Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cymdeithaseg (BA)
Cymdeithaseg (BA)
Cytunai 100% o fyfyrwyr Cymdeithaseg y Drindod Dewi Sant fod y staff yn esbonio pethau’n dda – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
Mae cymdeithaseg yn ddisgyblaeth academaidd aeddfed sydd â hanes hir o gefnogi cyflogadwyedd. Bydd y rhaglen Cymdeithaseg yn eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r gwerthoedd ac egwyddorion sylfaenol sy’n berthnasol i gymdeithaseg, i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae problemau cymdeithasol cyfoes wedi codi ac o ymatebion i bolisi cymdeithasol.
Trwy’r cwrs hwn byddwch yn ymgysylltu â gwybodaeth am yr amrywiaeth o anghenion dynol a chymdeithasol, ac o’r polisïau cymdeithasol a’r sefydliadau lles sy’n bodoli er mwyn eu cyflawni. Bydd y rhaglen yn defnyddio ystod eang o adnoddau deallusol, safbwyntiau damcaniaethol a disgyblaethau academaidd i hwyluso dealltwriaeth o faterion Cymdeithaseg a’r cyd-destunau y mae’r rhain yn berthnasol iddynt.
Byddwch yn archwilio materion cymdeithaseg, hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag anghenion ychwanegol, iechyd a gofal cymdeithasol, cenedl ac amrywiaeth, anabledd a chymunedau, teuluoedd ac unigolion a dysgu i ddeall bod tensiynau’n bodoli rhwng realiti a delfryd cydraddoldeb, tegwch, cyfiawnder cymdeithasol, rhyddid a chynaliadwyedd, ochr yn ochr â gwerthoedd, diddordebau, safbwyntiau normadol, moesegol a moesol. Byddwch yn deall effaith gwahanol safbwyntiau damcaniaethol a thrafodaethau gwleidyddol ar ddarpariaeth Cymdeithaseg.
*Modiwlau dethol yn amodol i ail-ddilysu
Cymdeithaseg (BA)
Cod UCAS: SOC1
Gwnewch gais drwy UCAS
Cymdeithaseg (DipHE)
Cod UCAS: SOC5
Gwnewch gais drwy UCAS
Astudiaethau Cymdeithasol (CertHE)
Cod UCAS: SLS1
Gwnewch gais drwy UCAS
Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol (PhD/MPhil)
Cyswllt: Dr Caroline Lohmann-Hancock c.lohmann-hancock@uwtsd.ac.uk
Sut i wneud cais
- Gwneir pob cais i astudio gradd israddedig llawn amser drwy UCAS
– (Mae’r Athrofa yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) - Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
- Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80
- Ewch i adran gwneud cais y Brifysgol i ddysgu rhagor
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Mae’r graddau hyn yn ffocysu ar Gymdeithaseg ar waith er mwyn darparu ecwiti a chydraddoldeb yn y gymdeithas.
- Cyfleoedd i fynd ar leoliadau gwaith gyda chleientiaid mewn amgylchiadau bywyd go iawn.
- Staff sy’n ymchwilwyr gweithredol sydd hefyd yn ymgysylltu â damcaniaeth ac arfer yn y sector, ochr yn ochr â siaradwyr gwadd o ystod eang o sefydliadau.
- Opsiynau modylau ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc.
- Cyfleoedd i archwilio damcaniaeth ac arfer ar waith drwy leoliad a chyfleoedd i wirfoddoli.
Fideos o'n myfyrwyr:
Harmony Institute Cynhadledd myfyrwyr 2020
- Maxwell Davies
Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA)
FIDEO: Gender Identity - Emma Procter
Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA)
FIDEO: Sustainable Communities: Embracing Diversity - Rachel King Thomas
Astudiaethau Cymdeithasol(BA)
FIDEO: School Transport and Challenges for Harmony in Action
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Caiff y rhaglen tair blynedd hon ei thanategu gan flwyddyn sylfaen gychwynnol, sy’n cynnwys modylau sy’n archwilio cymdeithaseg, eiriolaeth, polisi cymdeithasol ac astudiaethau cymdeithasol.
Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad, wrth i’r modylau ddatblygu dealltwriaeth eang o faterion a datrysiadau cymdeithasegol.
Mae blwyddyn olaf yr astudiaethau’n ymgorffori traethawd hir gyda chysylltiadau i agweddau ar Gymdeithaseg y mae’r myfyriwr yn dymuno eu dilyn mewn mwy o fanylder.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Sgiliau Astudio Academaidd*
- Deall Cymdeithas:Cyflwyniad i Ddamcaniaeth Gymdeithasegol
- Pwy ydym ni:Diwylliant a Hunaniaeth
- Gwaith Aml-Asiantaeth:Polisi ar Waith
- Galluoedd, Grymuso ac Arfer Gwrthormesol
- Grwpiau Anodd eu Cyrraedd*
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Amrywiaeth a Gwahaniaeth mewn Byd Modern
- Dulliau Ymchwilio ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol
- Yr Ymarferydd Adfyfyriol*
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anabledd a Llesiant
- Gwaith, Tlodi a Llesiant yn y Byd Modern
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Cymunedau Cynaliadwy a Datblygu Byd-eang
- Perthnasoedd, Cyfathrebu a Theuluoedd mewn Cymdeithas Gyfoes
- Sgiliau bywyd: cyflogadwyedd a llwybrau i’r dyfodol
- Trosedd a Gwyredd yn erbyn Grym a Rheolaeth
- Prosiect Annibynnol
Dim arholiadau yn y rhaglen hon.
Mae’r asesiad ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau seminar, adroddiadau, dyddiaduron adfyfyriol, taflenni a fideos dogfen. Mae’r dulliau asesu hyn yn cysylltu â datblygiad sgiliau cyflogadwyedd.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Gwybodaeth allweddol
- Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgelu manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- 80 o Bwyntiau UCAS.
- Bydd myfyrwyr annhraddodiadol yn cael eu hystyried yn ôl eu profiad ac ar eu rhinweddau unigol.
- Croesewir ymgeiswyr sydd â chymwysterau AB/ Mynediad
- Eiriolwr
- Cymunedau yn Gyntaf
- Y Sector Cyfiawnder Troseddol
- Swyddog Addysg
- Rolau sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant chwaraeon a ffilm (yn ymateb i ddigwyddiadau presennol)
- Teuluoedd yn Gyntaf
- Darlithydd AU/AB
- Awdurdod Lleol
Rheolaeth a Gofal - Awdurdod Iechyd Lleol
Rheolaeth a Gofal - Y Cyfryngau
- Nyrsio a Nyrsio Iechyd Meddwl (Angen astudio ymhellach)
- Yr Heddlu
- Swyddog Prawf (Angen astudio ymhellach)
- Rheolaeth Prosiect
- Rheolwr Prosiect
- Ymchwil
- Cynorthwyydd Ymchwil
- Gwaith gofal cymdeithasol
- Gweithiwr Cymdeithasol (Angen astudio ymhellach)
- Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr
- Cefnogi Grwpiau Agored i niwed
- Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Gall graddedigion hefyd ddewis dal ati i astudio a chwblhau cymwysterau ôl-radd ac ymchwil ôl-radd drwy fynd ymlaen i naill ai’r, MA Ecwiti ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas neu PhD mewn Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol sy’n caniatáu myfyrwyr i ddefnyddio cyllid i ôl-raddedigion
- Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgelu manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu traethodau, aseiniadau a thraethodau hir sydd eu hangen i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
- Bydd hefyd costau pellach ar gyfer y canlynol, nad ydynt ar gael i’w prynu gan y Brifysgol:
- Llyfrau
- Dillad
- Gwaith maes
- Argraffu a chopïo
- Deunydd ysgrifennu
Astudiaethau Cymdeithasol (TystAU) (SLS1)Rhaglen un flwyddyn sydd wedi’i llunio i ddarparu blwyddyn sylfaen ar gyfer y myfyrwyr hynny a allai fod yn dymuno symud ymlaen i naill ai’r BA Cymdeithaseg neu’r radd BA Eiriolaeth; neu fel dyfarniad/cymhwyster ymadael unigryw. Caiff y rhaglen hon ei thanategu gan fodylau sy’n archwilio cymdeithaseg, eiriolaeth, polisi cymdeithasol ac astudiaethau cymdeithasol.
Eiriolaeth (BA) (6X7S)
Rhaglen tair blynedd. Caiff y cymhwyster hwn ei danategu gan flwyddyn sylfaen gychwynnol, sy’n cynnwys modylau sy’n archwilio eiriolaeth, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol ac astudiaethau cymdeithasol. Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad. Fe fydd ffocws clir ar eiriolaeth ar waith. Mae blwyddyn olaf yr astudiaethau’n ymgorffori traethawd hir gyda chysylltiadau i arfer Eiriolaeth broffesiynol a diddordebau’r myfyriwr ei hun.
Ecwiti ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA)Mae’r MA mewn Ecwiti ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas yn ddatblygiad cyffrous mewn ymateb i ddeddfwriaeth gyfredol, polisi cymdeithasol, pryderon lleol a byd-eang ynghylch ecwiti. Ystyrir bod ymwybyddiaeth o ecwiti, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn un o ofynion annatod llawer o sefydliadau, yn ogystal ag uchelgais ar gyfer cymdeithas yn gyffredinol.
Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol (PhD/MPhil)
Cyswllt: Dr Caroline Lohmann-Hancock c.lohmann-hancock@uwtsd.ac.uk
Mae Peter Davies yn adfyfyrio ar ei daith academaidd o radd sylfaen ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddyfarniad o ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
‘Yn 2004, dechreuais fy ngradd sylfaen i gynorthwywyr addysgu, gan raddio wedi tair blynedd. Wedyn gwnes i flwyddyn bellach i uwchraddio’r radd i lefel anrhydedd, gan raddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf. Wedyn cwblheais dystysgrif addysg i raddedigion flwyddyn o hyd mewn addysg gynradd. Ddwy flynedd wedyn dychwelais i’r Drindod Dewi Sant i wneud gradd Meistr mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gymdeithas ac ynghanol y cwrs hwnnw cwblheais dystysgrif ôl-raddedig mewn twristiaeth dreftadaeth hefyd. Ar ôl graddio gyda rhagoriaeth, gwnes gais am ysgoloriaethau ymchwil PhD ym Mhrifysgol Caerdydd gan gael fy nerbyn ar raglen ymchwil o’r enw ‘The social significance of artistic representations of former coal and steel communities’ yr wyf bellach wedi’i chwblhau’n llwyddiannus. Roedd yr ymchwil yn cynnwys gweithio gyda grwpiau i lunio portreadau megis barddoniaeth a ffotograffau i wrthweithio lluniadau ystrydebol o gymunedau ôl-ddiwydiannol.
‘Mae’n ymddangos yn broffesiwn enfawr ond mae’n gwestiwn o gymryd un cam ar y tro a byddaf bob amser yn ddiolchgar am gymorth ac anogaeth staff y Drindod Dewi Sant a oedd â ffydd ynof i o’r cychwyn cyntaf . Gwnaethon nhw i mi sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl os rhowch eich bryd arni. Diolch.’
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Y cyfle i astudio yn Ewrop a’r DU am semester ym mlwyddyn 2.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth