Skip page header and navigation

Eiriolaeth (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn Amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r radd hon yn caniatáu i chi archwilio’r berthynas rhwng eiriolaeth ac ymgyrchedd yn y gymdeithas gyfoes.  Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn archwilio materion cyfredol drwy gymhwyso damcaniaethau pŵer, gwrthdaro a chydlyniant i gymdeithas ac i benderfyniadau llywodraethau, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.

Byddwch yn archwilio’r gwahanol fathau o rolau eirioli sy’n bodoli o fewn cymdeithas, o’r unigolyn sy’n eirioli ar ei ran ei hun i’r rheini sy’n cael eu cyflogi yn eiriolwyr proffesiynol, annibynnol.  Byddwch hefyd yn archwilio’r rôl y mae ymgyrchedd wedi’i chwarae yn natblygiad ein cymdeithas a’r rôl y mae’n parhau i’w chwarae yn y byd heddiw.  Wrth wneud hyn byddwch yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng eiriolaeth ac ymgyrchedd a llawer o’r gwahaniaethau damcaniaethol a gwleidyddol rhwng y ddau fath hyn o weithgaredd.

Byddwch yn ymgysylltu â fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol, er enghraifft dinasyddiaeth a hawliau dynol, anghenion a chyfiawnder cymdeithasol, iechyd a llesiant, athroniaethau llesiant, economi wleidyddol llesiant a chyfundrefnau llesiant, damcaniaeth wleidyddol a chymdeithasol, ac arfer gwrth-ormesol, ac yn archwilio sut mae’r rhain yn gysylltiedig â chysyniadau ymgyrchedd ac eiriolaeth.  Byddwch yn archwilio ymhellach farn cymdeithas am rolau eiriolwr ac ymgyrchydd a byddwch yn mynd i’r afael â’r ddadl a ydy’r naill neu’r llall yn effeithiol yn y cyd-destun cymdeithasol cyfredol.

Wrth i chi ddatblygu eich diddordebau ymchwil eich hun byddwch yn gallu archwilio’r ffyrdd y mae eiriolaeth ac ymgyrchedd yn cael eu defnyddio gan wahanol unigolion a grwpiau er mwyn ceisio unioni camarfer a newid yn y gymdeithas.  Gallai’r rhain gynnwys trosedd a chyfiawnder cymdeithasol, addysg, teulu a phlentyndod, iechyd a gofal cymdeithasol, tai ac adfywio trefol, cynnal incwm a nawdd cymdeithasol, mudo, tlodi, anghyfartaledd ac allgau cymdeithasol, gwaith, cyflogaeth, a marchnadoedd llafur.

*Modiwlau dethol yn amodol i ail-ddilysu

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
ITH1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dyma’r cymhwyster BA Eiriolaeth cyntaf yng Nghymru a’r DU.
02
Lluniwyd y radd i apelio at unigolion sy’n dymuno archwilio’r ffyrdd y gall unigolion a grwpiau wneud gwahaniaeth yn y gymdeithas.
03
Caiff yr holl gynnwys ei adeiladu ar y cyd ag eiriolwyr proffesiynol yng Nghymru o gasgliad eang o ymarferwyr, sy’n alinio â chyfarwyddebau Llywodraeth Cymru.
04
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
05
Darlithwyr gwadd sy’n ymwneud ag arfer.
06
Cyfleoedd i archwilio damcaniaeth ac arfer ar waith drwy leoliad a chyfleoedd i wirfoddoli.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rhaglen dair blynedd yw’r (BA) Eiriolaeth. Mae blwyddyn sylfaen gychwynnol yn sail i’r cymhwyster ac mae’n archwilio eiriolaeth, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol ac astudiaethau cymdeithasol.

Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliad. Mae yna ffocws clir ar eiriolaeth ar waith.

Mae blwyddyn olaf yr astudiaethau’n ymgorffori traethawd hir â chysylltiadau ag arfer eiriolaeth proffesiynol.

Deall Cymdeithas: Cyflwyniad i Theori Gymdeithasegol

(20 credydau)

Pwy Ydym Ni: Diwylliant a Hunaniaeth

(20 credydau)

Gweithio Amlasiantaeth: Polisi ar Waith

(20 credydau)

Gweithredu, Grymuso ac Arfer Gwrth-ormesol

(20 credydau)

Gwasanaethau Eiriolaeth yn yr 21ain Ganrif

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol

(20 credydau)

Gwaith, Tlodi a Lles yn y Byd Modern

(20 credydau)

Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anabledd a Llesiant

(20 credydau)

Perthnasoedd Cyfathrebu a Theuluoedd yn y Gymdeithas Gyfoes

(20 credydau)

Arfer Proffesiynol mewn Eiriolaeth

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Sgiliau ar gyfer bywyd: Cyflogadwyedd a Llwybrau'r Dyfodol

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgelu fanylach foddhaol oddi wrth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
    80 o bwyntiau UCAS.


    Caiff myfyrwyr anhraddodiadol eu hystyried ar sail eu profiad a’u teilyngdod unigol.


    Croesewir ymgeiswyr sydd â chymwysterau AB/Mynediad.

  • Nid oes arholiadau ar y rhaglen hon oherwydd byddwch yn cwblhau ystod o asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a mathau eraill o asesu yn cynnwys blogiau a phortffolios o dystiolaeth.

    • DBS:Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
    • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu costau gwerslyfrau hanfodol, y gallai fod arnynt eu hangen i lunio traethodau, aseiniadau a thraethodau hir i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
    • Hefyd, bydd costau pellach ar gyfer y canlynol, nad ydynt ar gael i’w prynu gan y Brifysgol:
      • Llyfrau
      • Dillad
      • Gwaith Maes
      • Argraffu a chopïo
      • Deunydd ysgrifennu
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Cyfleoedd i astudio yn Ewrop a’r UD am semester ym mlwyddyn 2.

  • Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

    • Gweithiwr Cymorth Eiriolaeth – Plant ag anawsterau dysgu
    • Gweithiwr Cymorth Eiriolaeth – Gofal Preswyl i Oedolion
    • Swyddog Cymorth Busnes
    • Eiriolwr Ysgol Plant
    • Eiriolwr Ymgysylltu â’r Gymuned
    • Rolau sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant chwaraeon a ffilm (yn ymateb i ddigwyddiadau presennol)
    • Swyddog Cyswllt â Theuluoedd
    • Eiriolwr Gofal Iechyd GIG
    • Eiriolwr Annibynnol
    • Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol
    • Eiriolwr Gallu Meddyliol Annibynnol
    • Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol
    • Darlithydd BA Eiriolaeth (gydag astudiaethau pellach)
    • Eiriolwr Gofal Plant Awdurdod Lleol
    • Rheolwr Sefydliadau Gwirfoddol y Trydydd Sector
    • Eiriolwr/Cymorth Disgyblion (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
    • Eiriolwr Cymorth Disgyblion
    • Gweithiwr Cyswllt dan Oruchwyliaeth – Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Rheolwr Gwirfoddolwyr: Trydydd Sector

    Gall graddedigion hefyd ddewis parhau i astudio a chwblhau cymwysterau ôl-radd ac ymchwil ôl-radd trwy fynd ymlaen i, naill ai:

    • MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas,
    • neu PhD mewn Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol.

    Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio cyllid ôl-radd drwy Gwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr Llywodraeth y DU.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau