Ydds Hafan - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) (BA)
Mae’r rhaglen BA (Anrh) Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) ar-lein wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â’r brwdfrydedd a’r uchelgais i ddechrau eu menter eu hunain, neu ddatblygu menter y maent yn gysylltiedig â hi y barod.
Cyflwynir y rhaglen drwy Swyddfa Cymru-Ducere gan ddefnyddio arbenigedd a pherthnasedd diwydiannol Arweinwyr Byd-eang Ducere. I gael rhagor o wybodaeth am Ducere, ewch i Ysgol Fusnes Fyd-eang Ducere
Dewisiadau Llwybr
BA Busnes Cymhwysol (Entrepreneuriaeth) | 3 blynedd
Cod UCAS: DAE1
Gwnewch Gais Nawr
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
£9000
£9000
Pam dewis y cwrs hwn
- Gradd wedi’i theilwra i gyda-fynd â’ch nodau, eich uchelgeisiau a’ch diddordebau.
- Datblygu portffolio prosiect perthnasol i’r diwydiant fel rhan o’ch gradd.
- Dysgu drwy syniadau deinamig mwy na 250 o Arweinwyr Byd-eang Ducere, gan gynnwys cyn Arlywyddion, Prif Weinidogion, Enillwyr Gwobrau Nobel, Arweinwyr Byd-eang, Prif Swyddogion Gweithredol ac Arloeswyr Busnes.
- Datblygu’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
- Mwynhau cymorth myfyrwyr sy’n bersonol i chi.
- Astudio pan fydd yn gyfleus i chi gyda fideos HD, cymorth academaidd heb ei ail a dim arholiadau.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen eang o sgiliau busnes wedi’u teilwra at anghenion entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes sydd ag awydd i greu gwell dyfodol drwy arweinyddiaeth busnes eithriadol, boed hynny fel entrepreneur, uwch-swyddog gweithredol neu entrepreneur cymdeithasol.
Bydd myfyrwyr yn gweithio’u ffordd drwy brofiad dysgu unigryw sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu pwrpasol a chynnwys fideo unigryw gan sefyll ar ysgwyddau cannoedd o arweinwyr mwyaf llwyddiannus ac ysbrydoledig y byd, o Arlywyddion a Phrif Weinidogion i enillwyr Gwobrau Nobel ac academyddion blaenllaw, a chaiff myfyrwyr eu cefnogi wrth ddatblygu eu craffter busnes.
Ar y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn ymdrin ar nifer o feysydd busnes.
Mae Lefel 4 (Blwyddyn 1) yn dechrau gyda hanfodion busnes, gan gyflwyno myfyrwyr i syniadau allweddol sy'n sail i feysydd fel rheoli, marchnata, cyllid, a datblygu modelau busnes.
Mae Lefel 5 (Blwyddyn 2) yn ceisio adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd ar Lefel 4, gan astudio meysydd busnes ehangach, fel aflonyddwch digidol i fusnes, rheoli adnoddau dynol, ac atebolrwydd busnes.
Mae Lefel 6 (Blwyddyn 3) yn adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd ar Lefelau 4 a 5, gan ddatblygu sgiliau busnes y byd go iawn sy'n astudio pynciau fel sut mae sefydliadau'n newid, strategaethau rheoli, a modiwlau llwybr-benodol.
Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau o’r“byd go iawn" sy’n dangos gallu myfyriwr i gymhwyso'i wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.
Gwybodaeth allweddol
- Anthony Grace
- Kathy Lang
- Ming Chow
- Rob Weston
88 pwynt UCAS ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg; neu brofiad gwaith* sylweddol ynghyd â 2 TGAU/TAG Lefel O o’r DU Gradd A–C mewn Mathemateg a Saesneg.
*Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried fesul ymgeisydd.
Bydd graddedigion yn datblygu galluoedd gan gynnwys:
- Adnabod cyfleoedd busnes mewn amrywiaeth o gyd-destunau
- Prototeipio ystod o fodelau busnes arloesol yn gyflym
- Dilysu potensial cysyniadau entrepreneuraidd yn effeithiol
- Defnyddio technolegau modern i adeiladu a thyfu mentrau newydd
- Gweithio gyda sefydliadau sefydledig i weithredu’n fwy effeithiol.
Mae cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:
- Entrepreneur
- Intrapreneur
- Arbenigwr Strategaeth
- Ymgynghorydd
- Perchennog Busnes.
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth