Ydds Hafan - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Clasuron (BA)
Mae’r BA Clasuron yn radd seiliedig ar iaith ac mae’n berffaith ar gyfer y rheiny sy’n dymuno meistroli’r Roeg a’r Lladin Gallwch bellach astudio am radd BA Clasuron pe baech yn gyfarwydd â’r ieithoedd Groeg a Lladin neu yn ddysgwr llwyr.
Dewisiadau Llwybr a Sut i wneud Cais
Codau UCAS a Dewisiadau Cydanrhydedd
Clasuron (BA)
Cod UCAS: Q800
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol gyda Diwylliant yr Hen Aifft (BA)
Cod UCAS: QQ84
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol (BA)
Cod UCAS: Q820
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol ac Archaeoleg (BA)
Cod UCAS: CCA1
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol ac Ysgrifennu Creadigol (BA)
Cod UCAS: CCW1
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol a Threftadaeth (BA)
Cod UCAS: CCH1
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol ac Athroniaeth (BA)
Cod UCAS: PHC1
Gwneud cais trwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: CLF1
Gwneud cais trwy UCAS
Saesneg a Gwareiddiad Clasurol (BA)
Cod UCAS: CCE1
Gwneud cais trwy UCAS
Cadw lle ar ddiwrnod agored Cadw lle ar ddiwrnod blasu Cais am wybodaeth
£9,000
£13,500
Pam dewis y cwrs hwn?
- Rydym yn darparu cyfleoedd i astudio Groeg a Lladin o lefel dechreuwr llwyr i uwch archwiliad manwl o awduron a genres. Caiff arae o destunau hynafol eu harchwilio ar lefel uwch, rhai rhyddiaith a barddoniaeth. Ymhlith y mathau o destun y bydd myfyrwyr yn cael cyfle i’w hastudio mae Theogony Hesiod, Hanesion Herodotus. Rhyfeloedd Galaidd Iŵl Cesar a barddoniaeth Statius.
- Addysgir yr holl fyfyrwyr mewn grwpiau rhyngweithiol bach, mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
- Caiff myfyrwyr y cyfle i astudio dramor gyda’n partneriaid yn Bologna (Yr Eidal), Tarragona (Sbaen), Prifysgol MacEwan (Canada), Prifysgol Nipissing (Canada) a Phrifysgol Gogledd Carolina, Greensboro (UDA).
- Mae gan staff arbenigedd addysgu ac ymchwilio mewn ystod eang o feysydd o farddoniaeth Pindar, Ovid a Statius i epigraffeg Groegaidd a Rhufeinig.
- Caiff myfyrwyr y cyfle i ddewis modylau o blith holl bynciau a thestunau eraill y dyniaethau.
Beth y byddwch yn ei ddysgu
- Iaith a Llenyddiaeth Roeg a Lladin
- Diwylliant a hanes Groeg a Rhufain yr hen fyd
- Yr hen fyd o gwmpas Môr y Canoldir gan gynnwys yr Aifft a’r Dwyrain Agos
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i fyfyrwyr astudio nid yn unig byd cyfareddol Oes Hynafol Groeg-Rufeinig, gyda’i ddiwylliant, allbynnau llenyddiaeth a phobl enwog fel Alecsander Fawr ac Iŵl Cesar, ond hefyd i archwilio hyn drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â thestunau ac arysgrifau Groeg a Lladin. Gall myfyrwyr gael gwir afael ar y byd hynafol, heb ddibynnu ar gyfieithiadau gan awduron modern, ond wir gwerthfawrogi’r deunydd hwn mewn ffordd uniongyrchol a difyfyr.
Mae myfyrwyr sydd wedi astudio’r Clasuron yn Llambed YDDS wedi ymgysylltu ag ystod o ddeunydd Groeg a Lladin, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
- Barddoniaeth Hesiod, Pindar, Euripides ac Ovid
- Gwaith hanesyddol Herodotus, Thucydides a Tacitus
- Areithiau cyfreithiol a ysgrifennwyd gan bobl fel Lysias a Cicero
- Ysgrifau Lladin o Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin
Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i astudio amrywiaeth o fodylau nad ydynt yn ieithyddol sy’n ymwneud â’r hen fyd ehangach.
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir a nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan
Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan
Gwybodaeth allweddol
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Mae meysydd gwaith posibl ar gyfer ein graddedigion yn cynnwys:
- Addysgu
- Busnes a Masnach
- Astudiaethau Pellach
- Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
- Y Cyfryngau a Chyhoeddi
Nid oes un llwybr penodol i’n graddedigion yn y Clasuron. Mae myfyrwyr sy’n graddio gyda ni’n parhau i ddilyn llwybrau traddodiadol addysgu, amgueddfeydd a threftadaeth, y gwasanaeth sifil ac ymchwil –academaidd, yn y llywodraeth a’r cyfryngau. Fodd bynnag, mae’r sgiliau cyflogadwyedd a ymgorfforir yn y graddau a gynigiwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sicrhau bod gan ein graddedigion yn y Clasuron y sgiliau a’r hyder i archwilio amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa.
Mae graddedigion BA Clasuron yn addas iawn ar gyfer gyrfa addysgu, oherwydd mae galw mawr am athrawon ieithoedd clasurol ar hyn o bryd yn y DU.
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
- Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
- Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Archaeoleg (BA)Cod UCAS: V400
Gwneud cais drwy UCAS
Gwareiddiadau’r Hen Fyd (BA)
Cod UCAS: ANC1
Gwneud cais drwy UCAS
Gwareiddiad Clasurol (BA)
Cod UCAS: Q820
Gwneud cais drwy UCAS
Hanes (BA)
Cod UCAS: CCW1
Gwneud cais drwy UCAS
Treftadaeth (BA)
Cod UCAS: HER1
Gwneud cais drwy UCAS
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Ewch i’n hadran Llety Llambed i ddysgu rhagor.