Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Darlunio (BA)

Darlunio (BA)

Ymgeisio drwy UCAS – Llawn Amser

Trwy addysgu sgiliau darlunio yn y byd go iawn ac ymwybyddiaeth o ddylunio, a mewnosod gwybodaeth a phrofiad o’r diwydiannau creadigol, bydd y cwrs yn eich galluogi i ddilyn llwybr gyrfa llwyddiannus a chynaliadwy. Rydym yn eich annog i ddefnyddio ffordd o feddwl ac arfer dargyfeiriol a chydgyfeiriol, yn annibynnol a chydweithredol, trwy ddarparu amgylchedd sy’n seiliedig ar arfer. Mae’r cwrs yn ffocysu ar y diwydiant ac yn darparu sgiliau trosglwyddadwy a rhagolygon cyflogaeth ardderchog.

Caiff entrepreneuriaeth a mentergarwch eu hintegreiddio o fewn darlithoedd a gwaith cwrs i’ch paratoi ar gyfer y diwydiant. Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i ystod o brosiectau’n cwmpasu materion cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol, gan fynd i’r afael ag ystod eang o bynciau y byddwch yn debygol o ddod ar eu traws yn broffesiynol.

Mae cysylltiadau gyda busnesau a diwydiant yn rhan hanfodol o’r rhaglen a chaiff y rhain eu cynnal a'u datblygu trwy brosiectau 'byw', lleoliadau gwaith, ymweliadau gan weithwyr proffesiynol ac ymweliadau addysgol.

Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion cyflogadwy sydd wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gwaith yn y diwydiannau creadigol. Mae llawer o’n graddedigion yn llunio gyrfaoedd llawrydd llwyddiannus, ac eraill yn dod o hyd i waith gyda stiwdios dylunio, tai cyhoeddi, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau a phapurau newydd. Ymhlith y cleientiaid mae Llyfrau Plant Usborne a Moonpig, Lego, Ymddiriedolaeth GIG, Marks & Spencer, Tigerprint, The British Museum a Lush Cosmetics.

Gwyliwch Sioe Raddio’r Haf Coleg Celf Abertawe.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Opsiynau Llwybr

Darlunio (BA)
Cod UCAS: W220
Gwnewch gais drwy UCAS

Sut i wneud cais

Gwneir pob cais i astudio rhaglen radd israddedig llawn amser trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80.

Gall y sawl sy’n gwneud cais i gyrsiau rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.

Ewch i adran Sut i Wneud Cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.


Cadw lle ar Ddiwrnod Agored Gofyn am ragor o wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Jonathan Williams


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Wedi ein gyrru gan safonau diwydiannol a gyda chymorth technolegau o'r radd flaenaf, rydym yn cynhyrchu graddedigion sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gyflogadwy iawn.
  • Mae llawer o raddedigion yn llunio gyrfaoedd llawrydd llwyddiannus iawn gan weithio gydag ystod o gleientiaid yn rhyngwladol.
  • Mae cysylltiadau gyda busnes a diwydiant yn rhan hanfodol o’r rhaglen.
  • Rydym yn cydweithio gydag Arddangosfeydd ‘New Designers’ a ‘New Blood’ Llundain bob blwyddyn. Nid yw’r cyfle hwn yn rhan o ofynion ein gradd, ond mae’n cynnig cymhelliant ychwanegol a bonws ar gyfer myfyrwyr a ddetholir.

Rhowch gip ar ein tudalen sgoriau a safleoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae cysylltiadau gyda busnesau a diwydiant yn rhan hanfodol o’r rhaglen a chaiff y rhain eu cynnal a'u datblygu trwy brosiectau 'byw', lleoliadau gwaith, ymweliadau gan weithwyr proffesiynol ac ymweliadau addysgol.

Ein nod yw cefnogi ac ysbrydoli grwpiau sy’n ddigon mawr i gynhyrchu llawer o egni torfol, ond yn ddigon bach i beidio nacau hyfforddiant unigol a sylw personol.

Caiff arddull yr addysgu a dysgu ei arwain gan brosiectau a chefnogir hyn gan weithdai seiliedig ar sgiliau i helpu myfyrwyr i gyfoethogi eu gallu technegol a’u hymholiad creadigol.

Mae gan ein myfyrwyr ddewisiadau o ran sut yr hoffent symud eu harfer ymlaen, p’un a yw hynny trwy ddulliau ‘traddodiadol’, dulliau digidol neu’n amlach ac amlach, y ddau.

Mae’r cwrs yn galw am ymrwymiad cadarn a thrylwyr, am ei fod yn annog myfyrwyr i feddwl yn annibynnol a chwestiynu’r byd o’u cwmpas a’u rôl fel cyfathrebwr gweledol.

Gall graddedigion symud ymlaen i raglenni Meistr.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)

Mae’r flwyddyn gyntaf yn ymwneud yn rhannol â rhoi’r sgiliau sylfaenol ar waith a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr o ran gwybodaeth am feddalwedd perthnasol.

  • Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Darlunio Golygyddol (20 credyd; gorfodol)
  • Gwneud delweddau a Chyfathrebu (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Astudiaethau Gweledol 1 (10 credyd; gorfodol)
  • Astudiaethau Gweledol 2 (10 credyd; gorfodol)
  • Ffyrdd o Ganfod (10 credyd; gorfodol)
  • Ffyrdd o Feddwl (10 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)

Yn gyffredinol mae’r ail flwyddyn yn ymwneud â’r cyfnod o droi’n ddarlunydd proffesiynol.

  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Darlunio ar gyfer Hysbysebu (20 credyd; gorfodol)
  • Darlunio Naratif (20 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil mewn Cyd-destun (10 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil ar Waith (10 credyd; gorfodol)
  • Ymholiad Gweledol 1 (10 credyd; gorfodol)
  • Ymholiad Gweledol 2 (10 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)

Caiff Lefel 6 ei arwain yn rhannol gan y myfyrwyr a chaiff cynnwys brîff prosiectau a dyddiadau cyflwyno ffurfiannol eu trafod. Mae hyn yn creu cyfrifoldeb hunan-gyfeiriedig lle gall myfyrwyr greu eu portffolio terfynol.

  • Ymholiad Creadigol Uwch (20 credyd; gorfodol)
  • Portffolio Graddedigion (60 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
Asesiad

Ar ddechrau pob modwl, byddwn yn cyhoeddi’r ‘Manyleb Asesu’, sy’n disgrifio’n glir, ym mhob maen prawf asesu, yr hyn sy’n ofynnol.

Mae sesiynau adborth wythnosol yn galluogi i fyfyrwyr ffocysu ar y gofynion, heb amharu ar y rhyddid i allu ehangu ar syniadau.

Fel arfer, cyflwynir hyfforddiant technegol trwy ddarlith arddangos ac yna bydd staff yn helpu pob myfyriwr yn unigol wrth iddynt symud ymlaen trwy her.

Ceir adborth ffurfiannol a chrynodol ar gyfer pob modwl, mewn ysgrifen ac ar lafar. Pan gaiff yr adborth crynodol ei ryddhau, gall myfyrwyr drefnu tiwtorial ‘un i un’ i drafod eu hadborth ymhellach.

Nid oes arholiadau ysgrifenedig ar gyfer y cwrs hwn.

Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau â'r Diwydiant

Oriel Lluniau

Darlunio

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch portffolio o waith.

Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

  • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un Lefel A mewn pwnc academaidd perthnasol
  • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
  • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
  • Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
  • Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
  • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.
  • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
  • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
  • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol

Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig yn unig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

Gweler ein Canllaw Cyfweliadau am ragor o wybodaeth.

Cyfleoedd Gyrfa

Bydd llawer o raddedigion yn llunio gyrfaoedd llawrydd llwyddiannus gan weithio gydag ystod o gleientiaid yn rhyngwladol; mae rhai ohonynt yn cael eu cynrychioli gan brif asiantaethau Darlunio Llundain.

Mae graddedigion eraill yn dod o hyd i waith gyda stiwdios dylunio, tai cyhoeddi, asiantaethau hysbysebu, cylchgronau a phapurau newydd. Ymhlith y cleientiaid mae:

  • Usborne Children's Books
  • Moonpig
  • Lego
  • Ymddiriedolaeth GIG
  • Allihoper Greeting Cards
  • Marks & Spencer
  • The Great British Card Company
  • Tigerprint, Bright Agency
  • Cwmn Cyhoeddi Graffeg
  • Tokyo DisneySea Park
  • Cylchgrawn Welsh Country
  • Bay Studios
  • The British Museum 
  • Magic Leap Inc. Visible Art
  • Lush Cosmetics
  • The Print Haus
  • Astra Games
  • Locksmith Animation

Hefyd, mae’r rhaglen yn darparu sylfaen da ar gyfer y rheiny sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes addysgu, yn arbennig addysgu celf a dylunio mewn ysgolion ac, ar ôl profiad proffesiynol, addysgu darlunio a dylunio mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.

Costau Ychwanegol

Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y gallai’r union gostau sy’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Gorfodol

  • Cyfradd myfyrwyr Adobe Suite: £120 y flwyddyn, ond yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd mewn clwstwr gan Y Drindod Dewi Sant.

Costau Angenrheidiol

  • Portffolio A3: £20
  • Casgliad o offer – fflaim, pren metel, llewys plastig, gyriant caled, cof bach, beiros, pensiliau, marcwyr: £70
  • Cyflenwadau celf darlunio: £100
  • MacBook: £1500
  • Costau argraffu: £200
  • Llyfrau braslunio: £40.

Dewisol

  • Teithiau Myfyrwyr: £200 i £500.
Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

Aidan Biddiscombe – Un o Raddedigion y Cwrs Darlunio

“Mae Abertawe yn un o’r llefydd hynny sydd efo cymaint o straeon i’w hadrodd. Mae ganddi dirlun anhygoel lle mae hanes, natur a hwyl yn dod at ei gilydd gan arwain at hanesion rhyfeddol gan y cymeriadau mwyaf annhebygol. Os byddwch yn dod yma, cofiwch fynd i archwilio ac fe ddowch o hyd i ysbrydoliaeth mewn mannau go annisgwyl.”

Rebecca Cowley

“Penderfynu astudio yng Ngholeg Celf Abertawe yw un o’r penderfyniadau gorau rwyf wedi’i wneud hyd yma ar fy nhaith o ddod yn ddarlunydd llwyddiannus. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r cwrs wedi fy helpu i ennill sgiliau gwerthfawr a fydd yn fy helpu yn y diwydiant, pethau fel arfer proffesiynol, datrys problemau a meddwl creadigol. Mae’r darlithwyr wir yn mynd allan o’u ffordd i roi’r profiad dysgu gorau i fyfyrwyr, gan gynnig tiwtorialau un i un ac awgrymiadau portffolio yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol gan siaradwyr gwadd a gweithwyr proffesiynol sydd yn y diwydiant yn barod. Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer pobl sy’n barod i droi eu cariad at gelf a dylunio yn yrfa eu breuddwydion”.

Bow Bennett

“Roeddwn ychydig yn bryderus ynghylch dychwelyd i addysg ar ôl egwyl, ond doedd dim angen! Mae awyrgylch cyfeillgar iawn gan y cwrs darlunio, ac mae ein profiad n bwysig i’r darlithwyr. Mae cynnwys y cwrs yn amrywiol ac yn caniatáu i ni fod yn greadigol ac archwilio llawer o wahanol lwybrau gyrfa posibl. Mae dod i Goleg Celf Abertawe wedi caniatáu i mi ffynnu ac edrych ymlaen i yrfa yn y dyfodol mewn maes rwy’n dwlu arno”.

Miri Hughes

“Ers cofrestru ar y cwrs Darlunio yn Y Drindod Dewi Sant, mae fy mwynhad wrth ddarlunio a chreu wedi tyfu’n fawr. Wyf wedi dysgu cymaint o dechnegau ac wedi gallu defnyddio llawer o wahanol gyfryngau, nad oeddwn wedi cael y cyfle i arbrofi gyda nhw o’r blaen, ac mae’r tiwtoriaid ar gael o hyd i helpu a rhoi adborth ar ein gwaith a chyngor ynghylch ein prosiectau. Os nad oeddwn i wedi ymuno â’r cwrs, rwy’n credu’n ffyddiog y byddai fy sgiliau arlunio yn llawer llai datblygedig, a fyddai hefyd yn wir am fy ngwybodaeth ynghylch y diwydiant, a lefel fy hyder wrth llunio gyrfa artistig yn y dyfodol”. 

Will Collyer

“Mae fy amser yn y brifysgol wedi bod yn anhygoel, oherwydd yr hyn rwyf wedi’i ddysgu a’r bobl rwyf wedi cwrdd â nhw ar y daith. Rwy’n teimlo’n llawer mwy cyfforddus ac yn barod i ddechrau gyrfa ym maes darlunio gyda’r wybodaeth a’r sgiliau y gwnaethom oll eu datblygu yn ystod ein tair blynedd yma. Allen i fyth roi digon o glod i’r athrawon a’r technegwyr oedd o gwmpas o hyd ac ar gael i gynnig help ac arweiniad ynghylch gwaith neu fywyd Prifysgol yn gyffredinol. Heb eu help a’r mewnbwn creadigol ganddynt trwy eu profiadau a’u gyrfaoedd nhw, rwy’n amau y byddem ni wedi teimlo mor gyfforddus ac yna mor llwyddiannus ag y buom ni”.

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Yn ogystal â’n , mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:

Map

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.