Skip page header and navigation

Cyllid Rhyngwladol (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Cyllid Rhyngwladol wedi’i llunio i fodloni eich anghenion pe baech yn dymuno astudio elfennau ar gyllid yng nghyd-destun amgylchedd byd-eang. Trwy gyfuno modylau o’r rhaglenni Cyfrifeg a’r Rheolaeth Busnes Rhyngwladol, mae’r rhaglen yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth berthnasol i gael gwaith yn y sector cyllid, bancio a chyfrifeg.

Nid yn unig mae’r rhaglen yn ceisio rhoi i chi ddealltwriaeth eang o fusnes, ond hefyd mae’n sicrhau eich bod yn bodloni gofynion trylwyr y ddisgyblaeth.

Caiff sgiliau a gwybodaeth graidd eu datblygu, fel rheolaeth adnoddau dynol, marchnata, datblygiad proffesiynol a chyllid. Mae sgiliau rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu yn rhan annatod o strwythur y modylau.

Mae Lefel 5 yn eich cyflwyno i elfennau allweddol ar reolaeth cyllid a busnes. Yn y f lwyddyn olaf gallwch brofi eich gwybodaeth fanwl am theorïau a fframweithiau mawr.

Mae modylau Lefel 6 yn ffocysu ar y cyd-destun byd-eang. Disgwylir i chi ymgymryd â phrosiect annibynnol yn gysylltiedig â mater byd-eang, sefydliad rhyngwladol neu’r ddau.

Cwrs trwy gyfrwng y Saesneg yw hwn gyda’r opsiwn i astudio rhai modylau trwy gyfrwng y Gymraeg.

*Dylai myfyrwyr wneud cais trwy UCAS i ddechrau ym mis Medi. Os ydych yn gwneud cais am ddyddiad cychwyn arall, dylech wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
IF01
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Astudio cyllid o safbwynt cyfoes gyda modylau a luniwyd i roi i chi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain neu greu busnes yn y dyfodol.
02
Ymuno ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr.
03
Cynyddu eich cyflogadwyedd trwy gysylltiadau cryf a sefydledig â diwydiant, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a thrwy brosiectau byw, interniaethau, darlithoedd gwadd a gwaith maes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain. Mae’r cyfle i astudio busnes a rheolaeth ar waith yn brofiad deallusol boddhaus sydd hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu gyrfa i’r dyfodol.

Lluniwyd y rhaglen i fod â phwyslais ar ddysgu seiliedig ar waith er mwyn datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd yn barod ar gyfer gyrfa mewn busnes rhyngwladol. Bydd strategaethau dysgu arloesol yn rhai galwedigaethol er mwyn datblygu myfyrwyr neilltuol a chanddynt ffocws lleol a rhyngwladol gyda’r priodoleddau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae persbectif rhyngwladol y Brifysgol a’i hintegreiddiad gyda chyflogwyr a chymdeithasau proffesiynol yn gwarantu cynnwys tra pherthnasol a chyfredol. Mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol yn gysylltiedig â phwnc a hefyd yn brofiadau cymdeithasol gan gynnwys amrywiaeth o deithiau astudio maes a fydd yn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr ymhellach.

Mae’r sgiliau o reoli TGCh, cyfathrebu â chyfoedion a sefydliadau allanol, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, rhesymu moesegol, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth wedi’u canmol yn arbennig. Mae cynnydd myfyrwyr trwy’r rhaglen yn sicrhau eu bod yn meithrin hunanhyder cynyddol ac yn gallu rheoli eu dysgu eu hunain. Bydd graddedigion wedi datblygu hunanhyder a’r gallu i weithio mewn amgylcheddau amrywiol a chyfathrebu ar amrywiaeth eang o lefelau. Mae cyfraniad cyflogwyr, siaradwyr gwadd a sefydliadau eraill at gyflwyno’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio gyda rhwydweithiau allanol a gweld perthnasedd eu hastudiaethau.

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Rheoli Perfformiad Ariannol

(20 credydau)

Adrodd Ariannol

(20 credydau)

Trethiant

(20 credydau)

Cyfraith Contract

( credydau)

Rheolaeth Ariannol

(20 credydau)

Moeseg Fyd-eang

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Marchnata Strategol

(20 credydau)

Adrodd Corfforaethol a Chyfrifoldeb Cymdeithasol

(20 credydau)

Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.  Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

    Mae croeso i ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt wneud cais, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheini sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheini sydd â phrofiad gwaith, ond heb fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol.

    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau dilys o’r “byd go iawn” sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

    Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein graddau busnes yn rhoi i fyfyrwyr ystod eang o sgiliau y mae amrywiaeth o gyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat. Yn 2015/16 roedd 98% o raddedigion yr Ysgol Fusnes mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach ar ôl chwe mis.

    Mae’r Ysgol Fusnes yn cynnig cymorth pwrpasol i fyfyrwyr ynghylch lleoliadau, a chynigir cyngor sy’n benodol i’r diwydiant gan arbenigwyr yn y ddisgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau/interniaethau fel rhan o’u rhaglen radd a/neu yn ychwanegol i’r modylau a addysgir.