Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Y Beibl a Diwinyddiaeth (BA, Diploma Graddedig)

Y Beibl a Diwinyddiaeth (BA, Diploma Graddedig) – Dysgu o Bell

Ymgeisio drwy UCAS – Llawn Amser

Mae ein gradd, Y Beibl a Diwinyddiaeth, yn archwilio traddodiadau ysbrydol ac ysgrifenedig Iddewiaeth a Christnogaeth. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu am hanesion y ffydd Gristnogol a’r ffydd Iddewig ac i archwilio eu rhesymeg mewnol drwy astudio testunau cysegredig.

Mae modylau o fewn y rhaglen yn archwilio ffyrdd gwahanol o ddychmygu’r byd o fewn traddodiadau Iddewig Gristnogol, ac yn canolbwyntio ar ddysgeidiaeth ac arferion enwadau gwahanol. Wrth wneud hynny, mae’r rhaglen yn ceisio lleoli Iddewiaeth a thraddodiadau Cristnogol o fewn dadleuon cymdeithasol, gwleidyddol ac ysbrydol cyfoes.

Trwy astudio’r rhaglen fe gewch ystod o fframweithiau methodolegol a dadansoddol ar gyfer astudio’r Beibl a diwinyddiaeth. Bydd yn eich galluogi i fynd i’r afael yn feirniadol ac yn ddadansoddol ag amrywiaeth o destunau Beiblaidd. Fe ddewch yn gyfarwydd â thrafodaeth a dadl academaidd ar astudio themâu allweddol sy’n deillio o ddiwinyddiaeth gyfoes.

Defnyddir diddordebau ymchwil staff i lywio a chyfoethogi eich profiad dysgu. Anogir myfyrwyr ar y cwrs hwn i ddod yn unigolion annibynnol eu meddwl, hunanadfyfyriol a chreadigol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

BA Y Beibl a Diwinyddiaeth
Cod UCAS: BTH1
Gwnewch gais drwy UCAS

BA Y Beibl a Diwinyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS:: BTH8
Gwnewch gais drwy UCAS

Diploma Graddedig Y Beibl a Diwinyddiaeth
Gwnewch gais ar-lein

Gall y sawl sy’n gwneud cais ar gyfer cyrsiau llawn amser wneud hynny trwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser, neu ymgeiswyr sy'n dymuno astudio'r Diploma Graddedig, wneud cais drwy’r Brifysgol. .


Dysgu Ar-lein ac o Bell Cais am Wybodaeth

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Mae dysgu o bell yn cynnig ymagwedd hyblyg at astudio.
  • Addysgir y rhaglen hon trwy ein platfform dysgu o bell unigryw, fel y gallwch barhau i weithio a chyflawni’ch ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio am eich gradd BA.
  • Y cyfle i gael seminarau ar-lein.
  • Cymorth gan diwtor personol.
  • Modylau wedi’u seilio ar arbenigedd ymchwil nodedig darlithwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hanes hir a nodedig o addysgu ac ymchwil ym maes Astudiaethau Beiblaidd a Diwinyddiaeth Gristnogol, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Darperir y rhaglen BA Y Beibl a Diwinyddiaeth yn llwyr drwy ddysgu o bell ac mae ar gael i’w hastudio’n amser llawn ac yn rhan amser.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)

  • Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Foeseg Gristnogol (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i’r Beibl Hebraeg (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i’r Testament Newydd (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Astudio Crefydd (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Ddiwinyddiaeth (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA) 

Blwyddyn Mynediad A 

  • Cyffesu gydag Awstin Sant: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig (20 credyd; gorfodol)
  • Duw a’r Byd: Y Cosmos o safbwynt Crefyddol a Moesegol (20 credyd; gorfodol)
  • Dehongli’r Beibl Hebraeg o Safbwyntiau Cyfoes (20 credyd; gorfodol)
  • Moeseg Trais (20 credyd; gorfodol)
  • Llythyrau Paul (20 credyd; gorfodol)
  • Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-Grefyddol (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Mynediad B

  • Iesu drwy Ffydd a Diwylliant (20 credyd; gorfodol)
  • Iddewon, Cristnogion a Rhufeiniaid: O’r Macabeaid i Masada (20 credyd; gorfodol)
  • Diwinyddiaeth Gristnogol Fodern (20 credyd; gorfodol)
  • Rhyw, Rhywioldeb, a Rhywedd (20 credyd; gorfodol)
  • Ystyr Bywyd (20 credyd; gorfodol)
  • Teithio gyda Luc: Taith drwy Luc a’r Actau (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)

Blwyddyn Mynediad A

  • Cyffesu gydag Awstin Sant: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig (20 credyd; dewisol)
  • Traethawd Hir (40 credyd; gorfodol)
  • Duw a’r Byd: Y Cosmos o safbwynt Crefyddol a Moesegol (20 credyd; dewisol)
  • Dehongli’r Beibl Hebraeg o Safbwyntiau Cyfoes (20 credyd; dewisol)
  • Moeseg Trais (20 credyd; dewisol)
  • Llythyrau Paul (20 credyd; dewisol)
  • Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-Grefyddol (20 credyd; dewisol).

Blwyddyn Mynediad B

  • Traethawd Hir (40 credyd; gorfodol)
  • Iesu drwy Ffydd a Diwylliant (20 credyd; dewisol)
  • Iddewon, Cristnogion a Rhufeiniaid: O’r Macabeaid i Masada (20 credyd; gorfodol)
  • Diwinyddiaeth Gristnogol Fodern (20 credyd; dewisol)
  • Rhyw, Rhywioldeb, a Rhywedd (20 credyd; dewisol)
  • Ystyr Bywyd (20 credyd; dewisol)
  • Teithio gyda Luc: Taith drwy Luc a’r Actau (20 credyd; dewisol).

Diploma Graddedig - Lefel 6

  • Cyffesu gydag Awstin Sant: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (20 credyd; gorfodol).
  • Sgiliau Astudio a Dulliau Ymchwil yn y Beibl a Diwinyddiaeth (20 credyd; gorfodol)
  • Moeseg Trais (20 credyd; gorfodol)
  • Llythyrau Paul (20 credyd; gorfodol)
  • Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-Grefyddol (20 credyd; gorfodol).

Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
  • Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
  • Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
  • Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar ba flwyddyn y cynigir y modylau.
Asesiad

Asesir yn bennaf drwy aseiniadau gwaith cwrs

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Byddwch yn datblygu gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog a’ch cefnogi. Bydd y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o swyddi gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

Costau Ychwanegol

Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith Maes ddewisol:

Mae’r Athrofa’n gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Athrofa’n noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): tua £500 i £1,500

Teithiau unigol: tua £5 i £50

Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.