid).
  3. Amgylchedd creadigol cysylltiedig, cydweithredol. Prosiectau sy’n wynebu’r diwydiant, i gyd yn dod o berthnasau ugain mlynedd gyda chymuned o artistiaid, animeiddwyr ac artistiaid digidol.
  4. Darlithwyr â phrofiad o’r diwydiant, fel artistiaid stori ac animeiddwyr ar deitlau ffilm a gemau, gyda chymwysterau BFI, BAFTA, ComicCons. Mae ein cynhadledd animeiddio SAND (Swansea Animation Days) yn cynnwys cydweithwyr o DNeg, MPC, Blizzard, EA, Framestore a rhagor.
  5.  Eich Gweledigaeth. Eich Llais. Ein hymrwymiad i’r ddau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs
  • Technegau animeiddio clasurol
  • Dyluniadau wedi’u harneisio gan dechnoleg
  • Sgiliau sy’n rhagori ar ddarganfyddiadau

Ein nod yw rhoi bywyd i’ch celf. Cewch gyfle i danio eich dychymyg neu rediad stori arbennig, i weld eich breuddwydion yn dod yn fyw ar sgrin.

Rydym yn dwlu ar stori. Rydym yn dwlu ar ddylunio cynhyrchu a gwaith cysyniadol. Rydym yn dwlu ar animeiddio. Boed hynny’n 2D, ‘stop frame’, 3D – mae animeiddio digidol yn holl-drochol.

Peth prin yw cael cymaint o amser cyswllt mewn Prifysgol y dyddiau hyn. Mae ein staff yn byw am gelf ac animeiddio, a chreu ein gwaith ein hunain. Rydym yn darparu’r cymorth gorau er mwyn gwneud i’ch riliau sefyll allan.

Lluniwyd y cwrs hwn i’ch helpu chi. Dewch chi o hyd i’r hyn rydych chi’n dwlu arno – o ran ffilm, dylunio cysyniadol, modelu, unrhyw beth wedi’i animeiddio, ar unrhyw ffurf – ac fe helpwn ni chi i wireddu eich breuddwydion.

Mae ein cyfleusterau Animeiddio Cyfrifiadurol pwrpasol yn cynnwys labordy cyfrifiaduron mawr gyda chaledwedd sy’n cynnwys yr holl feddalwedd sydd ei angen i gynhyrchu modelau ac animeiddiadau (e.e. MAYA, Z-Brush, Unreal, ayb).

Cynhelir gweithdai’n rheolaidd i helpu i danategu’r gwaith a wneir mewn dosbarthiadau, ac ar amrywiaeth o gamau cynhyrchu (e.e. golygu ôl-gynhyrchu a gwaith camera, yn aml drwy ffrindiau ar y radd Ffilm).

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BA)

  • Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Dylunio Amgylchedd (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Animeiddio Cymeriad (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Gynhyrchu Rhithwir (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Astudiaethau Gweledol (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BA)

  • Animeiddio Cymeriad Uwch (20 credyd; gorfodol)
  • Mecaneg y Corff ac Animeiddio Creaduriaid (20 credyd; gorfodol)
  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Dylunio Cynhyrchu Rhithwir (20 credyd; gorfodol)
  • Effeithiau Gweledol (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)

  • Perfformiad Cymeriadau Uwch (20 credydau; gorfodol)
  • Goleuo a Rendro Uwch (20 credyd; gorfodol)
  • Tueddiadau sy’n Codi (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Datblygu Portffolio Personol (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Mae llawer o’r briffiau a gwaith cwrs a’r gwaith y bydd rhaid i chi ei gyflwyno yn gofyn i chi greu rhywbeth ffres, newydd, ysbrydoledig – a’r cyfan yn ffocysu ar y diwydiant. Bydd gennych fewnbwn creadigol ar fydau newydd a dychmygus.

Tiwtorialau, darlithoedd, cyflwyniadau, crynodebau ac ymarferion a gyfoethogir yn weledol – gyda golwg ar gysyniad bob tro; gan feddwl o hyd am sut i ymestyn y gwaith hwn ar gyfer riliau arddangos. Yn aml, bydd adborth wedi’i ddarlunio a/neu’n llawn awgrymiadau mwy gweledol i helpu gyda dyluniadau amgen, symudiadau, strwythur naratif, ayb, ayb.

Gofynnwn i chi ddefnyddio cit anhygoel. Rydym yn harneisio technoleg – yn ei reoli – trwy ddarlunio, cintiqs, gwneud modelau, meddalwedd 2D a 3D, technegau cynhyrchu a setiau sgiliau.

Rydym yn darparu llawer o’r pethau sylfaenol, gyda heriau penodol i’ch dechrau ar y daith – ac i mewn i AU – gan ofyn i chi anelu’n uchel.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau â Diwydiant

Animeiddio

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch portffolio o waith.

Ein cynnig arferol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) lefel TGAU, ynghyd â phas mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

  • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
  • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
  • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag o leiaf gradd Clod
  • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
  • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn

Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig yn unig ar ganlyniadau academaidd. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

Cyfleoedd Gyrfa

Cerrig sarn i ddiwydiant!

Mae bod yn berchen ar radd animeiddio yn caniatáu i chi feddwl am lawer o wahanol ddiwydiannau – a bydd gennych sgiliau trosglwyddadwy er mwyn gallu symud o un i’r llall. Mae gan rai o’n graddedigion eu cwmnïau gemau, delweddu neu gynhyrchu eu hunain. Mae rhai’n gweithio fel entrepreneuriaid ar eu brandiau eu hunain. Mae llawer yn dod o hyd i waith ar brosiectau, ffilmiau hir ac mewn tai cynhyrchu eithriadol.

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn timau sy’n ennill Oscars ac ar ffilmiau nodwedd.

  • Boxtrolls
  • Captain America
  • Chronicles of Narnia
  • Fantastic Beasts
  • Guardian of the Galaxy
  • Hotel Transylvania
  • Iron Man 2
  • Jungle Book
  • Kubo and The Two Strings
  • Man of Steel
  • Prometheus
  • Skyfall
  • Thor
  • World War Z

a llawer iawn mwy.

Costau Ychwanegol

Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Byddwn ni’n darparu’n deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.

Disgwylir i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudiaethau a rhoi gwybod i chi am gyflenwyr priodol pe baech yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn neu yn ystod eich astudiaethau.

Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) er mwyn i chi fynd ati i wneud eich gwaith cwrs, gallech ddod â’ch dyfeisiau digidol eich hun gyda chi, ond eto, cysylltwch â ni’n gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer teithiau tramor – mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac fel arfer ar brisiau gostyngedig i’n myfyrwyr.

Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

Charlotte Preston

“Roeddwn yn hoffi’r gwaith ymarferol yn ystod darlithoedd yn fawr ac mae yna amrywiaeth o enghreifftiau a’r rhyddid i roi cynnig ar bethau. Mae gallu arsylwi ar symudiadau bywyd go iawn yn dda ac rwy’n hoffi’r dosbarthiadau animeiddio; mae creu cymeriadau a naratif ar gyfer straeon yn hanfodol i ddatblygu dealltwriaeth o ddulliau gwaith y diwydiant animeiddio”

Rachel Piper

“Es i o wybod yn agos i ddim am animeiddio Cyfrifiadurol 3D i deimlo’n ddigon medrus yn y maes. Trwy’r cwrs, cefais gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth enfawr o sgiliau fel ffotograffiaeth a bywluniadu, yn ogystal ag ochr 3D modelu ac animeiddio. Mae’n gwrs diddorol ac ysgogol iawn a gwnes i wir fwynhau bod yn rhan ohono am y tair blynedd diwethaf.”

Ian Mills

“Cefais brofiad anhygoel yn cymryd rhan mewn rhai o’r prosiectau Da Vinci's Demons, megis gwaith set ac animeiddio cipio symudiad – rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu llawer yn ystod y cyfnod hwn ac wedi ennill profiad gwerthfawr tu hwnt.

Matt Kinahan

“Bu’r digwyddiad (SAND) yn wych, yn arbennig ar gyfer pobl fel fi sydd heb gael y cyfle i siarad gyda phobl sydd yn y diwydiant. Mae’n rhywbeth sy’n gallu codi braw ond mae SAND wedi rhoi rhagor o hyder i mi. Mae’n gymhelliant mawr gwybod pa safon y mae angen i mi ei chyflawni er mwyn cyrraedd ble mae angen i mi fod. Ni allen nhw fod wedi dod â gwell grŵp o bobl at ei gilydd i ddod i siarad gyda ni. Roedd rhywun yno o bob proffesiwn. Cawsom ni wledd!”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid i helpu cefnogi eich astudiaethau. I ddysgu rhagor am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Yn ogystal â’n , mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:

Map

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.