Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (BA)
Y rhaglen radd Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yw’r gyntaf o’i math yn y DU. Yn ffotograffwyr dogfennol a gweithredwyr gweledol, cewch eich annog i ail-werthuso a herio hanes ac arferion ffotograffiaeth. Byddwch yn datblygu mwy o ymwybyddiaeth o’r strwythurau pŵer sy’n gynhenid mewn ffotograffiaeth.
Mae’r cwrs yn moderneiddio sgiliau traddodiadol, ymarferol, dogfennol, a ffotonewyddiadurol trwy bwysleisio ar y cyfrwng fel proses gymdeithasol yn hytrach nac unigol. Cewch eich cefnogi i ddod yn hyrwyddwyr ar gyfer yr achosion rydych chi fwyaf brwd drostynt, ac i ymgolli’n llwyr wrth ymchwilio i’r meysydd pwnc o’ch dewis. Mae ffocws ar gyfrifoldeb moesegol y ffotograffydd, ac ymwybyddiaeth o’r goblygiadau sydd ymhlyg yn y weithred o gynrychioli, wrth graidd y cwrs.
Yn ystod y cwrs, cewch eich annog i gydweithio yn y gymuned leol ac i feddwl am eich rôl ehangach a’ch cyfrifoldebau fel dinasyddion gweithredol ac ystyr hyn mewn cymdeithas ddemocrataidd.
Mae’r cwrs yn cwmpasu ffotograffiaeth yn yr ystyr ehangaf, gan ymwneud â’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn harneisio potensial cyfryngau digidol newydd.
Opsiynau Llwybr
Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (BA)
Cod UCAS: DPV1
Gwnewch gais trwy UCAS
Sut i ymgeisio
Gwneir pob cais i astudio am raglen radd israddedig lawn amser trwy UCAS – mae Coleg Celf Abertawe’n rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Dylai ymgeiswyr rhan-amser ymgeisio trwy’r Brifysgol.
Mae ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80. Ewch i adran ymgeisio’r Brifysgol i ddysgu rhagor.
Book an Open Day Request Information
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
5 rheswm dros astudio’r cwrs hwn
- Dull arloesol o ymdrin â ffotonewyddiaduraeth a ffotograffiaeth ddogfennol
- Cysylltiadau gwych ag arbenigwyr ac ymarferwyr y diwydiant
- Dosbarthiadau bach a chyfeillgar, a mynediad hawdd at offer cyfredol
- Rhaglen darlithydd gwadd reolaidd
- Cyfleoedd i weithio gydag elusennau, grwpiau cymunedol a chleientiaid eraill ar friffiau byw.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
BLWYDDYN UN
Yn eich blwyddyn gyntaf, mae’r ffocws ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol a thechnegol i ddarparu sylfaen er mwyn ymchwilio i bynciau o ddiddordeb personol. Mae’r meysydd yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys:
- Technegau ystafell dywyll traddodiadol
- Sut i ddefnyddio pecynnau meddalwedd Adobe
- Technegau goleuo stiwdio a lleoliadau proffesiynol
- Sut i ymateb i friffiau gosod
- Sut i gyfuno sgiliau analog a digidol i greu canlyniadau arloesol
- Hanes ffotograffiaeth a damcaniaeth diwylliant gweledol
BLWYDDYN DAU
Gan adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich blwyddyn gyntaf, mae’r ail flwyddyn yn amser ar gyfer mwy o arbrofi a chydweithio:
- Gweithio mewn grwpiau bach i ddylunio a churadu eich arddangosfa gyhoeddus eich hun
- Cysyniadu a chreu llyfr lluniau
- Cael cyfleoedd i ddilyn interniaethau wedi’u hariannu
- Canolbwyntio’n fwy ar ddatblygu llwyfan broffesiynol ar gyfer eich gwaith (gan gynnwys: strategaethau gwefan/cyfryngau cymdeithasol/arddangosfa)
- Arbrofi â phrosesau ystafell dywyll amgen
- Cael yr opsiwn i astudio semester dramor
- Cymhwyso eich sgiliau ymchwil a dadansoddi beirniadol i gynnig prosiect mawr
BLWYDDYN TRI
Mae eich trydedd flwyddyn yn ymwneud â datblygu eich portffolio proffesiynol a pharatoi eich hun ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiannau creadigol ar ôl graddio:
- Datblygu prosiect mawr/corff o waith hunangyfeiriol
- Creu gwaith i’w arddangos ar y cyd yn Abertawe a Llundain
- Cael cyfleoedd i gyflwyno eich gwaith i weithwyr proffesiynol y diwydiant
- Bod wedi datblygu sgiliau technegol a chreadigol i lefel diwydiant
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Arfer Dogfennol Cyfoes (20 credyd; gorfodol)
- Arddangosfa 1.0 (20 Credyd; Gorfodol)
- Ailfeddwl Ffotonewyddiaduraeth (20 credyd; gorfodol)
- Cylchgrawn yr Artist (20 Credyd; Gorfodol)
- Astudiaethau Gweledol 1 (10 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau Gweledol 2 (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Ganfod (10 credyd; gorfodol)
- Ffyrdd o Feddwl (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Arddangosfa 2.0 (20 Credyd; Gorfodol)
- Adeiladu Bydoedd (20 Credyd; Gorfodol)
- Cyhoeddi a Phrotestio (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil mewn Cyd-destun (10 credyd; gorfodol)
- Ymchwil ar Waith (10 credyd; gorfodol)
- Gweithredaeth Weledol: Lleoliad a Churadu (20 credyd; gorfodol)
- Ymholiad Gweledol 1 (10 credyd; gorfodol)
- Ymholiad Gweledol 2 (10 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Ymholiad Creadigol Uwch (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol)
- Prosiect Mawr (60 credyd; gorfodol).
Mae’r asesu’n amrywio yn ôl y modwl a gall gynnwys portffolios, arddangosfeydd, aseiniadau ysgrifenedig, blogiau neu gyflwyniadau.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Gwybodaeth allweddol
- Siân Louise Addicott
- Dr Hamish Gane
- Paul Duerinckx
- Paul Duerinckx
Mae’r cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yn agored i’r rhai sydd â diddordeb yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth a newid cymdeithasol; mae rhywfaint o wybodaeth flaenorol o ffotograffiaeth o fantais ond nid yw’n hanfodol.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy'n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch portffolio o waith.
Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
- Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
- Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio
- Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio
- Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu
- Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol
- Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
- Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
- Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol
Mae cymwysterau’n bwysig, ond nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@uwtsd.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.
Gweler ein Canllaw Cyfweliadau am ragor o wybodaeth.
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu'r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a'u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua chan punt, ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o'r offer sydd ei angen yn barod: cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â'ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio dewisol amrywio o ran cost o oddeutu deg punt i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i fwy na dau gant o bunnoedd am ymweliadau tramor – mae’r costau hyn am bethau fel cludiant, mynediad i leoliadau a llety, ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i’n myfyrwyr.
- Celf a Dylunio Sylfaen: Art and Design Foundation (CertHE)
- Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau: Photography in the Arts (BA)
- Ffotograffiaeth: Ffotograffiaeth (MA)
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Gall myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada.
Yn ogystal â’n Llety yn Llys Glas, mae gan Abertawe hefyd nifer o neuaddau preifat i fyfyrwyr, sydd i gyd o fewn taith fer ar droed, gan gynnwys:
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth