Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Ffilm a Theledu (BA)
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth (Tabl Cynghrair y Guardian 2022).
Wedi’i lunio i roi i chi’r medrau creadigol a’r sgiliau proffesiynol gofynnol sy’n berthnasol i weithio yn y diwydiant ffilm, nod y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth i chi o’r gwahanol rolau sy’n rhan o’r broses gynhyrchu. Mae’r cwrs yn darparu llu o gyfleoedd i greu gwaith cynhyrchu ymarferol gan ddarparu’r wybodaeth ddamcaniaethol a’r ddealltwriaeth i ffynnu’n greadigol.
Bwriad yr ystod o fodylau ffilm ymarferol a luniwyd yn ofalus yw rhoi dealltwriaeth i chi o ffurf ffilm a’r diwydiant ffilm presennol ynghyd â’r offer creadigol a sgiliau proffesiynol sydd eu hangen wireddu eich gweledigaethau personol.
Mae’r radd hon yn darparu fframwaith y gallwch adeiladu arno sgiliau academaidd, artistig, technegol a phroffesiynol sy’n berthnasol i weithio yn y sector ffilm neu addysg. Bydd yn rhoi i chi gyfres ddwys o fodylau seiliedig ar arfer sy’n eich galluogi i ddatblygu sgiliau ar lefel uwch ym maes cyfarwyddo, golygu, ysgrifennu a sinematograffi. Hefyd, ceir modylau damcaniaethol i’ch helpu i gyfnerthu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy eich allbwn creadigol. Mae’r cwrs yn cydweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid proffesiynol ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr weithio gyda chleientiaid byw ac ar friffiau o safon diwydiant yn rhan o’u dysgu. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar-leoliad er mwyn i fyfyrwyr ffynnu mewn profiad gradd sy’n mynd tu hwnt i deyrnas y dosbarth.
“Ni fydd ffilm yfory’n cael ei gyfarwyddo gan weision sifil y camera, ond gan artistiaid y mae saethu ffilm iddyn nhw’n gyfwerth ag antur wych, llawn cyffro.” Francois Truffaut.
Ffilm a Theledu (BA)
Cod UCAS: W610
Gwnewch gais trwy UCAS
Ffilm a Theledu (CertHE)
Cod UCAS: FTV6
Gwnewch gais trwy UCAS
Ffilm a Theledu (DIPHE)
Cod UCAS: FTV5
Gwnewch gais trwy UCAS
Nod y rhaglen yw addysgu unigolion creadigol sy’n hyfedr mewn bodloni anghenion gofynion cyfoes a rhai’r dyfodol. Caiff y rhaglen ei thanategu gan weithgareddau Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth y gyfadran yn ei chyfanrwydd.
Sut i wneud cais
Gwneir pob cais i astudio ar gyfer rhaglen radd israddedig llawn amser trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80.
Gall y rheiny sy’n gwneud cais ar gyfer cyrsiau llawn amser wneud hynny trwy UCAS. Gall y sawl sy’n gwneud cais i gyrsiau rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Ewch i adran Sut i Wneud Cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.
Cadw Lle Ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth (Tabl Cynghrair y Guardian 2022).
- Nid oes angen portffolio
- Rydym yn croesawu ac annog ceisiadau o gyrsiau nad ydynt yn ffocysu ar y cyfryngau fel Saesneg, seicoleg, hanes, cyfathrebu ayb.
- Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gweithio ar ffilm nodwedd antholeg
- Byddwch yn helpu i redeg gŵyl ffilm ryngwladol
- Byddwn yn addysgu rolau gwaith penodol i chi mewn sesiynau technegol (fel person camera cynorthwyol cyntaf, cydlynydd cynhyrchu, ymchwilydd, cyfarwyddwr stiwdio, ayb) i ganiatáu i chi wneud cais am swyddi yn eich tymor cyntaf.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nid yw’n tebygolrwydd y dewch chi’n adroddwr straeon a gwneuthurwr ffilmiau gwych trwy eistedd mewn ystafell ddosbarth yn gwrando ar ddarlithwyr yn siarad yn dda. Yn hytrach, ein barn ni yw po cyflymaf y gallwn ni eich helpu i fynd allan i’r byd go iawn, y cyflymaf y gwnewch chi ddechrau gweld sut y caiff straeon eu siapio gan leoliadau ac yna cyflymaf y dewch chi’n wneuthurwr ffilmiau aeddfed. Trwy addysgu mewn gwahanol leoliadau, rydym yn cynnig profiad dysgu arbennig, gyda chyfuniad cyffrous ac arloesol o sesiynau a addysgir a sesiynau ymarferol a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys caffis, eglwysi a siopau, gan ddod â chi’n nes ‘r llefydd y caiff straeon eu hadrodd. Caiff ein modylau seiliedig ar arfer eu haddysgu mewn blociau o ddwy neu bedair wythnos un ar ôl y llall, gan efelychu’r broses gynhyrchu.
Hefyd, nid ydym yn addysgu meddalwedd na chamerâu yn y ffordd draddodiadol ychwaith. Yn hytrach, bydd gweithdai’n eich paratoi ar gyfer y diwydiant creadigol drwy eich addysgu o fewn rolau ac ar leoliad. Byddwch yn dysgu sut beth yw bod yn gynhyrchydd, yn gyfarwyddwr ffotograffiaeth neu’n gynorthwyydd camera cyntaf neu’n gyfarwyddwr darnau darama byr. Caiff hyn oll ei gefnogi gan staff addysgu ac arddangoswyr technegol.
I ddysgu sut i gyfathrebu straeon yn dda, mae angen i chi ddeall a phrofi bywyd. Mae angen i chi brofi’r byd gyda’i holl harddwch, hynodrwydd, a chymhlethdodau yn uniongyrchol. Golyga hyn gymysgedd o athroniaeth, seicoleg, dulliau cyfathrebu, ac efallai hyd yn oed ychydig o fecaneg gwantwm. I helpu gyda hynny, rydym yn cynnig cyfuniad dwys o addysgu traws-ddisgyblaethol a sesiynau arfer dwys. Cewch eich herio i gymryd yr hyn a ddysgwch o’r ystafell ddosbarth allan i’r byd go iawn – dyma ble mae’r addysgu’n dechrau mewn gwirionedd.
Hefyd, ni yw un o’r ychydig Ysgolion Ffilm yn y DU sy’n cynnig y cyfle i’n myfyrwyr gynnal gŵyl ffilm. Mae Gŵyl Ffilm Ryngwladol yr Arfordir Copr yn ŵyl a redir gan fyfyrwyr ac mae’n denu diddordeb o bob cwr o’r byd, gan roi mewnolwg i’r farchnad ffilm ehangach a dealltwriaeth o’r hyn mae’n ei gymryd i wneud ffilmiau sy’n ennill gwobrau. Bellach, rydym yn ein pumed blwyddyn ac mae’n dl i fynd yn gryf. Bydd 2022 yn ŵyl mwy arbennig fyth, y gorau o’r goreuon: edrych yn ô ar y pum mlynedd gyntaf.
Felly yma yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, byddwn yn cynnig i chi amgylchedd dysgu sy’n ffocysu ar fyfyrwyr nad yw ar gael yn unman arall. Byddwch yn dysgu am adrodd straeon yn ei holl ffurfiau dros goffi mewn caffi, neu ddarllen sgript mewn mynwent, eglwys, rhos, traeth... Mae addysgu ar leoliad a dysgu ar leoliad yn arbennig. Mae ein hathroniaeth yn syml – os na wnewch chi fyth adael yr ystafell ddosbarth, fe fyddwch yn ddisgybl am byth ac er nad ydym wedi cwrdd, rydym yn gwybod nad ydych chi’n mynd i’r brifysgol i raddio’n fyfyriwr gwneud ffilmiau, ond yn wneuthurwr ffilmiau sy’n meddwl yn broffesiynol, ac yn barod i goncro’r byd.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Arfer Adrodd Straeon Cymhwysol 1 (120 credyd; gorfodol)
- Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ymchwilio Mannau (20 credyd; gorfodol)
- Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Arferion Testunol 1 (10 credyd; gorfodol)
- Yr Adroddwr Straeon (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Ganfod (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Feddwl (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Arfer Adrodd Straeon Cymhwysol 2 (20 credyd; gorfodol)
- Ysgogwyr newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Ysgogwyr newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Dylunio’r Stori (10 credyd; gorfodol)
- Dysgu i Garu Unigedd (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil mewn Cyd-destun (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar Waith (10 credyd; gorfodol)
- Arferion Testunol 2 (10 credyd; gorfodol)
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Prosiect Mawr (40 credyd; gorfodol).
- Cyflwyno Prosiect Graddedig (20 credyd; gorfodol).
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Yr Ŵyl Ffilm (20 credyd; gorfodol).
Mae’r holl asesu wedi’i seilio ar waith cwrs ymarferol 100%.
Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth ar ffurf gwaith prosiect ymarferol. Mae’r holl waith ymarferol wedi’i seilio ar brosiect a phortffolio.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Ein Cyfleusterau, Graddedigion a Chysylltiadau â Diwydiant



Astudiwch Ffilm a Theledu wrth y Môr
Gwybodaeth allweddol
- Rebecca Ellis - Rheolwr rhaglen
- Chris Buxton
- Kylie Boon
- Robert Jones
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd o Saesneg, ffotograffiaeth, dylunio i seicoleg i wyddoniaeth i’r cyfryngau.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried.
Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
- Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
- Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
- Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Gwybodaeth am gyfweliadau
Y peth pwysicaf y byddwn yn disgwyl ei weld yn ystod eich cyfweliad yw angerdd a brwdfrydedd cryf dros adrodd straeon mewn Ffilm a theledu. Nid oes angen portffolio. Os oes gennych chi un, gwych, ond y cyfweliad yw’r prif brawf o’ch addasrwydd ar gyfer y cwrs a’i gofynion. Byddwn yn rhoi ffilm fach i chi ei gwylio ymlaen llaw a byddwn yn seilio strwythur ein cyfweliad ar honno: Lluniwyd strwythur y cyfweliad i roi amser i chi ofyn cwestiynau am y cwrs i sicrhau y bydd y cwrs yn eich gweddu chi ac y byddwch chi’n ein gweddu ni.
Gweler ein Canllaw i Gyfweliadau am ragor o wybodaeth.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i rolau cynhyrchu ar draws y diwydiant ffilm a theledu, ac mae graddedigion diweddar yn gweithio ar brosiectau fel Mission Impossible (4, 5 a 6), The Grand Tour, His Dark Materials, Paddington 2, Brissic, Guardians of the Galaxy, Outlaw King, Bancroft, Doctor Who a llawer iawn mwy.
Mae graddedigion eraill wedi cael swyddi gyda mawrion sefydledig y diwydiant, gan gynnwys BBC, Sky, Amazon, MPC a Milk VFX. Hefyd, mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i lwyddiant fel gweithwyr llawrydd neu wedi creu eu cwmnïau cynhyrchu eu hunain.
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r meddalwedd sylfaenol a chamerâu sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn sesiynau gweithdy helaeth ac ar leoliad.
Bydd angen i chi brynu gyriant caled 1TB a dillad addas ar gyfer dysgu tu allan.
- Sefydliad Celf a Dylunio (TystAU) – tudalen Saesneg: Art and Design Foundation (CertHE)
- Dylunio Set a Chynhyrchu (BA) – tudalen Saesneg: Set Design and Production (BA)
- Delwedd Symudol (MA) – tudalen Saesneg: Moving Image (MA)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Ewch i'r adran llety i ddysgu rhagor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.