Skip page header and navigation

Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Celf Gain PCYDDS: Mae Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn cwmpasu ymagwedd eang at addysgu celf gain, lle mae ymarfer artistig unigol yn tynnu ar, ac yn defnyddio, ystod eang o ddeunyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau.

Ymarfer yn y stiwdio sydd wrth ei graidd ac mae’n cynnwys defnyddio gweithdai a gofodau personol arbenigol lle datblygir cysyniadau trwy beintio, lluniadu, ymarfer cerfluniol, fideo, sain, gosodwaith a pherfformio. 

Mae’r cwrs yn annog pob myfyriwr i ystyried ei safle o fewn cymdeithas, gan ddarparu cyfle i weithio ochr yn ochr ag artistiaid a darlithwyr byd-enwog i archwilio maes arfer celf gain gyfoes sy’n esblygu’n gyson.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
2T12
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mannau stiwdio unigol pwrpasol wedi’u lleoli mewn ysgol gelf gefnogol, deinamig a bywiog.
02
Addysgir gan artistiaid sy’n gweithio’n rhyngwladol ac sy’n darparu amser cyswllt rhagorol.
03
Mynediad at weithdai a chyfleusterau rhagorol, gan gynnwys pren, metel, cerameg a digidol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn cwmpasu a dathlu ymagwedd eang ac agored.

Gallwch dynnu ar, a defnyddio, ystod eang o ddefnyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau i ddatblygu eich gwaith a chyfleu eich syniadau.

Arfer stiwdio sydd wrth wraidd ein haddysgu ac yn cwmpasu’r defnydd o ystod eang o weithdai, ynghyd â mannau stiwdio personol. Y stiwdios yw ein pwerdy, rhywle lle caiff eich syniadau eu harchwilio a’u datblygu trwy arferion materol – paentio, arlunio, arfer cerfluniol, fideo, sain, gosodwaith a pherfformio.

Mae safle hefyd yn rhan allweddol o’n haddysgu yn Abertawe, o ran cysyniad a lle. Mae’r berthynas rhwng ein hadran Celf Gain a’r ddinas wedi datblygu dros lawer o flynyddoedd, a chanlyniad hyn yw bod graddedigion wedi datblygu stiwdios artistiaid a chyfadeiladau oriel. Mae ein staff yn gweithio’n broffesiynol gyda sefydliadau celf pwysig sydd wedi llunio cysylltiadau gyda’r cwrs, gan eich galluogi chi i ymgymryd â gweithgareddau diwylliannol tu hwnt i’r brifysgol.

Mae’r syniad o Safle mewn perthynas â Chyd-destun yn ystyriaeth bwysig a chewch eich annog i archwilio’r berthynas hon. Mae archwilio i Gyd-destun yn un o bileri canolog eich cwrs. Addysgir pwysigrwydd Cyd-destun trwy ddarlithoedd damcaniaeth, darlithoedd seiliedig ar arfer, seminarau a gweithdai. Mae ein dulliau addysgu’n ymchwilio i Gyd-destun, o’r cyfoes, gwleidyddol, cysyniadol, athronyddol a’r ymarferol, gan gynnwys archwiliadau i ymatebolrwydd safle yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth o briodolrwydd defnyddiau.

Mae arbrofi, ymchwilio a chwestiynu’n agweddau hanfodol ar arfer a damcaniaeth drwy gydol y cwrs. Mae cael gafael ar y themâu allweddol hyn yn eich galluogi i ymateb i faes datblygol arfer cyfoes a

sbectrwm eang cyfleoedd rhyngddisgyblaethol. Mae’r cyswllt hwn rhwng cysyniad a chyfrwng yn nodwedd sylfaenol o arfer celf gain cyfoes. I’r perwyl hwn, mae ein cwrs Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn eich annog i feddwl yn greadigol ac yn eich galluogi i fod yn rhydd i archwilio cyfryngau a gwthio’ch syniadau i’r ffiniau a thu hwnt. Rhoddir y pwyslais ar berthnasedd ac arwyddocâd defnyddiau/cyfrwng mewn perthynas â’ch syniadau a chyd-destunau.

Ar ein cwrs ni, credwn nad oes hierarchaeth o ran cyfrwng.

Fodd bynnag, rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar gysyniadau ‘amser a lle’, gan fod artistiaid yn aml yn gweithio o fewn cyd-destun eu safleoedd cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol a daearyddol.

Mae ein rhaglen yn eich annog i ystyried eich safle o fewn y gymdeithas, ynn hanesyddol ac yn gyfoes. Mae gosod pethau mewn cyd-destun hanesyddol a chyfoes fel hyn yn sicrhau eich bod yn gallu lleoli eich gwaith eich hun, ac mae’n rhoi i chi lliaws o gyfeiriadau ac ysbrydoliaeth er cymharu ac fel enghreifftiau. Mae ein cwrs Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn eich annog i fod yn ymwybodol o ddadleuon damcaniaethol, arfer cyfoes a’r cynseiliau hanesyddol sy’n berthnasol i’ch datblygiad creadigol; o ganlyniad, daw’r stiwdio yn fforwm bywiog a phrysur ar gyfer trafod ac arfer.

Mae ein cwrs hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar y berthynas rhwng proses proffesiynol gwneud celf a’i gynaliadwyedd hir dymor. Mae gan ein tîm addysgu enw da sylweddol yn rhyngwladol o fewn eu meysydd unigol ac mae’r rhain, ynghyd â phrofiadau, yn darparu ystod o arbenigedd o baentio, arlunio, fideo, gosodwaith, gwaith safle benodol, curaduraeth a chyhoeddi. Mae’r mentrau hyn i gyd yn cyfrannu at wybodaeth seiliedig ar brofiad ymarferol iawn o guraduro ac arddangos.

Mae’r rhaglen hon yn darparu cyswllt uniongyrchol rhwng platfformau rhyngwladol arfer cyfoes a’ch man stiwdio pwrpasol chi yn adeilad Dinefwr, yng nghalon dinas Abertawe.

Astudiaethau Gweledol 1

(10 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Safle a Chynulleidfa

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 2

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Arddangosfa 1.0

(20 credyd)

Deunyddiau, Adeiladu a Dadadeiladu

(20 credyd)

Cylchgrawn yr Artist

(20 credyd)

Cysyniad a Phroses

(20 credydau)

Symbyliad ac Ymateb

(20 credydau)

Ymholiad Gweledol 1

(10 credydau)

Ymholiad Gweledol 2

(10 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Adeiladu Bydoedd

(20 Credyd)

Arddangosfa 2.0

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Myfyriwr yn gweithio mewn stiwdio

Cyfleusterau Celf Gain

Mae ein cyfleusterau rhagorol hefyd yn cynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherameg, yn ogystal â thorwyr laser a chwistrell ddŵr a mynediad i stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll, dosbarthiadau darlunio byw a chyfleusterau gwneud printiau.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Oriel Celf Gain

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer eu dewis gwrs. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl bod gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg (neu Gymraeg), ynghyd â llwyddiant mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un Lefel A mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tri Lefel A neu gyfwerth
    • UAL L3 Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio.
    • UAL L3 Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig mewn Celf a Diploma
    • UAL L3 Diploma mewn Arfer Creadigol a Diploma Estynedig: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag o leiaf gradd Teilyngdod
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn
       

      Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk, am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Nid oes dim arholiadau ar y cwrs hwn.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol modylau, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd pob modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:

    Tiwtorialau

    Rhoddir y tiwtorialau hyn ar draws pob lefel. Mae cyfnod dwysach o diwtorialau un i un yn digwydd ar gyfer myfyrwyr y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn sydd erbyn hynny’n gweithio’n fwy annibynnol. Gall myfyrwyr ofyn am diwtorial yn ôl yr angen. Fodd  bynnag, fel tîm, rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth gwerthfawr a rheolaidd gan bob aelod o staff. Rydym yn credu’n gryf y dylai myfyrwyr gael tiwtorialau unigol er mwyn cefnogi eu teithiau creadigol. Caiff y gwaith, gan gynnwys datblygiad ymarferol a chysyniadol, ei drafod, ynghyd â bwriadon y myfyriwr yn y dyfodol. Mae’n gyfle i unrhyw faterion/bryderon gael eu codi gan naill barti neu’r llall. Cynhyrchir dau gopi o’r cofnod ysgrifenedig o’r tiwtorial, bydd y myfyriwr yn cadw un copi a’r llall yn cael ei gadw ar ffeil.

    Trafodaethau beirniadol grŵp

    Cynhelir y rhain ar draws pob lefel. Mae’n yn gyfle rhagorol i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cymheiriaid mewn ffordd strwythuredig yn ogystal â mewnbwn defnyddiol gan staff. 

    Cyflwyniadau anffurfiol a ffurfiol

    Rhoddir cyfleoedd i bob myfyriwr siarad gyda’u cyd-fyfyrwyr am eu gwaith, gan alluogi iddynt ddeall pwysigrwydd cyflwyno o fewn arfer celf gain. Mae Cyflwyniad Ffurfiol yn y drydedd flwyddyn yn rhan o’u Prif Brosiect sy’n arwain at yr asesiad terfynol yn y Sioe Radd.

    Arddangos gwaith

    Mae natur hyn yn amrywio o un lefel i’r nesaf. Cyflwynir holl asesiadau myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail ym man stiwdio’r myfyriwr unigol, wedi’i ddilyn gan sioe diwedd flwyddyn ar y cyd yn y mannau a baratowyd, wedi i’r sioeau gradd ddod i ben. Caiff sut i baratoi’r mannau hyn; o wagio mannau stiwdio i droi man yn arddangosfa; ei addysgu, a’i ddeall, o fewn cyd-destun arfer proffesiynol, ar gyfer y drydedd flwyddyn. 

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio.

    Rydym y darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol, er enghraifft, prynu eu defnyddiau arbenigol ac offer eu hunai, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen ac awgrymu cyflenwyr priodol os bydd arnoch eisiau prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.  

    Bydd pecyn offer celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf.  Er bod gennym stiwdios dylunio digidol helaeth pwrpasol (PC a Mac) i chi ymgymryd â’ch gwaith cwrs arno, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi.  Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu dim.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

    Mae myfyrwyr sy’n dewis astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae mwy o fanylion ar gael yma.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.

  • Mae yna nifer o gyfleoedd o flaen ein myfyrwyr Celf Gain, lle mae eu hymagwedd aml-sgil yn eu caniatáu i deithio i lawr nifer o lwybrau artistig proffesiynol, gan gynnwys:

    • Artist proffesiynol wrth ei waith
    • Curadur/rheolaeth amgueddfeydd ac orielau
    • Therapi Celf
    • Arweinydd prosiect mewn celf gymunedol
    • Addysgu/darlithio

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau