Skip page header and navigation

Gwneud Ffilmiau Antur (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Gwneud Ffilmiau Antur yw’r unig raglen o’i math yn y DU ac mae’n taro cydbwysedd unigryw rhwng gweithgareddau awyr agored a chreu cyfryngau mewn lleoliad sy’n gallu cefnogi a chynnig cyfleoedd dirif. Mae arbenigwyr o’r diwydiant yn rhan o ddarpariaeth y rhaglen i sicrhau bod gan fyfyrwyr ffocws llawn ar ofynion cyflogwyr y dyfodol a’u harfer proffesiynol cyfredol.

Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i ymgysylltu â chleientiaid, asiantaethau a sefydliadau allanol yn annibynnol, wrth gynhyrchu cynnwys ar gyfer ffilm a chyfryngau ym maes Gwneud Ffilmiau Antur.

Datblygwch ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn barod i ymuno â gweithlu cyfoes a’ch paratoi i fod yn hyblyg wrth gymhwyso eich sgiliau cynhyrchu cyfryngau i ystod eang o ddiwydiannau a sefydliadau fel gwasanaeth creadigol.

Bydd nifer o fodylau’n cynnig cyfleoedd i gysylltu â diwydiant, yn cynnwys Canolfan S4C Yr Egin a’i thenantiaid, yn ogystal â phartneriaid yn y DU fel OM-Digital, Panasonic Lumix ac Ironman.

Mae’r rhaglen yn rhannu llawer o ethos y rhaglenni Cyfryngau Digidol, Cynhyrchu, Actio, Theatr, Dylunio a Chynhyrchu sydd yn y clwstwr, o ran eu bod yn f focysu ar ddiwydiant ac yn gydweithredol. Rhennir staff, adnoddau a chyfleusterau ar draws y rhaglenni.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
AF01
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae ein cyrsiau arloesol mewn Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU.
02
Mae’r rhaglenni gradd wedi’u datblygu gyda’r diwydiant i baratoi myfyrwyr at yrfa mewn gwneud ffilmiau cyfoes.
03
Mae ein lleoliad hyfryd yng Ngorllewin Cymru yn darparu ystod eang o dirweddau, bywyd gwyllt, amgylcheddau a chwaraeon ar gyfer gwaith cynhyrchu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU, ac mae’n defnyddio tirlun Gorllewin Cymru a’r ystod eang o weithgareddau awyr agored sy’n digwydd yn yr ardal. Mae yna gyfleoedd gwych i ffilmio chwaraeon eithafol, bywyd y môr a bywyd gwyllt, tir arfordirol a mynyddig, gyda mewnbwn ymarferwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y meysydd hyn drwy gydol y radd.

Mae alldeithiau a theithiau maes yn rhan ganolog o’n graddau. Maent yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau ac amodau, a deall gwahanol ofynion ffilmio mewn ystod o amgylcheddau. Gall yr alldeithiau hyn fod yn rhan o’ch gwaith gradd a asesir, ond rydym yn annog myfyrwyr i fynychu’r teithiau ychwanegol niferus a drefnwn yn ystod y flwyddyn, sydd yn aml yng nghwmni gwneuthurwyr ffilmiau arbenigol.

Mae gan Orllewin Cymru amrywiaeth wych o dirweddau, o glogwyni arfordirol a thraethau, i fynyddoedd, llynnoedd a dyffrynnoedd. Rydym hefyd yn mynd ar deithiau rheolaidd i stiwdios cwmnïau cynhyrchu mawr, i roi gwir gipolwg i fyfyrwyr ar sut beth yw gweithio yn y diwydiant. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i fynd ar leoliadau gwaith gyda’r cwmnïau hyn.

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r sgiliau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu craidd sydd eu hangen i greu cynnwys seiliedig ar antur ar gyfer ffilm a’r cyfryngau. Bydd nifer o alldeithiau a phrosiectau, yn ogystal â dosbarthiadau ffurfiol, a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o weithio mewn ystod o amgylcheddau a meysydd.

Gall y rhain amrywio o chwaraeon eithafol a chwaraeon moduro i ffilmio bywyd gwyllt, ffilmio tirluniau ac ar yr arfordir, a ffilmio o’r awyr.  Wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd, gallant arbenigo mewn maes o’u dewis; erbyn y flwyddyn olaf, gall myfyrwyr weithio ar brosiect mawr unigol yn eu dewis faes, gyda mewnbwn arbenigol gan ymarferwyr blaenllaw.

Gorfodol 

Cyflwyniad i Wneud Ffilmiau

(20 credydau)

Ecoleg Antur

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Antur: Risg sy'n Werth ei Gymryd?

(20 credydau)

Cynhyrchu Ffilm

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Gorfodol 

Deall Arweinyddiaeth Antur

(20 credydau)

Delweddau Antur, Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Gwneud Ffilm o'r Awyr
Teithiau Cynaliadwy

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Rhyngwladol

(20 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Gorfodol 

Cynnwys Amlblatfform
Digwyddiadau Tyngedfennol mewn Gweithgareddau Antur

(20 credydau)

Prosiect Cleientiaid
Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 120 o Bwyntiau UCAS.

  • Dim arholiadau. Gwaith cwrs ymarferol, traethodau a chyflwyniadau.

  • Costau Ychwanegol Cyrsiau

    • Bwndel cyfarpar awyr agored gorfodol — tua £230

    Argymhellir

    • Cerdyn SD cyflym, gyriant caled.
    • Dewis o alldeithiau dewisol yn amrywio o £200-1000.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae sgiliau entrepreneuraidd a galwedigaethol yn elfen greiddiol o brofiadau’r myfyrwyr, gan alluogi graddedigion i fynd i mewn i’r diwydiant yn hyderus fel gweithwyr llawrydd ac i hyrwyddo ac arddangos eu gwaith.

    Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o’r holl agweddau ar ein rhaglenni. Gall hyn fod ar ffurf lleoliadau gwaith, prosiectau ar gyfer cleientiaid allanol, gweithio ar brosiectau ffilm, neu ymgysylltu â’r ymarferwyr proffesiynol niferus o’r diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd yn ystod y rhaglenni.

Mwy o gyrsiau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio

Chwiliwch am gyrsiau