Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Archaeoleg (BA)
Archaeoleg (BA)
Cytunai 100% o fyfyrwyr Hanes ac Archaeoleg y Drindod Dewi Sant eu bod wedi gallu cysylltu â’r staff pan oedd angen – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
Mae Archaeoleg yn Y Drindod Dewi Sant Llambed yn un o’r rhaglenni mwyaf dynamig, uchel ei phroffil â phwyslais ar ymchwil.
Wedi’i lleoli mewn tirwedd brydferth, mae gan Lambed a’r cyffiniau gymeriad hanesyddol ac archeolegol unigryw y caiff myfyrwyr y ddisgyblaeth hon gyfle i’w mwynhau.
Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd am weithgarwch ymarferol ar y safle, wedi ei seilio ar archwilio’r ardal hanesyddol hon, ond eto â safbwynt byd-eang.
Gallwch ddewis cyflawni Cwrs Sylfaen cyn dechrau’r BA.
- Ar gael fel anrhydedd sengl neu gydanrhydedd.
Archaeoleg (BA)
Cod UCAS: V400
Gwneud cais trwy UCAS
Archaeoleg ac Anthropoleg (BA)
Cod UCAS: LVQ4
Gwneud cais trwy UCAS
Archaeoleg a Hanes (BA)
Cod UCAS: VV14
Gwneud cais trwy UCAS
Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: ARF1
Gwneud cais trwy UCAS
Archaeoleg gyda Diwylliant yr Hen Aifft (BA)
Cod UCAS: 09C3
Gwneud cais trwy UCAS
- Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS.
- Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
fhpadmissions@uwtsd.ac.uk
£9,000
£13,500
Pam dewis y cwrs hwn?
- Dewis eang o fodylau a phynciau gwahanol, sy’n darparu profiad gwaith maes ymarferol a chyrsiau yn y labordai ar gyfer myfyrwyr, yn ogystal â dealltwriaeth o ddulliau damcaniaethol allweddol yn y ddisgyblaeth.
- Addysgir yr holl fyfyrwyr drwy grwpiau bach, gyda darlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un, a seminarau. Rydym hefyd yn cynnig dysgu yn y labordy, yn cynnwys dadansoddi pridd, paill ac esgyrn.
- Cyfleoedd am leoliadau gwaith gydag ymddiriedolaethau archaeoleg lleol, CADW, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ati.
- Staff ag arbenigedd addysgu ac ymchwil mewn maes rhyngwladol eang.
- Caiff myfyrwyr y cyfle i ddewis modylau o blith holl bynciau a thestunau eraill y dyniaethau.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Archaeoleg yw’r astudiaeth o orffennol dyn trwy archwilio olion ffisegol megis offer cerrig, crochenwaith ac esgyrn, yn ogystal ag adeiladau, strwythurau, cofadeiliau a thirweddau. Mae’n ceisio datgelu sut y trefnir cymdeithasau cyfoes a chymdeithasau’r gorffennol, sut mae dynoliaeth yn rhyngweithio gydag amgylcheddau a thirweddau, a sut mae syniadau ynglŷn â’r byd i’w gweld yn y gwrthrychau mae pobl wedi’u creu.
Er mwyn deall y gorffennol yn fanwl, mae angen mynd i’r afael â materion damcaniaethol a moesegol. Golyga hyn ein bod yn archwilio materion megis treftadaeth, portreadu, defnydd tir, technoleg, newid amgylcheddol, marwolaeth, gwrthdaro, credoau ac esblygiad corff, meddwl a syniadau dyn, gyda’r bwriad o ehangu gwybodaeth o’r modd mae dynoliaeth wedi cyrraedd y fan lle mae erbyn heddiw.
Mae nifer o fodylau’n cynnwys taith maes i safleoedd a thirwedd hanesyddol.
Caiff myfyrwyr sy’n astudio Archaeoleg yn Y Drindod Dewi Sant Llambed y cyfle i archwilio nifer o bynciau a thestunau diddorol tu hwnt. Ymhlith y rhain y mae’r canlynol:
- Archaeoleg Maes y Gad
- Cymdeithasau’r Oes Efydd
- Esblygiad Dynol
- Archaeoleg Forol
- Archaeoleg Baleoamgylcheddol
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan
Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan
Gwybodaeth allweddol
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn cynnwys:
- Rheoli ym meysydd llywodraeth a masnach
- Sector treftadaeth
- TGCh
- Gwaith y gymuned a llywodraeth leol
- Gwaith amgueddfeydd, arddangosfeydd ac archifau
- Archaeoleg maes proffesiynol
- Cyfleoedd ymchwil ac ôl-raddedig
- Addysgu, swyddog addysg
- Gwaith Gwirfoddol
Costau Ychwanegol
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
- Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
- Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Anthropoleg (BA)
Cod UCAS: L600
Ymgeisio drwy UCAS
Hanes yr Henfyd (BA)
Cod UCAS: V115
Ymgeisio drwy UCAS
Hanes
Cod UCAS: V100
Ymgeisio drwy UCAS
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth