Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (BA) – Dysgu o Bell
Archwilia’r rhaglen hon y ffyrdd niferus y mae gwrthdaro a rhyfel wedi llunio cymdeithasau, o gyfnod yr hen fyd i’r presennol. Mae Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas yn mynd ati mewn modd integredig i astudio effaith gwrthdaro mewn amrywiaeth o gyd-destunau cronolegau a daearyddol. Mae’n cynnwys modylau sy’n canolbwyntio ar achosion pwysig o wrthdaro, wrth gyflwyno hefyd bynciau ehangach, megis moeseg trais.
Caiff myfyrwyr flas o’r modd yr astudir rhyfel mewn gwahanol ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys Hanes yr Hen Fyd, yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngol, Archaeoleg ac Astudiaethau Treftadaeth. O’r herwydd, mae’r rhaglen yn rhoi gwerthfawrogiad crwn i fyfyrwyr o hanes rhyfel a’i arwyddocâd cyfoes ym myd yr 21ain ganrif.
Bydd y rhaglen yn ddeniadol i’r rhai sydd â diddordeb yn hanes rhyfel a hanes a chanfyddiad gwrthdaro. Bydd dimensiynau moesol y rhaglen o ddiddordeb i unigolion sy’n rhan o wahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn gydweithredol yn ei hanfod ac mae gan fyfyrwyr lawer o gyfleoedd i weithio gyda’u cymheiriaid a darlithwyr trwy’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADRh) trwy fforymau, tasgau a seminarau.
Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas
Cod: CWS1.
Gwnewch gais drwy UCAS.
Gwrthdaro , Rhyfel a Chymdeithas gyda Blwyddyn Sylfaen
Cod: CWS8.
Gwneud cais drwy UCAS.
Gwnewch gais drwy UCAS i astudio ar sail amser llawn. Ar gyfer astudiaeth amser llawn, gwnewch gais drwy’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm ‘Gwneud Cais yn uniongyrchol – Rhan-amser’ ar ben y dudalen hon.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Mae dysgu o bell yn cynnig dull hyblyg o astudio.
- Addysgir y rhaglen hon i chi drwy ein llwyfan dysgu o bell unigryw, fel y gallwch barhau i weithio a chadw i fyny â'ch ymrwymiadau teuluol tra byddwch yn astudio ar gyfer eich gradd BA.
- Cyfle ar gyfer seminarau ar-lein.
- Cymorth gan diwtor personol.
- Modylau yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil unigryw darlithwyr.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Archwilia BA Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas y gwahanol ffyrdd y mae gwrthdaro a rhyfel wedi llunio cymdeithasau gydol hanes, o gyfnod yr hen fyd i’r presennol.
Mae Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas yn mynd ati mewn modd integredig i astudio effaith gwrthdaro mewn amrywiaeth o gyd-destunau cronolegol a daearyddol. Mae’n cynnwys modylau sy’n canolbwyntio ar achosion o wrthdaro mawr megis Rhyfeloedd Byd, wrth gyflwyno myfyrwyr hefyd i bynciau ehangach megis anufudd-dod dinesig, mudiadau heddwch a moeseg trais.
Caiff myfyrwyr flas o’r modd yr astudir rhyfel mewn gwahanol ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys Hanes yr Hen Fyd, yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngol, Archaeoleg ac Astudiaethau Treftadaeth. O’r herwydd, mae’r rhaglen yn rhoi gwerthfawrogiad crwn i fyfyrwyr o hanes rhyfel a’i arwyddocâd cyfoes ym myd yr 21ain ganrif.
Blwyddyn Un – Lefel 4 (Tyst AU, Dip AU a BA)
- ‘Llwybrau at Ddrygioni’: Hil-laddiad – Hanes, Theori a Gwadiad (20 credyd; gorfodol)
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Oes Eithafoedd: Byd mewn Rhyfel, c. 1914–1991 (20 credyd; gorfodol)
- Gwrthdaro a Rhyfel: Theori, Moeseg, Arfer (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Foeseg (20 credyd; gorfodol)
- Pŵer ac Anghydraddoldeb (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)
Blwyddyn Mynediad A
- Prydain a’r Rhyfel Mawr (20 credyd; gorfodol)
- Cysyniadau Heddwch: Mudiadau, Syniadau, Arferion (20 credyd; gorfodol)
- Croesgadau yn yr Oesoedd Canol (20 credyd; gorfodol)
- Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro (20 credyd; gorfodol)
- Astudiaethau mewn Rhyfela yn yr Hen Fyd (20 credyd; gorfodol)
- Moeseg Trais (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Mynediad B
- Anufudd-dod Dinesig a’r Wladwriaeth (20 credyd; gorfodol)
- Celfyddyd Rhyfel Sun Tzu (20 credyd; gorfodol)
- Moeseg Bywyd a Marwolaeth (20 credyd; gorfodol)
- Gormes a Chwyldro yn yr Hen Fyd (20 credyd; gorfodol)
- Gelynion Oddi Mewn ac Allan: Thatcher, Reagan a Diwedd y Consensws ar ôl y Rhyfel (20 credyd; gorfodol)
- Rhyfel a Sinema (20 credyd; gorfodol).
- Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)
Blwyddyn Mynediad A
- Prydain a’r Rhyfel Mawr (20 credyd; dewisol)
- Cysyniadau Heddwch: Mudiadau, Syniadau, Arferion (20 credyd; dewisol)
- Croesgadau yn yr Oesoedd Canol (20 credyd; dewisol)
- Traethawd Hir (40 credyd; dewisol)
- Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro (20 credyd; dewisol)
- Astudiaethau mewn Rhyfela yn yr Hen Fyd (20 credyd; dewisol)
- Moeseg Trais (20 credyd; dewisol).
Blwyddyn Mynediad B
- Anufudd-dod Dinesig a’r Wladwriaeth (20 credyd; dewisol)
- Traethawd Hir (40 credyd; gorfodol)
- Gelynion Oddi Mewn ac Allan: Thatcher, Reagan a Diwedd y Consensws Ôl-Ryfel (20 credyd; dewisol)
- Celfyddyd Rhyfel Sun Tzu (20 credyd; dewisol)
- Moeseg Bywyd a Marwolaeth (20 credyd; dewisol)
- Gormes a Chwyldro yn yr Hen Fyd (20 credyd; dewisol)
- Rhyfel a Sinema (20 credyd; dewisol).
Lefel 3 (Blwyddyn Sylfaen)
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Y Dyniaethau (20 credyd; gorfodol)
- Ysgrifennu ar gyfer Prifysgol (20 credyd; gorfodol)
- Gwybodaeth a Chred (20 credyd; gorfodol)
- Pobl ar draws amser (20 credyd; gorfodol)
- Iaith a Diwylliant (20 credyd; gorfodol)
Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:
- Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
- Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
- Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
- Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar y flwyddyn y cynigir y modylau ynddi.
Yn bennaf, cynhelir asesiadau drwy aseiniadau gwaith cwrs.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Rhaglenni a Digwyddiadau Llambed
Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan
Gwybodaeth allweddol
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac sy’n eich cefnogi. Y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth fydd yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o waith gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir mai £20 fydd cost rhwymo’r rhain.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig yn seiliedig ar ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): c. £500 – £1,500
Gwibdeithiau unigol: c. £5 – £50
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.