Skip page header and navigation

Gwareiddiadau’r Hen Fyd (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn Amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Archwiliwch hanesion a diwylliannau’r byd hynafol gyda’n rhaglen Gwareiddiadau Hynafol. Datglowch straeon diddorol amrywiaeth o ddiwylliannau, o’r Hen Aifft a’r Dwyrain Agos i’r byd Groegaidd-Rufeinig a Hen Tsieina. Mwynhewch gymharu a chyferbynnu diwylliannau amrywiol o bob rhan o’r byd.

Bydd y radd yn eich cyflwyno i natur amrywiol a chyfoethog gwead cymdeithasau hynafol. Bydd yn eich caniatáu i ddod i gysylltiad â’r amrywiol ddulliau a methodolegau y mae gwahanol ddisgyblaethau’n eu defnyddio i ymgysylltu â phobloedd a diwylliannau’r gorffennol hynafol (yn cynnwys hanes ac archaeoleg).

Byddwch yn datblygu gwybodaeth ddyfnach o’r gorffennol trwy astudio’n gymharol a rhyngddisgyblaethol. Bydd y cwrs yn darparu mewnwelediad cynhwysfawr i’r dadleuon allweddol sy’n gysylltiedig â sylfeini hanesyddol, diwylliannol, milwrol ac athronyddol amrywiaeth o wareiddiadau hynafol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
V901
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig dosbarthiadau bach sy’n caniatáu rhyngweithio a thrafod rhagorol, yn ogystal â chefnogaeth heb ei hail gan y tiwtoriaid - y math nad oes modd ei gyflawni mewn ystafelloedd darlithio mawr yn llawn o fyfyrwyr.
02
Rydym yn un o’r ychydig brifysgolion ar draws y DU sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio ar ddiwylliant a gwareiddiadau’n hytrach na hanes ac archaeoleg yn unig.
03
Caiff myfyrwyr y cyfle i fynd ar fodylau taith maes pan fyddwn yn archwilio rhyfeddodau’r hen fyd ein hun.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Caiff myfyrwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn y cyfle i dwrio i’r gorffennol ac astudio’n fanwl ddiwylliannau a thraddodiadau gwareiddiadau’r hen fyd.  Byddwch yn cymharu ac yn cyferbynnu ffordd y bobl hyn o fyw drwy archwilio’n fanwl wahanol feysydd bywyd bob dydd megis y diwylliannau, athroniaethau, cefndiroedd milwrol a hanesyddol a’r credoau gwahanol a oedd yn perthyn i amrywiol ddiwylliannau’r hen fyd.

Trwy fynd i’r afael ag amryw o feysydd astudio gwahanol (archaeoleg, hanes a diwylliant yr hen fyd i enwi ond ychydig) - nodwedd sy’n unigryw i’n cwrs - caiff ein myfyrwyr gipolwg ar ffordd y gwareiddiadau hyn o fyw a meddwl yn yr hen fyd, cipolwg na chewch yn unman arall.  Cewch y wybodaeth i ddeall sut roedd ofergoel, hud a lledrith, defodau a’r byd a ddaw oll yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd yr oedd y bobl hyn yn meddwl ac yn ymddwyn a sut y bu i’r rhain lunio eu byd hwythau, a’n byd ninnau.

Y gwareiddiadau y gallwch eu hastudio:

  • Tsieina’r Hen Fyd
  • Aifft yr Hen Fyd
  • America Ladin yr Hen Fyd
  • Ewrop Geltaidd
  • Y byd Groegaidd-Rufeinig ehangach
  • Diwylliannau Cristnogol, Iddewig ac Arabaidd cynnar

Gorfodol

O'r Aifft i'r Dwyrain Agos: ffenomenau Môr y Canoldir
Archwilio'r Dyniaethau
Bywyd bob dydd yn Athen a Rhufain

(20 credydau)

Beth sy'n creu gwareiddiad?

(20 credydau)

Dewisol

Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu

(20 credydau)

Hieroglyffau 1

(20 credydau)

Into the Field

(20 credydau)

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd
Athroniaeth yr Hen Fyd

(20 credydau)

Blwyddyn A - Gorfodol

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Blwyddyn A - Dewisol

Hieroglyffau 1

(20 credydau)

Marwolaeth yn yr Hen Fyd

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Aelwydydd yr Hen Fyd

(20 credydau)

Lladin 1

(20 credydau)

Pompeii: Bywyd, marwolaeth ac ailddarganfod tref Rufeinig

(20 credydau)

Sparta: Tref Eithriadol

(20 credydau)

Blwyddyn B - Gorfodol

Blwyddyn B - Dewisol

Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu

(20 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Bywyd ac Amserau Cesar a Cicero

(20 credydau)

Hieroglyffau 1

(20 credydau)

Thinking With Things

(20 credydau)

Groeg 1

(20 credydau)

Clymau: Archwilio Cysylltiadau rhwng y Mor Aegeaidd a'r Dwyrain Agos

(20 credydau)

Blwyddyn A - Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Blwyddyn A - Dewisol

Hieroglyffau 1

(20 credydau)

Marwolaeth yn yr Hen Fyd

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Aelwydydd yr Hen Fyd

(20 credydau)

Lladin 1

(20 credydau)

Pompeii: Bywyd, marwolaeth ac ailddarganfod tref Rufeinig

(20 credydau)

Sparta: Tref Eithriadol

(20 credydau)

Blwyddyn B - Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Blwyddyn B - Dewisol

Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu

(20 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Bywyd ac Amserau Cesar a Cicero

(20 credydau)

Hieroglyffau 1

(20 credydau)

Thinking With Things

(20 credydau)

Groeg 1

(20 credydau)

Clymau: Archwilio Cysylltiadau rhwng y Mor Aegeaidd a'r Dwyrain Agos

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae gradd Gwareiddiadau’r Hen Fyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â gwaith traddodiadol megis rhoi sylwadau ar destunau, traethodau a phrofion yn y dosbarth, cewch eich asesu drwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar ac ar PowerPoint, fel unigolyn ac aelod o grŵp - creu crynodebau, adroddiadau adfyfyrio, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, arholiadau i’w gwneud gartref, wicis mewn grwpiau, creu cynlluniau prosiect, ac wrth gwrs, y traethawd hir.  Mae’r asesu amrywiol hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau i allu cyflwyno deunydd mewn modd clir a phroffesiynol, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    Mae’r mathau eang hyn o asesu’n creu amrywiaeth ym mhrofiadau’r myfyrwyr, gan ganiatáu i chi archwilio’r pwnc mewn ffyrdd gwahanol, ac ennill ystod o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr yn y dyfodol.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

    Taith Maes ddewisol:
    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi.  Y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith.  Gallai’r mathau o waith gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

    • Busnes a masnach
    • Y gwasanaeth sifil
    • Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol
    • Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
    • Newyddiaduraeth
    • Llywodraeth leol
    • Ymchwil ôl-raddedig
    • Addysgu

Mwy o gyrsiau History and Archaeology

Chwiliwch am gyrsiau