Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Dylunio Cynnyrch a Dodrefn (BA, BSc)
3ydd yn y DU a 1af yng Nghymru am Ddylunio a Chrefftau (tabl Cynghrair y Guardian 2022)
Mae dylunio cynnyrch a dodrefn yn broses datrys problemau strategol sy'n ysgogi arloesi, yn creu llwyddiant busnes, ac yn arwain at ansawdd bywyd gwell trwy gynhyrchion, systemau, gwasanaethau a phrofiadau arloesol. Mae'n pontio'r bwlch rhwng yr hyn sy'n bod a'r hyn sy'n bosibl, gan elwa ar greadigrwydd i ddatrys problemau, ac ailedrych arnynt o’r newydd yn gyfleoedd. Cewch eich annog i ddatblygu dulliau arloesol o ddylunio, datblygu a chreu cynhyrchion a dodrefn.
Mae dylunwyr cynnyrch a dodrefn yn rhoi’r person yng nghanol y broses, gan feithrin dealltwriaeth ddofn o anghenion defnyddwyr trwy empathi a chymhwyso proses datrys problemau bragmataidd, defnyddiwr-ganolog i ddylunio cynhyrchion, systemau, gwasanaethau a phrofiadau. Byddwch mewn sefyllfa unigryw i bontio disgyblaethau proffesiynol amrywiol a diddordebau busnes er mwyn cyd-greu ansawdd bywyd gwell.
Mae'r rhaglen hon yn eich galluogi i gasglu gwybodaeth fanwl am y broses ddylunio, gan ddatblygu gwybodaeth gynhwysfawr a sgiliau ymarferol wrth ddylunio ar gyfer gweithgynhyrchu, yn ogystal â'r sgiliau dadansoddi, gwerthuso a chyfathrebu sydd eu hangen wrth weithio fel unigolion neu fel rhan o dîm. Byddwch yn dod yn feirniadol ymwybodol o'r fframwaith cymdeithasol, amgylcheddol a moesegol y byddwch chi, yn weithiwr dylunio proffesiynol, yn gweithio o'i fewn wrth i chi ddysgu sut i ymgysylltu â gofynion cleientiaid.
Nid yw gwaith portffolio blaenorol yn angenrheidiol, yn syml, gofynnwn i chi fod yn berson creadigol angerddol, a bod gennych awydd tanbaid i wella. Gyda'r rhain yn eu lle, gallwn eich helpu i ddod yn ddylunydd a fydd yn creu effaith yn y byd go iawn.
Opsiynau Llwybr
Dylunio Cynnyrch a Dodrefn (BA)
Cod UCAS: PFD1
Gwnewch gais trwy UCAS
Dylunio Cynnyrch a Dodrefn (BSc)
Cod UCAS: PFU1
Gwnewch gais trwy UCAS
Sut i wneud cais
Gwneir pob cais i astudio am raglen radd israddedig lawn amser trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80.
Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
5 rheswm dros astudio yma
- Dysgu sy'n Canolbwyntio ar Fyfyrwyr
- Briffiau Diwydiannol Byw
- Eich gofod stiwdio eich hun
- Cyfleusterau CAD a Gweithdy o'r radd flaenaf
- Astudio mewn ardal brydferth
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae Dylunio Cynnyrch a Dodrefn yn ymwneud â chyflawni dychymyg y ddynoliaeth trwy greu glasbrint ar gyfer dyfodol dymunol. Athroniaeth y rhaglen BA/BSc a'n gweledigaeth ninnau yw eich annog i ddarganfod ffyrdd newydd o feddwl a siapio'r perthnasoedd y mae defnyddwyr yn eu datblygu gyda'r amgylchedd o'u cwmpas. Eich cyfrifoldeb chi, y dylunydd, yw myfyrio ar y gorffennol a chreu ffordd gynaliadwy ymlaen. Dyma'ch cyfle i roi newid ar waith.
Trwy gydbwysedd o ymdrech ddeallusol a mynegiad dylunio, eich tasg fydd cystadlu a gweithio ar brosiectau cydweithredol dan arweiniad y diwydiant, lle bydd gennych ryddid i dorri'r rheolau, meddwl yn ddeinamig, bod yn chwilfrydig a herio confensiwn wrth archwilio manion dylunio da ac ystyrlon.
Cyflwynir y ddau lwybr ar y cyd, gyda’r BA (Anrh) yn canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr — ar emosiwn dynol — a’r BSc (Anrh) ar ddylunio ar gyfer heddiw trwy fanylion a gweithgynhyrchu nodweddion. Maen nhw'n rhoi'r cyfle i chi ddilyn eich dyheadau trwy ymgolli mewn awyrgylch stiwdio a gweithdy bywiog, gan ganiatáu i chi arbrofi a chael hwyl.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf fe'ch cyflwynir i sgiliau a gwybodaeth ddylunio graidd, gan weithio ar ystod o brosiectau stiwdio a gweithdy wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o arferion gwaith proffesiynol ac astudio annibynnol. Yn ystod yr ail flwyddyn, rydym yn cynyddu’r dwyster, gan ddisgwyl mwy o fanylder yn eich dadleuon dylunio, felly erbyn i chi gyrraedd eich trydedd flwyddyn, byddwch yn hynod annibynnol, proffesiynol a chyfarwydd â meddwl yn feirniadol ac arfer dylunio.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA/BSc)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dylunio a Gwneud 1 (20 credyd; gorfodol)
- Meddylfryd Dylunio (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dylunio Technegol (20 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Ganfod (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Feddwl (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA/BSc)
- Gwneuthurwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Gwneuthurwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Archwilio Dylunio (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu (20 credyd; gorfodol)
- Gwireddu Dyluniad – CAD (10 credyd; gorfodol)
- Efelychu Dyluniad – Rhithwir (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwil mewn Cyd-destun (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar Waith (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA/BSc)
- Ymholiad Creadigol Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Prosiect Unigol Mawr (60 credyd; gorfodol).
Asesir trwy waith cwrs – yn ysgrifenedig ac yn ymarferol. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Cewch eich asesu'n ffurfiannol drwy adolygiadau yn ystod modwl, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy'n cynnwys, ymhlith eraill, y canlynol:
Dulliau Asesu
Tiwtorialau Anffurfiol a Ffurfiol
Cynhelir y tiwtorialau hyn yn rheolaidd, ar draws pob lefel. Ym Mlwyddyn 1 byddwch yn trafod eich gwaith yn rheolaidd gydag aelod o staff yn ystod y sesiynau stiwdio, ac yn yr un modd ym Mlwyddyn 2. Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn tueddu i weithio'n fwy annibynnol ond byddwch yn elwa o diwtorialau wythnosol ar yr amserlen. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith y gallwch weld staff ar sail un i un.
Tiwtorialau Bugeiliol
Mae'r tiwtorialau hyn yn rhoi'r cyfle i chi drafod eich cynnydd a'ch ymgysylltiad â'r rhaglen gyfan a bywyd Prifysgol, ac i’r naill barti neu’r llall godi unrhyw broblemau/pryderon.
Beirniadaethau Grŵp
Cynhelir y rhain yn rheolaidd, ar draws pob lefel, yn ystod y modwl, ac maent yn gyfle gwych i chi rannu a chyfnewid syniadau gyda’ch cyfoedion mewn modd strwythuredig yn ogystal â chael mewnbwn gwerthfawr gan staff.
Prosiectau Stiwdio
Dyma ble byddwch yn dangos tystiolaeth o'ch creadigrwydd, eich arloesedd a’ch proffesiynoldeb wrth gyflwyno amrywiaeth o fathau o waith i'w hasesu, megis: portffolios, llyfrau braslunio a chyfnodolion prosiect, gwaith celf cyflwyno/byrddau delweddu neu fodelau 3D real a rhithwir. Mae'r prosiectau wedi'u gosod i archwilio eich gallu i feistroli integreiddio egwyddorion a sgiliau dylunio newydd i'ch ymarfer dylunio.
Aseiniadau Ysgrifenedig
Elfennau gwaith cwrs yw’r rhain sydd fel arfer ar ffurf papur darluniadol neu adroddiad y byddwch yn ei gwblhau yn eich amser eich hun a ategir gan diwtorialau ar yr amserlen. Dyma ble disgwylir i chi ddangos mewnwelediad beirniadol a hyfedredd wrth fynegi canlyniadau aseiniad yn seiliedig ar ymarfer neu ymchwil.
Aseiniadau Ar-lein
Elfennau gwaith cwrs yw’r rhain i’w cyflawni a'u cyfarwyddo gennych chi'ch hun, ac fe’u cyflwynir ar ffurf e-bortffolio fel arfer.
Cyflwyniadau Anffurfiol a Ffurfiol
Mae natur y cyflwyniadau yn amrywio yn ôl eich lefel: ym Mlwyddyn 1, cyflwynir cyflwyniadau anffurfiol er mwyn eich helpu i fagu hyder wrth sôn am eich gwaith â’ch cyfoedion a staff. Maen nhw fel arfer yn rhan o'r broses asesu ar ddiwedd pob prosiect hefyd. Ym Mlwyddyn 2, disgwylir i chi roi cyflwyniadau mwy ffurfiol fel rhan o bob modwl. Ym Mlwyddyn 3, mae cyflwyniad ffurfiol a sesiwn holi ac ateb yn rhan o asesiad terfynol Canlyniad eich Prosiect Mawr.
Arddangos Gwaith
Ym Mlynyddoedd 1 a 2, mae natur arddangos gwaith yn amrywio o ran ffurfioldeb o arddangosfeydd yn y coridor i leoliadau cyhoeddus. Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn astudio, cewch gyfle i arddangos eich gwaith mewn arddangosfeydd cyhoeddus yn ardal Abertawe, ac yn y sioe ddylunio genedlaethol fawreddog yn Llundain, New Designers.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Gwybodaeth allweddol
- Ian Williams
- Julia Margaret Lockheart (Athro Cyswllt)
- Liam Mee
- Matt Archer
- Dr Pete Spring
- Dr Sean Jenkins (Athro Cyswllt)
- David Jarvis
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy'n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â'ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol a gwaith eithriadol a/neu brofiad ymarferol.
Gweler ein Canllaw Cyfweliadau am ragor o wybodaeth.
Ar ôl graddio, gallwch edrych ymlaen at yrfaoedd hynod greadigol, cyffrous ac amrywiol fel:
- Dylunwyr Cynnyrch
- Dylunwyr Dodrefn
- Dylunwyr Peirianneg
- Rheolwyr Dylunio
- Dylunwyr UX
- Dylunwyr CAD
Yn ogystal â dysgu am yr arferion dylunio cynnyrch a dodrefn, byddwch hefyd yn dysgu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi ym mha bynnag lwybr gyrfa y dewiswch ei ddilyn, megis:
- Meddalwedd 2D Adobe CC (Photoshop, Illustrator, InDesign)
- Sgiliau meddalwedd Fusion 360 Autodesk CAD 3D
- Rheoli amser
- Sgiliau cynllunio
- Sgiliau ymchwil
- Sgiliau Meddylfryd Dylunio
- Sgiliau gweithdy
- Sgiliau trefnu
- Sgiliau dadansoddi
- Sgiliau cyflwyno
- Sgiliau negodi
- Sgiliau cyfweld
Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio i rai o frandiau blaenllaw a busnesau ymgynghori dylunio sefydledig y byd, megis:
- Lego
- Hasbro
- Panasonic
- Seymour Powell
- OrangeBox
- Adidas
- Native
- Culture Group
- Acumen
- Gurit
- Zodiac Aerospace
- Recaro
- Cerebra
Mae llawer o’n graddedigion wedi sefydlu eu busnesau ymgynghori eu hunain, fel MeeCreative a Lunia 3D, gan brofi llwyddiant mawr. Mae graddedigion eraill wedi parhau â’u datblygiad addysgol ar gyrsiau ôl-raddedig, gan hyfforddi i fod yn athrawon [TAR] neu ddatblygu eu gallu deallusol gan astudio ar lefel Meistr/Doethurol yn PCYDDS a thu hwnt.
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu'r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u hymarfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a'u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â'u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau'r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd 'pecyn celf a dylunio' sylfaenol yn costio tua £100, ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o'r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â'ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio dewisol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer ymweliadau tramor. Mae'r costau hyn am bethau fel cludiant, mynediad i leoliadau a llety, ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i'n myfyrwyr.
- Sefydliad Celf a Dylunio (yn Saesneg)
- Crefftau Dylunio (MDes, BA)
Ken Pearce
“Fe wnes i fwynhau fy amser yn PCYDDS yn fawr a byddwn yn gwneud y cyfan eto. Fel myfyriwr, rwyf wedi datblygu i fod yn ddylunydd amryddawn a hyblyg sy'n coleddu ymarferoldeb cynnyrch, yn ogystal â’i ffurf. O ganlyniad i’r brifysgol, cefais yr adnoddau a’r hyder i ddechrau fy nghwmni fy hun.”
Adam Higgins
“Drwy gydol fy amser yn y brifysgol, gallais gwblhau sawl prosiect sydd wedi rhoi profiad â chleientiaid i mi ac wedi datblygu fy sgiliau dylunio. Heb os, mae’r gefnogaeth barhaus a’r adborth gan diwtoriaid drwy gydol fy amser yn PCYDDS wedi ychwanegu at lwyddiant fy mhrosiect mawr terfynol, un o’r unig ddau ymgeisydd o Gymru i arddangos yn Sioe Graddedigion Fyd-eang 2020.”
James Lewis
“Roedd y flwyddyn olaf yn wych. O ganlyniad i’r rhyddid eang, cefais archwilio fy meddylfryd dylunio a’m creadigrwydd yn llawn.”
Gareth Lloyd
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn arloesi cynnyrch i astudio yn Abertawe, gan fy mod i’n teimlo bod y cwrs wedi fy ngwthio’n bersonol i ddiffinio a chyflawni’r nodau rydw i wedi’u gosod i fi fy hun fel dylunydd.”
Matt Bellis
“Y peth gorau am y cwrs oedd y staff. Roedden nhw’n hynod gymwynasgar ac yn hyblyg, hyd yn oed os nad oeddwn i’n cytuno â’u hadborth ar adegau!”
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i'n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Astudio Dramor
Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.
<t4 type="navigation" name="SCA Include Accommodation Text on SCA Courses" id="430" />
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.