Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Gwaith gyda Phobl Ifanc (BA)
Gan ganolbwyntio ar bobl ifanc, ac o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, mae’r rhaglen BA Gwaith gyda Phobl Ifanc yn bwrw golwg manwl ar ystod eang o heriau cyfredol a chyfoes y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.
Yn aml ystyrir bod y newid i fod yn oedolyn yn gymhleth ac yn heriol i lawer o bobl ifanc, a gall rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc gynnwys:
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Camddefnyddio Sylweddau
- Llinellau Cyffuriau
- Trawma
- Hawliau Plant
- Iechyd a Llesiant
Mae’r rhaglen radd newydd gyffrous hon yn un o gyfres o raglenni yn y Drindod Dewi Sant sy’n ymwneud â phobl ifanc ac mae’n archwilio’r heriau hyn, gan gydnabod sut mae’r cyfnod hwn o newid ym mywyd person ifanc hefyd yn bennod gyffrous o ddatblygu, ac o gyfleoedd newydd sy’n gallu ehangu eu gorwelion.
Gwneir cysylltiadau rhwng theori, polisi ac arfer mewn modd cymhwysol er mwyn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, yn ogystal ag archwilio ffyrdd o gefnogi pobl ifanc drwy fodwl lleoliadau yn eu hail flwyddyn
Gwaith gyda Phobl Ifanc (BA)
Cod UCAS: GPI1
Gwnewch gais drwy UCAS
Gwaith gyda Phobl Ifanc (BA) gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod UCAS: GPIF
Gwnewch gais drwy UCAS
Mae’r rhaglen Gwaith gyda Phobl Ifanc (BA) hefyd ar gael fel rhaglen 4 blynedd sy’n cynnwys Blwyddyn Sylfaen. Bydd y Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Arfer Gwaith Ieuenctid, a bydd hefyd yn rhoi’r hyder, y wybodaeth, y brwdfrydedd a’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr i symud ymlaen i’r BA Gwaith gyda Phobl Ifanc.
Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Datblygu’ch sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio gyda phobl ifanc drwy ymgysylltu â darlithwyr brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sydd â chymwysterau proffesiynol yn y maes gydag arbenigedd cydnabyddedig.
- Dewis o ystod o wasanaethau ehangach i bobl ifanc wrth wneud eich lleoliad arsylwi
- Archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau
- Paratoi am gyfleodd gwaith megis cyfiawnder ieuenctid, iechyd a llesiant, datblygu cymunedol, menter gymdeithasol a’r heddlu
- Cyfle i astudio yn y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y radd BA (Anrh) Gwaith gyda Phobl Ifanc yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda phobl ifanc, cymunedau a theuluoedd, ac i ddeall sut i fodloni anghenion pobl ifanc yn y 21ain ganrif. Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, bydd y rhaglen yn archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau mewn modd cymhwysol, gydag ymrwymiad eglur i gyfiawnder cymdeithasol ac arfer gwrth-ormesol.
Mae’r cwrs yn cyflwyno myfyrwyr i ffyrdd o weithio gyda phobl ifanc ar nifer o broblemau sy’n gyfredol iawn yn y gymdeithas sydd ohoni, megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, Tlodi a Gordewdra ymhlith pobl ifanc, ac mae’n archwilio’r rhain mewn modd cymhwysol, gan dynnu ar ymchwil cyfredol ac arfer gorau er mwyn paratoi graddedigion i fod yn effeithiol ac adfyfyriol iawn yn eu dewis feysydd. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn gyflawn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddatblygu a chryfhau darpariaeth benodol wedi’i hanelu at gefnogi a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n fwy agored i niwed neu sydd ar y cyrion” (LlC, 2019, t.13).
Sylwer nad yw’r radd BA Gwaith gyda Phobl Ifanc yn cynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid. Ar ôl cwblhau’r rhaglen BA Gwaith gyda Phobl Ifanc, gall graddedigion gofrestru ar y Diploma Ôl-raddedig Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) sy’n cynnig cymhwyster mewn Gwaith Ieuenctid a gydnabyddir gan JNC. Fodd bynnag, os hoffai myfyrwyr astudio gradd Israddedig sy’n cynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid, y cwrs **BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) fydd y dewis iawn i chi.
**Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo gan ETS Cymru
Blwyddyn Sylfaen – Lefel 3
- Sgiliau Goroesi Academaidd (30 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fywyd Prifysgol: Ffynnu fel Myfyriwr (30 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Arfer Gwaith Ieuenctid (60 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- Sgiliau Astudio Academaidd i Fyfyrwyr (20 credyd; gorfodol)
- Sgiliau Cwnsela, Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Arfer Therapiwtig (20 credyd; gorfodol)
- Arfer Proffesiynol: Egwyddorion a Chyd-destunau Gwaith gyda Phobl Ifanc (20 credyd; gorfodol)
- Deall Oedolaeth (20 credyd; gorfodol)
- Gwaith gyda Phobl Ifanc, Cymunedau a Theuluoedd (20 credyd; gorfodol)
- Pobl Ifanc a Chymdeithas 1: Eiriolaeth, Grymuso, Cyfranogiad a Hawliau (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
- Arfer â Ffocws (40 credyd; gorfodol)
- Nid yw Unrhyw Un yn Rhy Fach i Wneud Gwahaniaeth: Gweithio gyda Phobl Ifanc i Greu Hinsawdd o Newid (20 credyd; gorfodol)
- Ymchwil Cymdeithasol ar gyfer Arfer Proffesiynol (20 credyd; gorfodol)
- Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol (20 credyd; gorfodol)
- Pobl Ifanc a Chymdeithas 2: Iechyd Meddwl, Llesiant a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
- Traethawd Hir (40 credyd; gorfodol)
- Sgiliau Bywyd: Cyflogadwyedd a Llwybrau’r Dyfodol (20 credyd; gorfodol)
- Pobl Ifanc a Chymdeithas 3: Trawma, Camfanteisio a Phlentyndod Gwenwynig (20 credyd; gorfodol)
- Pobl Ifanc mewn Ffocws (20 credyd; gorfodol)
- Llesiant a Gwydnwch Pobl Ifanc (20 credyd; gorfodol).
Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes gwaith gyda phobl ifanc, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau
Gwybodaeth allweddol
- Angharad Lewis, Cyfarwyddwr Rhaglen
- Alana Enoch, Darlithydd
- Darrel Williams, Uwch Ddarlithydd
- Dr Nichola Welton, Uwch Ddarlithydd
- Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Gofynion mynediad y rhaglen yw rhwng 80 a 96 pwynt a throsodd, fodd bynnag, mae mynediad i’r rhaglen yn amodol ar deilyngdod yr unigolyn.
Mae ystod o gyfleoedd o ran gyrfa a chyflogadwyedd i raddedigion y radd hon o fewn maes sy’n ehangu’n gyflym. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cymorth Ieuenctid ym mhrosiectau Awdurdodau Lleol yn ogystal ag o fewn sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau elusennol;
- Gwaith gyda sefydliadau sy’n canolbwyntio ar broblemau penodol gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr;
- Cyfiawnder Ieuenctid;
- Mentor Cymheiriaid Pobl Ifanc;
- Gweithiwr Cymorth Person Ifanc;
- Eiriolwr dros Bobl Ifanc;
- Ymgysylltu â’r Gymuned;
- Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau;
- Gall graddedigion hefyd ymgymryd ag astudiaethau pellach ôl-raddedig, gan gynnwys **Diploma Ôl-raddedig/**MA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) yn y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid, er mwyn galluogi graddedigion i gael eu cyflogi’n Weithwyr Ieuenctid mewn ystod o leoliadau.
**Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo gan ETS
Gorfodol:
Costau DBS.
Costau Angenrheidiol:
Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad yn yr ail flwyddyn).
Dewisol:
Bydd myfyrwyr sy’n penderfynu manteisio ar y cyfle i astudio dramor am un semester ar Lefel 5 yn gorfod talu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn. Gall gweithgarwch preswyl posibl ar Lefel 6 gynnwys costau ychwanegol
- **Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (BA) (Ardystiad ETS)
- **Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (BA) gyda Blwyddyn Sylfaen (Ardystiad ETS)
- **Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Dip ôl-raddedig) (Ardystiad ETS)
- **Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (MA)(Ardystiad ETS)
*yn amodol ar ddilysu
**Yn amodol ar ddilysu a chymeradwyo gan ETS Cymru
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor yn rhan o’u hastudiaethau yn yr ail flwyddyn, yn y Ffindir neu Columbia Brydeinig.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth