Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Dylunio Gemau Cyfrifiadurol (BA, ANRH, HND, HNC, Mynediad Sylfaen)
Bydd y radd hon yn rhoi cyfle i chi archwilio cyfleoedd cyfoes mewn dylunio gemau yn greadigol ac yn ddychmygus. Nod y cwrs yw meithrin cyfleoedd cadarn a chynaliadwy i chi ddatblygu eich portffolio gorau o waith cynhyrchu sy’n seiliedig ar gemau ac sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan wella eich cyfleoedd am swydd yn y diwydiant.
Bydd eich datblygiad fel unigolyn, eich gallu creadigol a’ch hunaniaeth yn cael eu meithrin wrth i chi ddatblygu sgiliau technegol allweddol yn gysylltiedig â chynhyrchu amrywiaeth eang o allbynnau neu arteffactau dylunio gemau.
Nod y cwrs yw meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o’r sgiliau creadigol, beirniadol, dadansoddol a deongliadol sydd eu hangen i ddylunio a gweithredu gemau cyfrifiadurol, i gyfoethogi eich datblygiad fel unigolyn ac fel aelod o dîm.
Bydd datblygu sgiliau deallusol, megis dadansoddi, arloesi ac arfarnu beirniadol, yn themâu drwy gydol y dosbarthiadau ffurfiol a’r broses ddysgu. Defnyddir darlithoedd i archwilio cysyniadau a damcaniaethau ac i ddatblygu gwybodaeth yn sail i sgiliau technegol uwch.
Mae’r modylau’n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant ac yn cydnabod pwysigrwydd cyd-destun.
Mae’r Drindod Dewi Sant yn aelod o'r Rhaglen Academaidd PlayStation®First sy’n cael ei redeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE), sy’n rhoi mynediad i staff a myfyrwyr at offer caledwedd a meddalwedd datblygu proffesiynol.
BA Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Cod UCAS: CGD1
Gwnewch gais trwy UCAS
HND Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Cod UCAS: CGD8
Gwnewch gais trwy UCAS
HNC Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Cod UCAS: CGD9
Gwnewch gais trwy UCAS
Sut i wneud cais
Gwneir pob cais i astudio rhaglen radd israddedig amser llawn trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae cwrs rhan amser ar gael hefyd.
Dylai’r ymgeiswyr amser llawn sy’n dymuno dechrau ym mis Medi wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais trwy’r Brifysgol.
Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80.
Cadw Lle Ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Tîm addysgu angerddol gyda phrofiad o’r diwydiant o ran cynhyrchu annibynnol a lefel AAA
- Rydym wedi bod yn rhan o Raglen Academaidd PlayStation®First ac yn Bartner Academaidd Unreal Engine er 2016.
- Gofod stiwdio pwrpasol ar gyfer Myfyrwyr Gemau yn unig
- Grwpiau addysgu llai sy’n caniatáu dull mwy personol gyda phob un myfyriwr
- Potensial i gynnal briffiau prosiect byw yn cynnwys diwydiannau lleol
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein hathroniaeth: Galluogi myfyrwyr i ddylunio a chreu prosiectau rhyngweithiol sy’n arddangos eu gwybodaeth o ddatblygu gemau.
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymagwedd bersonol at ddysgu a datblygu myfyrwyr, gyda grwpiau tiwtorial llai a gweithfannau pwrpasol ar gyfer y cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol yn unig.
Gyda chysylltiadau ym myd diwydiant, profiad staff o ddatblygu gemau yn rhan o’r Rhaglen Academaidd PlayStation®First, ac fel Partner Academaidd Unreal Engine, ein bwriad yw rhoi gwybodaeth berthnasol o’r diwydiant i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu i adeiladu gyrfa ym maes datblygu gemau.
Mae’r rhaglen hon yn rhoi blaenoriaeth i archwilio dylunio gemau cyfrifiadurol yn greadigol. Cewch yr holl wybodaeth angenrheidiol i ddatblygu gwaith newydd ac arloesol yn y meysydd creu cymeriadau, graffeg 3D, animeiddio, modelu cymeriadau ac amgylchedd, gweadu, dylunio rhyngwyneb a chelf gysyniadol. Archwilir mecaneg gemau a systemau rheolau (“lwdoleg”) yn aml gan ddefnyddio modelau cysyniadol ar bapur. Fe’ch anogir i archwilio a datblygu eich syniadau o fewn ac o amgylch y maes pwnc mewn cyfres o fodylau astudio cyd-destunol sy’n ysgogi’r meddwl.
Mae’r myfyrwyr yn dysgu’n bennaf drwy arfer: mae’r radd yn canolbwyntio arnoch chi’n cynhyrchu gemau cyfrifiadurol gweithredol, a ddyluniwyd gennych chi eich hun, ac mae’n arwain at gyfres o brosiectau a gyfarwyddwyd yn bersonol sy’n eich galluogi i gyfeirio eich astudiaethau at faes arbenigol dewisol. Mae’r pwyslais ar fynegiant personol!
Gyda’r Drindod Dewi Sant yn aelod o Raglen Academaidd PlayStation®First sy’n gael ei rhedeg gan Sony Interactive Entertainment Europe (SIEE), gall myfyrwyr a staff bellach fanteisio ar ddatblygu syniadau gemau yn uniongyrchol ar blatfform consol Playstation 4.
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau rhagorol â chwmnïau cynhyrchu gemau yn lleol ac yn genedlaethol. Trwy ddeialog gyda’r diwydiant a manteisio ar y datblygiadau diweddaraf mewn gemau, mae graddedigion y rhaglen hon wedi’u paratoi’n briodol i ymuno â’u diwydiant fel ymarferwyr. Gallai meysydd cyflogaeth gynnwys Artist Lefel, Modelydd Amgylcheddol, Artist Cymeriadau, Modelydd Cymeriadau, Artist Gwead ac Artist Cysyniadau Traddodiadol/Digidol.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BA)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dylunio Amgylchedd (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio a Hanes Gemau (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Animeiddio Cymeriadau (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Astudiaethau Gweledol (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BA)
- Animeiddio Cymeriadau Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Ysgogwyr newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ysgogwyr newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Theori a Dylunio Gemau (20 credyd; gorfodol)
- Datblygu Gemau Annibynnol (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio a Datblygu Lefel (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Perfformiad Cymeriadau Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Tueddiadau sy’n dod i’r Amlwg (20 credyd; gorfodol)
- Datblygu Portffolio Personol (20 credyd; gorfodol)
- Dylunio Profiad Defnyddwyr (20 credyd; gorfodol).
Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Ni fydd unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn. Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modwl, mae asesu crynodol yn digwydd ar ddiwedd modwl.
Er mwyn cynnal uniondeb academaidd, defnyddir amrywiaeth o strategaethau. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymarferol yn cynnwys elfennau ysgrifenedig ffurfiol o ryw fath: popeth o fformat traethawd safonol i bethau megis adroddiadau defnyddioldeb, dogfennau diffinio cynnyrch, ymatebion i bapurau academaidd arloesol neu feirniadaethau ohonynt, cyfnodolion dysgu, cynlluniau busnes, ac ati. Bydd yn rhaid i bob myfyriwr Lefel 6 gwblhau Traethawd Hir.
O L4 ymlaen caiff myfyrwyr eu hasesu’n eang hefyd mewn cyflwyniadau, gan arwain ar L6 at y Prosiect Mawr. Gwelsom fod asesiad llafar (viva voce) yn addas iawn i’r gwaith a wnawn yn yr Ysgol, sydd yn debyg iawn i arfer celf gain ond â sail dechnegol.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau â'r Diwydiant
Dylunio Gemau yn YDDS
Gwybodaeth allweddol
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un Lefel A mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag o leiaf raddau Clod
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
Gweler ein Canllaw Cyfweliadau am ragor o wybodaeth.
Gallai graddedigion o’n rhaglen Dylunio Gemau Cyfrifiadurol ddatblygu arbenigedd mewn unrhyw rai o’r cyd-destunau diwydiannol canlynol:
- Gemau ar y We a Dyfeisiau Symudol: dylunydd, artist 2D, artist 3D, cyfarwyddwr prosiect.
- Datblygu Gemau Consol/PC: dylunydd lefel, dylunydd cymeriadau, modelydd cymeriadau, animeiddiwr, artist deunyddiau, artist goleuo, artist bwrdd stori, dylunydd lefel cynorthwyol, modelydd cymeriadau cynorthwyol, cynorthwyydd goleuo, artist gwead cynorthwyol, artist cysyniadau cynorthwyol, dylunydd gemau dan hyfforddiant, modelydd asedau, rhestr cwestiynau ac atebion am y gêm.
- Tŷ Cynhyrchu Animeiddio: dylunydd cymeriadau, modelydd cymeriadau, animeiddiwr, artist deunyddiau, artist goleuo, artist bwrdd stori, cyfarwyddwr prosiect.
- Newyddiadurwr gemau.
Mae myfyrwyr ar y cwrs wedi gweithio ar nifer o gemau sydd wedi’u canmol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan gynnwys Grand Theft Auto 5, Alien: Isolation, a Lego Star Wars 3. Mae gan y cwrs gysylltiadau â chwmnïau gemau megis:
- EA
- Rockstar North
- Creative Assembly
- Media Molecule
- Traveller's Tales
- Fusebox Games
- Blizzard
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu'r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch yn dymuno dod â'ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi, felly cysylltwch â ni cyn prynu unrhyw beth.
- Sefydliad Celf a Dylunio (TystAU) – tudalen Saesneg: Art and Design Foundation (CertHE)
Sean Ellis
“Drwy gydol fy ngradd, fe wnes i ffrindiau oes o’r un meddylfryd â mi a dysgais beth oedd wir yn ei olygu i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu. Fe wnaeth angerdd heintus ein darlithwyr at gemau a chelf fy helpu i ragori ar fy nisgwyliadau fy hun, ac o ganlyniad i’r sgiliau newydd a ddysgais, cefais swydd fel artist 3D yn syth ar ôl gadael y Brifysgol”.
James Penhallurick
“Cwrs gwych gyda digon o gyfleoedd i greu gemau llawn hwyl, gwthio sgiliau creadigol a chael blas ar weithio yn y diwydiant gemau.”
Joe Blanchard
“Ar ôl cwblhau fy mlwyddyn gyntaf ar y radd hon, gallaf ddweud yn hyderus fy mod wir wedi mwynhau. Dysgais lawer o sgiliau gyda’r feddalwedd berthnasol, ond animeiddio roddodd y boddhad mwyaf i mi. Rwy’n edrych ymlaen at ychydig flynyddoedd nesaf fy nghwrs.”
Adam Head
“Mae’r cwrs yn daith ddifyr a buddiol iawn drwy fyd dylunio gemau creadigol. Mae’r cwrs, trwy ei ddarlithwyr gwych, wedi dysgu’r sgiliau hanfodol i mi y bydd eu hangen arnaf i ffynnu yn y diwydiant gemau.”
Connor Furneaux
“Hyd yn oed pan fyddaf yn gwneud pethau’n anghywir, rwy’n dal i greu llwybrau at ddulliau gwahanol. Ar y cwrs hwn rydych chi’n dysgu pethau newydd a diddorol yn barhaus.”
Ben Long
“Mae’r cwrs wedi fy helpu i wella fy sgiliau cyfathrebu ac rwy bellach yn gwybod sut i weithio’n effeithiol mewn tîm. Mae dysgu creu gemau wedi bod yn brofiad dysgu anhygoel.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Yn ogystal â’n , mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.