Skip page header and navigation

Dylunio Graffig (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Trwy ddarparu addysg eang a thrylwyr mewn dylunio graffig, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddeall a chyfrannu at ein diwylliant gweledol mewn ffyrdd proffesiynol, cynaliadwy ac ystyrlon. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar greu graddedigion sy’n ddylunwyr technegol dda ac sy’n gymdeithasol ac yn foesegol ymwybodol. Wedi’n hysgogi gan safonau’r diwydiant a’n cefnogi gan dechnolegau o’r radd flaenaf, rydym yn creu graddedigion sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n hynod gyflogadwy.

Trwy eich paratoi i ymateb i gyfleoedd newydd ac anghenion cyfnewidiol cymdeithas, a’r diwydiant, byddwch yn datblygu’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer dyfeisgarwch, meddwl arloesol a chyfrifoldeb personol fel dylunydd graffig.
Mae cysylltiadau â busnes a diwydiant yn elfen hanfodol o’r radd hon a chânt eu cynnal a’u datblygu trwy brosiectau ‘byw’, lleoliadau gwaith, gweithwyr proffesiynol gwadd ac ymweliadau addysgol.

Mae ein henw da yn y diwydiant am greu graddedigion rhagorol yn golygu cyfraddau cyflogaeth uchel, ac mae ein graddedigion yn gweithio ar draws llawer o ddiwydiannau creadigol mewn stiwdios dylunio, tai cyhoeddi a gwaith llawrydd. Dyma rai enghreifftiau: Apple, Saatchi & Saatchi, Fitch, Sky Creative, Sky Sports, Amgueddfa Wyddoniaeth Prydain, Google, Nike a Lego.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
W210
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gennym hanes cyflogadwyedd eithriadol wrth i’n myfyrwyr Dylunio Graffig ennill rhai o’r gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol mwyaf cyffrous sydd ar gael, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
02
Mae cysylltiadau â byd busnes a diwydiant yn rhan hanfodol o’r rhaglen hon ac fe’u cynhelir a’u datblygir trwy brosiectau ‘byw’, lleoliadau gwaith, gweithwyr proffesiynol gwadd ac ymweliadau addysgol.
03
Cyfleoedd i arddangos ochr yn ochr â graddedigion gorau’r DU yn New Designers, Llundain, a chyfle gwych i ddod i gysylltiad â chyflogwyr yn y diwydiant. Mae ein cwrs yn parhau i ennill gwobrau yn y digwyddiad arddangos hwn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn rhoi addysg eang i chi mewn Dylunio Graffig a, gan fod rhywfaint o hyblygrwydd yn rhan ohoni, mae’n eich galluogi i ddilyn diddordebau unigol, boed ym meysydd graffeg gorfforaethol a hunaniaeth brand, cyhoeddi, dylunio cyffredinol ar gyfer argraffu, pecynnu neu ddylunio rhyngweithiol ar gyfer y sgrin.

Wedi’n hysgogi gan safonau’r diwydiant a’n cefnogi gan dechnolegau o’r radd flaenaf, rydym yn creu graddedigion cyflogadwy iawn. Mae cysylltiadau â busnes a diwydiant yn elfen hanfodol o’r rhaglen a chânt eu cynnal a’u datblygu trwy brosiectau ‘byw’, lleoliadau gwaith, gweithwyr proffesiynol gwadd ac ymweliadau addysgol.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr i’r rhaglen sy’n angerddol am Ddylunio Graffig, sy’n gallu sôn am faterion dylunio cyfoes â brwdfrydedd.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â meddwl agored a chwilfrydedd anniwall am y byd yr ydym yn byw ynddo.

Yn y cyfweliad, rydym am weld portffolio o waith sy’n dangos ymrwymiad, parodrwydd i archwilio ac arbrofi gydag ystod eang o waith. Mae gennym ddiddordeb ym mhopeth, nid Dylunio Graffig yn unig.

Yn ystod blwyddyn un, mae’r dysgu’n digwydd trwy brosiectau ymarferol yn y stiwdio. Ystyriwn deipograffeg yn gonglfaen arfer Dylunio Graffig. Yn y flwyddyn gyntaf, fe’ch cyflwynir i deipograffeg yn ei ystyr ehangaf, lluniadu a dylunio ffurfiau llythrennau, dysgu sut mae teip yn gweithredu, a sut mae testun yn cael ei drin yn ogystal â sut i gyfuno testun a delweddau.

Deallwn bwysigrwydd technolegau newydd, ac ategir yr hyfforddiant dylunio gan weithdai dwys ar gyfrifiaduron, gan ddefnyddio rhaglenni o safon diwydiant. Rydym yn rhagdybio nad oes gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am y rhaglen, a chewch eich cyflwyno’n araf i wahanol dechnolegau trwy aseiniadau dylunio.

Er eu bod nhw’n werthfawr, ni allwch ganiatáu i gyfrifiaduron eich diffinio fel dylunydd, felly pwrpas y modylau Astudiaethau Gweledol yw hybu ymwybyddiaeth weledol a meddwl yn greadigol.

Mae blwyddyn dau yn ymwneud â dod yn ddylunydd proffesiynol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod myfyrwyr yn gadael y rhaglen yn barod am swydd. Llywir y modylau ymarferol amrywiol hyn gan safonau’r diwydiant, ac mae myfyrwyr yn dysgu am gynhyrchu dylunio i safonau proffesiynol yn y cyfryngau print a digidol. Nid yw’n gyfrinach bod blwyddyn dau yn gam i fyny yn greadigol ac yn ddeallusol o flwyddyn un.

Mae’r briffiau’n hirach, yn fwy heriol ac yn gofyn am feddwl manylach. Disgwylir i chi hefyd gymryd llawer mwy o ran yn y broses ddysgu, gan ddefnyddio’ch ymchwiliadau a’ch diddordebau eich hun i wthio’r rhaglen i’r cyfeiriad yr hoffech ei ddilyn.

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser ar waith ymarferol, gan adeiladu portffolio cryf ac amrywiol. Mae’r prosiectau’n gyfuniad o heriau personol hunangynyrchedig a briffiau ‘byw’ allanol a gomisiynwyd. Mae Graffeg Symudol hefyd yn fodwl poblogaidd a hwyliog ar gyfer y flwyddyn olaf. Rydym hefyd yn annog cymryd rhan mewn cystadlaethau dylunio rhyngwladol a chenedlaethol. Cefnogir eich datblygiad gan sesiynau tiwtorial a gaiff eu trefnu’n rheolaidd.

Mae’r Prosiect Annibynnol yn cefnogi eich ymarfer ymhellach, a daw’r flwyddyn i ben ag arddangosfa grŵp, sef eich llwyfan i gyflwyno’ch hun i’r byd ehangach. Erbyn diwedd blwyddyn tri, braf yw clywed cymaint y mae’r myfyrwyr yn mwynhau eu hymchwil ar eu Prosiect Annibynnol. Cofiwch fod digon o gefnogaeth ardderchog i’n myfyrwyr Celf ar gyfer prosiectau ysgrifenedig ac ymarferol.

Mae cyfleoedd hefyd i ddangos eich gwaith yn un o’r prif sioeau graddio i fyfyrwyr yn Llundain, lle daw ein myfyrwyr o hyd i gyfleoedd cyflogaeth yn gyson.

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Teipograffeg

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 1

(10 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Dylunio ar gyfer Cyhoeddi

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 2

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Hunaniaeth Gorfforaethol a Brandio Creadigol

(20 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun
Ymholiad Gweledol 1

(10 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Dylunio ar gyfer Profiad Defnyddiwr

(20 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Ymholiad Gweledol 2

(10 credydau)

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Portffolio Graddio

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Mae myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur Apple Mac gyda monitor sgrin lydan.

Cyfleusterau Dylunio Graffig

Caiff y rhaglen Dylunio Graffig ei gyflenwi’n dda â’r cyfrifiaduron Apple diweddaraf a meddalwedd proffesiynol, sy’n cael eu hadnewyddu a’u diweddaru’n rheolaidd. Rydym yn ffodus o gael lle gweithio gwych i’n gweithwyr gyda stiwdio benodol i’n myfyrwyr trydedd flwyddyn.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
    • Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
    • Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol

    Mae cymwysterau’n bwysig, ond nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@pcydds.ac.uk. Gallwn ystyried ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Asesir trwy waith cwrs. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Asesir myfyrwyr yn ffurfiannol trwy gydol modwl a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys, ymhlith eraill:

    Tiwtorialau anffurfiol, tiwtorialau ffurfiol, beirniadaethau grŵp, cyfarfodydd un i un, arddangosfeydd a chyflwyniadau. Cefnogir yr holl asesiadau hyn gan staff, ac arweinir y myfyrwyr trwy bob proses ddysgu.

  • Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu hymchwiliad o’u hymarfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs.  Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.

    Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100, ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio.  Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.

  • Un o’r agweddau gwych ar Ddylunio Graffig yw’r ffaith bod y sgiliau’n drosglwyddadwy i broffesiynau eraill. Gall dylunio gynnig llawer o gyfleoedd.

    Dyma restr o’r hyn y mae ein myfyrwyr yn ei wneud nawr:

    • Dylunwyr Graffig
    • Cyfarwyddwyr Celf
    • Dylunwyr Graffeg Symudol
    • Rheolwyr Argraffu
    • Dylunwyr Gwyliau
    • Dylunwyr Cynghrair Pêl-droed
    • Dylunio Teithio
    • Dylunio Gwesty
    • Dylunwyr Gwe
    • Dylunio Rhyngwyneb Defnyddiwr
    • Dylunio Teganau
    • Teiliwr Dylunio hyd yn oed!

    Cwmnïau lle mae myfyrwyr yn gweithio:

    • Apple
    • Saatchi and Saatchi
    • Fitch
    • Sky Creative
    • Sky Sports
    • Amgueddfa Wyddoniaeth Prydain
    • Google
    • Nike
    • Lego
    • Conran Design
    • Tigerprint
    • Gwasg Prifysgol Rhydychen
    • Pêl-droed Manchester United
    • Pêl-droed Aston Villa
    • Banc Barclays
    • Waters
    • SapentNitro
    • Stag and Hare Design
    • Blue Stag Studio
    • Engima Design Solutions
    • Dirty Little Serfis
    • W12 Studios
    • Dr Organic
    • Icon
    • Pêl-droed Dinas Abertawe
    • Ontrac Agency

Mwy o gyrsiau Art, Design and Photography

Chwiliwch am gyrsiau