Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Astudiaethau Addysg Gynradd (BA)
Datblygwch eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o addysg mewn cyd-destun ysgol gynradd, ac ymestynnwch eich sgiliau trwy ein rhaglen Astudiaethau Addysg: Cynradd.
Mae’r radd hon yn ffocysu ar addysg mewn cyd-destun eang, gan gynnwys pwysigrwydd materion cynhwysiant, sut y mae plant yn dysgu a’r gwerthoedd ac arfer proffesiynol sy’n rhan o addysg gynradd. BA Astudiaethau Addysg: Cynradd yw un o’r rhaglenni gradd prin yn y DY sy’n ffocysu ar astudio addysg yn y sector ysgolion cynradd.
Mae’r rhaglen ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu’n ddwyieithog, ac mae pob darlithydd yn ddwyieithog; fodd bynnag ar adegau bydd darlithwyr gwadd a / neu arbenigwyr yn y maes yn cyfrannu ac mae’n bosib bydd y darlithoedd yma yn Saesneg, gyda deunydd cefnogol yn Gymraeg. Bydd argaeledd darlithoedd cyfrwng Cymraeg yn ddibynnol ar faint y cohort. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â dau leoliad arsylwadol ac mae yna gyfle i dreulio semester dramor.
Astudiaethau Addysg: Cynradd (BA)
Cod UCAS: 14F3
Gwnewch gais drwy UCAS
Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- BA Astudiaethau Addysg: Cynradd yw un o’r rhaglenni gradd prin yn y DU sy’n ffocysu ar astudio addysg yn y sector ysgolion cynradd.
- Mae’r rhaglen ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu’n ddwyieithog, ac mae pob darlithydd yn ddwyieithog.
- Bydd pob myfyriwr ynn mynd ar ddau leoliad arsylwadol
- Cyfle i dreulio semester tramor
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen yn rhoi ichi’r ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol i weithio gyda phlant oed ysgol gynradd. Bydd y cyswllt rhwng theori, polisi ac arfer mewn addysg gynradd yn cael ei archwilio gan wneud defnydd o addysgeg, seicoleg a chymdeithaseg.
Mae yna bwyslais ar faterion cyfoes ym maes addysg gynradd, ac mae’r rhaglen yn galluogi i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymchwil ar raddfa fach mewn maes o ddiddordeb iddynt, yn ogystal â thraethawd hir estynedig yn eu trydedd flwyddyn.
Bydd y rhaglen yn archwilio materion megis:
- Ble a sut mae plant yn dysgu?
- Beth yw’r rhwystrau at ddysgu y mae plant yn ei brofi a sut y gellir eu goresgyn?
- Beth yw’r ffactorau allweddol sy’n cael effaith ar addysg gynradd yng Nghymru heddiw?
- Sut mae oedolion yn gweithio’n fwyaf effeithiol gyda phlant mewn lleoliad addysgol?
- Beth yw manteision addysg ddwyieithog?
- Beth yw’r sgiliau mwyaf pwysig y mae ar ddysgwyr eu hangen ar gyfer y dyfodol?
Bydd y rhaglen hon hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol gan gynnwys datrys problemau, gwaith tîm, cyfathrebu a meddwl beirniadol.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Cydraddoldeb i Bawb? (20 credyd; gorfodol)
- Datblygiad ar draws y Rhychwant Oes (20 credyd; gorfodol)
- Addysg: Gorffennol, Presennol, Dyfodol (20 credyd; gorfodol)
- Modwl newydd ‘Sicrhau Sgiliau Astudio Effeithiol (20 credyd; gorfodol)
- Damcaniaeth ac Arfer Dysgu (20 credyd; gorfodol)
- Modwl Newydd ‘Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Mae Pawb yn golygu Pawb (20 credyd; gorfodol)
- Amgylcheddau Dysgu Amgen (20 credyd; gorfodol)
- Dod yn Addysgwr Cynradd (20 credyd; gorfodol)
- Y 3 R (20 credyd; gorfodol)
- Y Meddwl Ymholgar: Dulliau Dysgu ac Addysgu Creadigol (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil Addysgol (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol)
- Hinsoddau Dysgu (20 credyd; gorfodol)
- Gwneud Gwahaniaeth gyda’n Gilydd (20 credyd; gorfodol)
- Llesiant mewn Addysg (20 credyd; gorfodol).
Mae myfyrwyr yn cyflwyno gwaith mewn amrywiaeth o ffyrdd i’w galluogi i ddatblygu eu sgiliau tîm, yn ogystal â sgiliau dysgu annibynnol.
Ymhlith yr asesiadau mae senarios seiliedig dysgu problemau, cyflwyniadau poster academaidd, portffolios, aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar unigol.
Does dim arholiadau.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Alison Baggott
- Sarah Stewart
Cynnig Nodweddiadol: Pwyntiau UCAS = 88 ac uwch.
Bydd myfyrwyr yn gwneud cais o amrywiaeth o gefndiroedd, yn uniongyrchol o gyrsiau Lefel A neu gyrsiau Lefel 3 eraill (e.e. CACHE) neu o fod wedi gadael addysg.
Nid oes angen unrhyw bwnc lefel A penodol. Os ydy myfyrwyr yn dymuno hyfforddi i fod yn athrawon yng Nghymru ar ôl graddio, bydd angen gradd B arnynt, ar lefel TGAU, mewn Saesneg a Mathemateg, a gradd B mewn Cymraeg – os ydynt yn dymuno hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen gradd C arnynt mewn TGAU Gwyddoniaeth.
Mae’r cwrs yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd mynediad annhraddodiadol ac rydym yn ystyried profiad, sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd wrth asesu ymgeiswyr.
Yn ystod y semester cyntaf, mae pob myfyriwr yn ymgymryd â modwl sgiliau astudio, sy’n helpu i’w paratoi nhw at ofynion addysg uwch.
Caiff ein graddedigion eu cyflogi mewn amrywiaeth o leoliadau.
Oherwydd natur ein gradd mae gan ein graddedigion y sgiliau, y rhinweddau, y dealltwriaeth a’r galluoedd i weithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys y sector addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a galwedigaethau tebyg, yn ogystal â’r sector gwirfoddol.
Mae ein gradd yn berthnasol i’r graddedigion hynny sy’n dymuno hyfforddi i fod yn athrawon trwy’r llwybr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gan fod y radd yn rhoi’r cefndir a’r dyfnder dealltwriaeth ynghylch y materion hyn sy’n berthnasol i blant ysgol gynradd. Mae graddedigion eraill wedi parhau â’u hastudiaethau gydag amrywiaeth o raglenni meistr.
- Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, am brintio a chopi ac am ddeunydd ysgrifennu ac am gynhyrchu traethodau, aseiniadau a thraethodau hir sydd eu hangen i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
- Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae'r ffi'n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
- Mae angen i fyfyrwyr gael cyfwerth ag 80 awr o brofiad ymarferfol mewn lleoliad megis ysgol, mewn lleoliad gwirfoddol, neu gydag asiantaethau eraill fel iechyd neu ofal cymdeithasol, neu leoliadau dysgu awyr agored. Fe fydd hyn yn golygu costau teithio a lluniaeth.
- Mae’r rhaglen yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y Ddisgyblaeth yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain, ac ar gyfer rhai ymweliadau, ddillad addas ar gyfer yr awyr agored.
“Mae Astudiaethau Addysg: Cynradd yn eich galluogi i geisio gwneud cynnydd, nid bod yn berffaith. Mae’n gwrs arbennig o gyfeillgar, lle cewch brofiad ymarferol a damcaniaethol, gyda darlithwyr sy’n arbenigwyr ar law. Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes. Cofiwch, breuddwydion gyda therfynau amser yw goliau!”
Ryan – Un o raddedigion y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Yn ogystal â bod y cwrs yn wych, mae’r bobl sy’n ei addysgu’n wych, ac rwyf wedi cael y profiad bywyd gorau arno.”
Dion – Un o raddedigion y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Roeddwn wedi colli adnabod arna’i fy hun cyn y cwrs hwn. Yn wreiddiol, hyfforddais yn ddawnsiwr ond cefais anaf. Roeddwn yn meddwl na fuaswn fyth yn caru beth rwy’n ei wneud eto nes i mi gofrestru ar y cwrs hwn. Mae’r athrawon a’r modylau’n anhygoel.”
Lauren – Un o raddedigion y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Darlithwyr cyfeillgar, amgylchedd croesawgar, ethos positif!”
Jess – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg - Cynradd
“Y Brifysgol orau, cyrsiau gwych, darlithwyr cyfeillgar a chymorth heb ei ail.”
Ella – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Mae’r cwrs hwn yn anhygoel. Mae’r darlithwyr mor groesawgar a pharod i helpu. Ar ôl cael profiad o Brifysgol arall cynt, gallaf ddweud heb os mai’r Drindod yw’r orau!”
Lauren – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Cwrs hwyl a difyr sy’n darparu llwybr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd”
Luke – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Cwrs sy’n agor llygaid ac sy’n rhoi cipolwg i mewn i amrywiaeth o faterion addysgol”
Georgia – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Darlithwyr gwych, cefnogol iawn a hawdd siarad gyda nhw.”
Chelsey – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
“Cynnwys eang a manwl, gyda darlithwyr cefnogol, agos-atoch.”
Catrina – Myfyriwr y BA Astudiaethau Addysg: Cynradd
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael, ac mae myfyrwyr sy'n dewis astudio'n Gymraeg yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Canada: Coleg Camosun
- Y Ffindir: Prifysgol Humak
- Y Ffindir: Prifysgol Humak (Hydref)
- Y Ffindir: Prifysgol Humak (Gwanwyn)
- Unol Daleithiau: Coleg Presbyteraidd, De Carolina
- Unol Daleithiau: Prifysgol Rio Grande, Ohio
Ewch i’n hadran Llety Caerfyrddin i ddysgu rhagor.
Os hoffech ddysgu rhagor am astudio yng Nghaerfyrddin, dewch i ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored.