Skip page header and navigation

Ffotograffiaeth Yn Y Celfyddydau (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yn eich annog i ystyried ble mae ffotograffiaeth yn eistedd o fewn arfer celfyddydol cyfoes a diwylliant gweledol. Bydd disgwyl i chi ymgymryd ag ymholiad pellgyrhaeddol gan gymryd risgiau, i bosibiliadau’r cyfrwng ffotograffig. Gyda phwyslais ar feddwl yn gysyniadol, byddwch yn archwilio cyd-destunau esthetig, moesegol a chymdeithasol y profiad dynol unigol a thorfol.

Lluniwyd y rhaglen i annog defnyddio cyfryngau amrywiol, gan ddefnyddio deunyddiau a phrosesau traddodiadol, digidol ac arbrofol, ac i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich gwasanaethu gydol eich bywyd gweithio. Mae’n caniatáu dull hyblyg wrth wneud delweddau, o ran y deunydd pwnc a’r dechneg, lle byddwch yn archwilio ac yn herio confensiynau arfer celfyddydol ffotograffig cyfoes.

Mae gan yr adran ffotograffiaeth gysylltiadau cadarn â’r diwydiannau celfyddydol a chyfryngau masnachol, sy’n cael eu defnyddio a’u cryfhau gan gyfres reolaidd o ddarlithwyr gwadd. Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu yn ystod y cwrs yn gallu cael eu trosglwyddo i lawer o yrfaoedd o fewn y diwydiannau creadigol a thra mae anghenion diwydiant bob amser yn ystyriaeth bwysig, mae ansawdd a thrylwyredd academaidd y radd o’r pwys mwyaf.

Wrth ochr ein darlithwyr a thechnegwyr arbenigol, byddwch yn gwneud cysylltiadau â’r diwydiant drwy ein rhaglen fywiog o ddarlithwyr gwadd, sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr glywed, gweld a chwrdd ag ystod o bobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes ffotograffiaeth.

Byddwch yn dysgu beth sydd ei angen i gael gyrfa lwyddiannus o fewn y celfyddydau gweledol, a gallwch ddisgwyl ymuno â’n cyn-fyfyrwyr diweddar yn y sector sy’n tyfu’n fwyaf cyflym, y diwydiannau creadigol. Mae enghreifftiau o gyflogaeth graddedigion yn amrywio rhwng perchnogion busnes hunangyflogedig, ffotograffwyr golygyddol a hysbysebu, artistiaid, curaduron a chyfarwyddwyr orielau.

Mae gan yr adran ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe gyfleusterau gwych o’r radd flaenaf ac awyrgylch cyfeillgar iawn, gyda dosbarthiadau bach eu maint sy’n hwyluso rhyngweithio myfyrwyr/staff eithriadol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni neu dewch i’n gweld ar un o’n diwrnodau agored yn y dyfodol. Mae diwrnodau agored yn gyfle gwych i edrych o gwmpas ein stiwdios, cwrdd â’n staff a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
W643
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Amser cyswllt staff i fyfyrwyr eithriadol gyda’n harbenigwyr, sy’n gweithio fel ffotograffwyr, artistiaid ac ymchwilwyr.
02
Mewnbwn personol uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, yn cynnwys artistiaid, ffotograffwyr, curaduron a golygyddion lluniau.
03
Cyfleoedd i ymgymryd ag interniaethau, gweithio gydag orielau rhyngwladol, amgueddfeydd a sefydliadau cymunedol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dinefwr ar gyfer Celf, Dylunio a’r Cyfryngau yng nghanol dinas Abertawe, ac mae’n darparu platfform cyffrous ar gyfer archwilio’r safle unigryw a hollbwysig y mae’r ddelwedd ffotograffig lonydd a symudol yn ei lenwi o fewn diwylliant cyfoes ar yr adeg gyffrous hon.

Mae’r cwrs yn eich annog i archwilio a herio confensiynau arfer celfyddydol ffotograffig cyfoes.

Ar sail ymchwil hanesyddol a beirniadol, cewch eich annog i ymgymryd ag ymholiad helaeth gan gymryd risgiau, i bosibiliadau ffotograffiaeth, gyda chreadigrwydd unigol ac uchelgais personol yn greiddiol i athroniaeth y cwrs.

Mae’r cwrs yn hunan-gyfeiriedig yn bennaf ac mae’n darparu ar gyfer ymagwedd hyblyg at wneud delweddau mewn perthynas â deunydd pwnc a thechneg.

Mae’r dull hyblyg hwn yn adlewyrchu natur esblygol arfer celfyddydol ffotograffig, gyda ffotograffwyr yn gwthio potensial y cyfrwng yn fwyfwy i gyfeiriadau annisgwyl ac arloesol.

Fe’ch anogir i archwilio syniadau a datblygu sgiliau sy’n berthnasol i gyd-destunau megis celf gyfoes, cyhoeddi, hysbysebu, ffasiwn, addurno mewnol, pensaernïaeth a theithio. I’r perwyl hwn, mae’r cwrs yn eich galluogi i leoli’ch gwaith a’i fynegi’n feirniadol mewn perthynas â’ch cynulleidfa a’r cyd-destun diwylliannol ehangach.

Arfer Celf Ffotograffig

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 1

(10 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Tystiolaethau Diflannol

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 2

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Adeiladu Bydoedd

(20 Credyd)

Strategaethau Arbrofol

(20 credydau)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymholiad Gweledol 1

(10 credydau)

Arddangosfa 2.0

(20 credydau)

Athroniaethau Personol

(20 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Ymholiad Gweledol 2

(10 credydau)

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Stiwdio ffotograffiaeth â goleuadau symudol uwchben, sgriniau, a rholyn hir o ffabrig du wedi’i daenu ar draws y llawr.

Cyfleusterau Ffotograffiaeth

Yn fyfyriwr yng Ngholeg Celf Abertawe, bydd gennych fynediad i gyfleusterau o safon diwydiannol a chyfleuster storio. Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafelloedd digidol lliw-reoledig arbenigol a chanddynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys sganwyr ffilm Hasselblad cydraniad uchel, portffolio fformat canolig a mawr ac argraffu ar gyfer arddangosfa.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Oriel Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, yn ogystal ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
    • Diploma Cyffredinol Cymhwysol a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Celf a Dylunio.
    • Diploma a Diploma Estynedig L3 UAL mewn Ymarfer Creadigol: Celf, Dylunio a Chyfathrebu.
    • Diploma Estynedig L3 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol.

    Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.

    Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@pcydds.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Ni fydd unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn. Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol gydol modwl; mae asesu crynodol yn digwydd ar ddiwedd modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:

    Darlithoedd

    Fel arfer ar ddechrau cyfnod cyswllt a drefnwyd, bydd darlithoedd yn gyffredinol yn cynnwys cyflwyniad ffurfiol sy’n rhoi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r modwl, ynghyd ag elfennau gweledol, gyda dangosiad neu diwtorial/gweithgaredd grŵp i ddilyn.

    Tiwtorialau Grŵp

    Yn amodol ar faint y garfan, cynnwys y modwl a dewis y darlithwyr unigol, mae’r rhain fel arfer mewn grwpiau o ddim mwy na chwe myfyriwr ar y tro ac yn cael eu cyflwyno dros gyfnod penodol.

    Tiwtorialau Unigol

    Caiff tiwtorialau unigol eu trefnu, gan amlaf, ar gyfer myfyrwyr lefel 5, lefel 6, a lefel 7, ac maent yn cynnig cyfle manylach ac â mwy o ffocws i roi adborth i fyfyrwyr ac i ddatblygu syniadau. Fel arfer, trefnir y rhain mewn perthynas â modylau arfer unigol megis Prosiectau a Arweinir gan Fyfyrwyr.

    Beirniadaethau

    Trefnir beirniadaethau grŵp yn rheolaidd ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Ar gyfer lefel 4, mae’r rhain yn aml yn rhan o’r asesiad ar ddiwedd prosiectau byr, ar gyfer lefelau 5, 6 a 7 fe’u trefnir at ddiben adolygiadau interim ac i roi adborth ar waith sy’n mynd rhagddo, ac maent yn cynnwys cyfranogiad myfyrwyr a beirniadaeth cymheiriaid.

    Gweithdai

    Cyflwynir y rhain i addysgu sgiliau penodol i fyfyrwyr, bydd maint y grŵp yn amodol ar y pwnc a maint yr ystafell a gall gynnwys gwaith prosiect. Fel arfer ni chaiff y rhain eu marcio’n ffurfiol ond gallant fod yn destun beirniadaeth grŵp, a rhoddir adborth anffurfiol.

    Cyflwyniadau

    Defnyddir cyflwyniadau ffurfiol gan fyfyrwyr i’w cymheiriaid a staff at ddiben ymchwil a datblygu drwodd i waith gorffenedig. Fel arfer bydd myfyrwyr yn dechrau gwneud cyflwyniadau ar lefel 4 mewn grwpiau bach i fagu hyder yn y broses.

    Wedyn ceir cyflwyniadau ymchwil sy’n cael eu hasesu i gymheiriaid ar lefel 5 a Chyflwyniadau Prosiect Mawr i staff a grwpiau blwyddyn eraill ar lefel 6 a 7. Mae’r cyflwyniad yn gyfrwng delfrydol ar gyfer datblygu hyder unigolion a sgiliau trosglwyddadwy.

  • Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.

    Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer teithiau tramor. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau