Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth (BA)
Nod y rhaglen hon yw rhoi i chi wybodaeth gynhwysfawr, sgiliau ymarferol ac ymagweddau arloesol at brosesau dylunio modurol a thrafnidiaeth cynaliadwy, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r fframwaith amgylcheddol, cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol y byddwch yn gweithio ynddo. Mae’r rhaglen yn llwyddiannus iawn ac mae wedi cynhyrchu nifer o raddedigion nodedig sydd wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr yn eu maes.
Cyflwynir y rhaglen gan dîm profiadol o Ddylunwyr Modurol sefydledig, wedi’u cefnogi gan ddarlithwyr ac ymarferwyr gwadd a thîm technegol profiadol. Mae’n cynnwys rhaglen BA pedair blynedd gyda lleoliad diwydiannol dewisol.
Caiff sgiliau traddodiadol, yn cynnwys modelu clai eu haddysgu ochr yn ochr â thechnolegau mwy newydd fel dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD), Rhith Wirionedd a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur (CAM).
Nod y rhaglen yw addysgu dylunwyr, cerflunwyr clai a digidol a modelwyr caled yn y diwydiant dylunio modurol a thrafnidiaeth (yn cynnwys badau hwylio a dylunio beiciau modur) sy’n hyfedr i fodloni anghenion amgylchedd cyfoes ac amgylchedd y dyfodol.
Trwy fabwysiadu ymagwedd fwy cynhwysfawr, byddwch yn gallu bod yn ymaddasol, dyfeisgar a chynhyrchiol wrth fodloni heriau dyfodol dylunio modurol a thrafnidiaeth gyda meddylfryd a fydd yn ystyried agweddau amgylcheddol, cymdeithasol a chynaliadwy.
Gweld Sioe Raddio Haf Coleg Celf Abertawe
Opsiynau Llwybr
Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth (BA)
Cod UCAS: AMT1 (3 blynedd llawn amser)
Gwnewch gais trwy UCAS
Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth gyda Blwyddyn Lleoliad (BA)
Cod UCAS: AMT4 (4 blynedd llawn amser gyda lleoliad)
Gwnewch gais trwy UCAS
Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth (Cert HE)
Cod UCAS: AMT6 (1 flwyddyn llawn amser)
Gwnewch gais trwy UCAS
Dylunio Modurol A Thrafnidiaeth (Dip HE)
Cod UCAS: AMT5 (2 flynedd llawn amser)
Gwnewch gais trwy UCAS
Mae’r flwyddyn Lleoliad Proffesiynol yn rhoi’r opsiwn i’r myfyrwyr ymwneud â chynllun cyfnewid proffesiynol neu interniaeth mewn stiwdio ddylunio go iawn ac ennill profiad gwerthfawr a fydd yn cefnogi eu datblygiad proffesiynol ac Academaidd. Ar ôl cwblhau eu hail flwyddyn Academaidd, gallai’r myfyrwyr eu cael eu hunain yn gweithio ar brosiectau go iawn yn dysgu’n uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol gorau’r diwydiant, yn y DU neu dramor gan ennill profiad gwerthfawr a fydd yn siŵr o wella eu gwaith pan fyddant yn ôl yn y brifysgol i gwblhau’r flwyddyn olaf.
Sylwch fod y Lleoliad Proffesiynol yn amodol ar gais hunangychwynnol, a gall gynnwys costau ychwanegol fel teithio a llety.
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau i astudio ar gyfer rhaglen radd israddedig llawn amser trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe YDDS yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80
Ewch i adran wneud cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
5 rheswm dros astudio’r cwrs hwn:
1. Prosiectau byw a gefnogir gan y diwydiant gyda gweithgynhyrchwyr mawr.
2. Staff darlithio a chymorth technegol â blynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant.
3. Eich gofod stiwdio eich hun a stiwdios modelu clai a digidol pwrpasol gyda digonedd o gymorth un i un.
4. Gallwch symud ymlaen o’r BA i’r MA Dylunio Trafnidiaeth neu hyd yn oed PhD mewn amgylchedd trawsddisgyblaethol iawn.
5. Campws yng nghanol y ddinas sy’n agos at fywyd cymdeithasol ardderchog a thraethau Gŵyr.
Cymerwch olwg ar ein tudalen ffeithiau a ffigurau
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Dosbarthiadau bach o fyfyrwyr
- Mae'r tîm Academaidd yn cynnwys Dylunwyr hynod brofiadol
- Prosiectau Dylunio Byw
- Cyfleusterau o'r radd flaenaf
- Cysylltiadau â’r diwydiant
- Cyfle i symud ymlaen i Raglen Gradd Meistr
- Wedi'i leoli ar lan y môr mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i hwyluso datblygiad dylunydd trwy atgynhyrchu amgylchedd proffesiynol, gan annog graddedigion i fynd i'r afael â'r her ddylunio yn yr un modd â dylunydd modurol proffesiynol.
Bydd ein graddedigion yn gallu creu syniadau ynghylch pecynnau peirianneg, sefydlu tueddiadau newydd o ran iaith ddylunio a dysgu am gyfraneddau. Byddwch yn cysylltu dyluniad penodol â brand; yn dychmygu symudedd y dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithlon, cynaliadwy a deniadol; yn dylunio mathau o gludiant gyda dull 'o’r tu mewn allan'; ac, yn bwysicaf oll, yn troi darlun yn realiti.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- CAD a Delweddu 3D (20 credyd; gorfodol)
- Technegau Dylunio Modurol 1 (20 credyd; gorfodol)
- Technegau Dylunio Modurol 2 (20 credyd; gorfodol)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Technoleg Cerbydau (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Arwynebu Modurol Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Gwneuthurwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Gwneuthurwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Delweddu Digidol Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Arfer Proffesiynol 1 (20 credyd; gorfodol)
- Arfer Proffesiynol 2 (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion).
- Prosiect Mawr Unigol (60 credyd; gorfodol)
- Prosiect Mawr: Ymchwil Dylunio (20 credyd; gorfodol).
Lleoliad Proffesiynol Annibynnol
Mae’r flwyddyn ddewisol ar leoliad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddilyn cynllun cyfnewid proffesiynol neu interniaeth mewn stiwdio ddylunio go iawn rhwng yr ail flwyddyn astudio a’r flwyddyn astudio olaf.
Asesir trwy waith cwrs, yn ysgrifenedig ac yn ymarferol. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Caiff myfyrwyr eu hasesu’n ffurfiannol trwy gydol modwl, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu trwy gydol y cwrs sy'n cynnwys, ymhlith eraill, y canlynol:
Tiwtorialau Anffurfiol
Cynhelir y tiwtorialau hyn yn rheolaidd, ar draws pob lefel. Ym Mlwyddyn 1, mae pob myfyriwr yn gweld ac yn trafod ei waith gydag aelod o staff ym mhob sesiwn stiwdio, ac yn yr un modd ym Mlwyddyn 2. Mae myfyrwyr y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn yn tueddu i weithio'n fwy annibynnol ac maen nhw’n cofrestru ar gyfer tiwtorial pan fyddant yn teimlo bod angen. Fodd bynnag, fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr ym Mlwyddyn 3 yn cael ei weld gan o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod cyfle i weld staff mor rheolaidd ag y dymunwch.
Tiwtorialau Ffurfiol
Cynhelir y rhain ddwywaith y tymor gydag o leiaf dau aelod o staff. Trafodir y gwaith, datblygiad ymarferol a chysyniadol, bwriadau'r myfyriwr i'r dyfodol ac ati. Mae'n gyfle i’r naill barti neu’r llall godi unrhyw broblemau/pryderon. Caiff adroddiad ysgrifenedig o'r tiwtorial ei ddyblygu, a bydd y myfyriwr yn cadw un copi a chaiff y llall ei storio yn ei ffeil cofnodion.
Beirniadaethau grwp
Cynhelir y rhain yn rheolaidd, ar draws pob lefel, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda'u cyfoedion mewn modd strwythuredig yn ogystal â chael mewnbwn gwerthfawr gan staff.
Cyflwyniadau Anffurfiol a Ffurfiol
Mae natur y cyflwyniadau’n amrywio yn ôl y lefel: ym Mlwyddyn 1, cyflwynir cyflwyniadau anffurfiol hanner ffordd drwy’r semester cyntaf er mwyn helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth sôn am eu gwaith gyda’u cyfoedion a staff. Maen nhw fel arfer yn rhan o’r asesiad ar ddiwedd pob prosiect hefyd. Disgwylir i fyfyrwyr ail flwyddyn roi Cyflwyniad Ffurfiol fel rhan o'u Modwl Arfer Proffesiynol a Dylunio Grŵp ac ar ddiwedd y flwyddyn fel rhan o'u Prosiect Mawr. Ym Mlwyddyn 3, mae Cyflwyniad Ffurfiol yn rhan o'r asesiad terfynol yn y Sioe Raddio.
Arddangos gwaith
Eto, mae natur hyn yn amrywio yng nghyd-destun y prosiectau, y gwaith i'w asesu a chyfnod y rhaglen - o ran ffurfioldeb, gall amrywio o fod mewn lleoliad cyhoeddus i fod wrth ddesg y myfyriwr unigol.
Gwybodaeth allweddol
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy'n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Mae cymwysterau’n bwysig, fodd bynnag, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
Gweler ein Canllaw Cyfweliadau am ragor o wybodaeth.
Mae graddedigion ein cyrsiau wedi dod o hyd i swyddi gyda rhai o enwau mwyaf sefydledig y byd mewn gweithgynhyrchu ac ymgynghoriaeth dylunio megis:
- Adidas
- Aston Martin
- Callum Design
- Daimler Truck Usa
- Envisage Group
- Futura Design
- Gordon Murray Design
- Jaguar
- Jaguar Svo
- Icona Design
- Kiska
- Land Rover
- Lotus
- Mclaren Automotive
- Morgan
- Pininfarina
- Priestman Goode
- Puma
- RDM Group
- Renault
- Rolls Royce
- SAIC
- Tata
- Triumph
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu'r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a'u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd 'pecyn celf a dylunio' sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o'r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â'ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
Lleoliad
Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol.
Emily Sharwood-Smith
“Ers yn ifanc, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn ceir, ymhlith dulliau teithio eraill, erioed. Mae cyfuno'r brwdfrydedd hwn â’m cariad at ddylunio yn fy ngalluogi i weithio ar fy hobïau bob dydd yn y bôn. Fy hoff beth am y cwrs yw maint bach y dosbarthiadau a’r sesiynau un i un rheolaidd gyda darlithwyr, mae hyn yn golygu ei bod hi’n hawdd gwybod os ydw i ar y trywydd iawn o ran fy ngwaith. Yn ogystal, mae'r darlithwyr yn fy adnabod i fel person, yn hytrach na’m gweld i fel myfyriwr arall yn unig.”
Alistair Barkley
“Cefais fy nenu at y cwrs Dylunio Modurol yn Abertawe oherwydd natur unigryw'r trefniant. Roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar iawn ac mae'r staff a'r myfyrwyr i gyd yn groesawgar iawn, a oedd yn golygu bod y penderfyniad i astudio yma’n un hawdd iawn. Mae cael niferoedd bach ar y cwrs yn golygu ei bod hi’n fwy cystadleuol cael eich derbyn iddo, felly, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ymdrechu i greu’r portffolio gorau y gallwn i’m galluogi i gael lle. Mae’r adborth bob amser yn helaeth, a pheth positif arall yw cael ein mannau gwaith pwrpasol ein hunain – heb yr angen i rannu desg.”
Evangelos James Manolikas
“Rydw i wedi dwli am geir erioed a’m breuddwyd oedd astudio dylunio ceir mewn Prifysgol yn y DU. Mae’r Cwrs Dylunio Modurol yn PCYDDS yn anhygoel ac yn bopeth roeddwn i wedi’i obeithio.”
William Pickance
“Rydw i wedi bod eisiau astudio’r cwrs hwn erioed. Wrth edrych ar Brifysgolion, roedd PCYDDS yn ymddangos yn angerddol iawn am y pwnc hwn ac ar ôl cwrdd â’r darlithwyr, roedd y dewis yn hawdd iawn. Mae'r cwrs hwn yn fy ngalluogi i wneud ceir yn ogystal â chludiant sy'n bwysig gan fy mod i am arbenigo mewn cychod.”
Tom Ingell
“Alla i ddim cofio amser pan nad oeddwn i’n tynnu lluniau o geir, felly mae dylunio modurol yn teimlo fel cwrs a gafodd ei greu’n arbennig i mi. Rwy'n hoffi'r boddhad o weld eich gwaith yn cael ei droi’n gelfyddyd, dyna sy'n gwneud y cwrs yn unigryw i rai eraill. Rwy'n mwynhau'r tasgau a osodir a'r her o fraslunio bob dydd.”
Lloyd Morgan
“Cyn gynted ag y cefais wybod bod cwrs dylunio modurol ar gael, rhoddais fy mryd arno. Rwy'n dwli ar faint y gofod a'r dechnoleg sydd ar gael ar draws y campws a'r cwrs. Mae'r cyfleusterau'n berffaith ar gyfer unrhyw beth, o rendro ar Photoshop i wneud modelau, rwy'n llawn cyffro i weld yr hyn sy’n fy aros ar ôl yr ychydig flynyddoedd nesaf!”
Sean Deacon
“Roedd gen i hoffter a diddordeb mawr mewn ceir erioed ac, ar ôl edrych ar y prifysgolion a oedd yn cynnig y cwrs hwn yn y DU, dewisais hwn oherwydd y cydbwysedd rhwng ansawdd y cyfleusterau a maint llai’r dosbarthiadau sy’n golygu gwell cyfleoedd ar gyfer tiwtora 1 i 1. Rydw i wedi mwynhau’r ymwneud â'n cwrs gan y diwydiant ehangach yn arbennig.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a’r cyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i'n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Astudio Dramor
Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am flwyddyn yn Ewrop, UDA neu Ganada
Yn ogystal â'n Llety Prifysgol yn Llys Glas, mae gan Abertawe nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, oll o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
• The Oldway Centre
• Coppergate
• St Davids
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.