Skip page header and navigation

Hanes yr Hen Fyd (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn Amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb yng Ngwareiddiadau Clasurol Groeg a Rhufain? Mae ein gradd Hanes yr Hen Fyd yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth ddiddorol o bynciau sy’n ymestyn o hanes, llenyddiaeth a chelf i fytholeg a chrefydd. Archwiliwch bopeth o ffigyrau fel Alecsander Fawr ac Iŵl Cesar i agweddau ar fywyd bob dydd yn yr hen oes Roegaidd-Rufeinig, fel cenedl, caethwasiaeth, rhyfela a’r economi.

Drwy astudio ein Hanes yr Hen Fyd gallwch fwynhau addysgu a arweinir gan ymchwil a dull personol hyfforddiant arbenigol.

Mae’r rhaglen hon yn darparu amrywiaeth eang o themâu yn niwylliant a hanes yr Hen Fyd Clasurol, yn cynnwys themâu gwleidyddolfilwrol mwy traddodiadol, yn ogystal â modylau sy’n canolbwyntio’n fwy ar bynciau amrywiol fel iechyd, crefydd, adloniant, marwolaeth, priodas, gwyddoniaeth ac addysg. Mae Groeg a Lladin i ddechreuwyr hefyd ar gael.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
V110
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn cynnig dewis eang o fodylau a phynciau gwahanol i’n myfyrwyr, gan amrywio o Wlad Groeg hynafol i ddiwedd yr Ymerodraeth Rufeinig.
02
Addysgir yr holl fyfyrwyr mewn grwpiau bach, gyda darlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un a seminarau. Mae’r cwrs yn defnyddio dull dysgu trochi arloesol.
03
Mae pob un o’n staff yn ymchwilydd ac yn arbenigwr yn ei faes, sy’n golygu y gallwn gynnig addysgu blaengar sy’n cael ei hysbysu gan y datblygiadau diweddaraf yn y pwnc.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cynllun Hanes yr Hen Fyd yn caniatáu ichi astudio ystod eang o bynciau yn cynnwys nid yn unig gymeriadau diddorol megis Alecsander Fawr, ond hefyd agweddau elfennol ar fywyd bob dydd, megis ymolchi, bwyta, cyflawni defodau crefyddol, rhyfela a’r economi.

Yn y flwyddyn gyntaf, gellir astudio modylau ar ystod eang o gyfnodau a themâu; yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, rydym yn cynnig modylau arbenigol ar bob agwedd ar hanes Groeg a Rhufain fel y gallwch feithrin gwybodaeth fanwl am feysydd sydd o ddiddordeb arbennig ichi.

Mae dewis ar gael hefyd i astudio modylau dethol mwy eang yng Nghyfadran y Dyniaethau, er enghraifft yn niwylliant a hanes Aifft yr hen fyd, Hanes Tsieina’r hen fyd, archaeoleg yr Oes Efydd neu Wareiddiadau Celtaidd.  Caiff yr holl fyfyrwyr y cyfle i ddilyn eu diddordebau personol a chynnal eu hymchwil eu hun ym mhrosiect annibynnol yr ail flwyddyn a thraethawd hir y drydedd flwyddyn.

Compulsory

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd
O'r Aifft i'r Dwyrain Agos: ffenomenau Môr y Canoldir
Archwilio'r Dyniaethau
Athroniaeth yr Hen Fyd

(20 credydau)

Bywyd bob dydd yn Athen a Rhufain

(20 credydau)

Optional

Groeg 1

(20 credydau)

Marwolaeth, Claddu a Bywyd ar ôl Marwolaeth
Lladin 1

(20 credydau)

Beth sy'n creu gwareiddiad?

(20 credydau)

Year A - Compulsory

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Pompeii: Bywyd, marwolaeth ac ailddarganfod tref Rufeinig

(20 credydau)

Sparta: Tref Eithriadol

(20 credydau)

Year A - Optional

Clymau: Archwilio Cysylltiadau rhwng y Mor Aegeaidd a'r Dwyrain Agos

(20 credydau)

Aelwydydd yr Hen Fyd

(20 credydau)

Lladin 1

(20 credydau)

Year B - Compulsory

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Bywyd ac Amserau Cesar a Cicero

(20 credydau)

Year B - Optional

Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu

(20 credydau)

Groeg 1

(20 credydau)

Year A - Compulsory

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Pompeii: Bywyd, marwolaeth ac ailddarganfod tref Rufeinig

(20 credydau)

Sparta: Tref Eithriadol

(20 credydau)

Year A - Optional

Clymau: Archwilio Cysylltiadau rhwng y Mor Aegeaidd a'r Dwyrain Agos

(20 credydau)

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Aelwydydd yr Hen Fyd

(20 credydau)

Lladin 1

(20 credydau)

Year B - Compulsory

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Bywyd ac Amserau Cesar a Cicero

(20 credydau)

Year B - Optional

Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu

(20 credydau)

Groeg 1

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae gradd yn Hanes yr Hen Fyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu.  Yn ogystal â gwaith traddodiadol megis rhoi sylwadau ar destunau, traethodau a phrofion yn y dosbarth, cewch eich asesu drwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar ac ar PowerPoint, fel unigolyn ac aelod o grŵp - creu crynodebau, adroddiadau adfyfyrio, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, arholiadau i’w gwneud gartref, wicis mewn grwpiau, creu cynlluniau prosiect, ac wrth gwrs, y traethawd hir.

    Mae’r asesu amrywiol hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau i allu cyflwyno deunydd mewn modd clir a phroffesiynol, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    Mae’r mathau eang hyn o asesu’n creu amrywiaeth ym mhrofiadau’r myfyrwyr, gan ganiatáu i chi archwilio’r pwnc mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n ymgorffori yn rhaglen Hanes yr Hen Fyd y sgiliau cyflogadwyedd penodol sy’n ddymunol, neu’n wir yn ofynnol gan gyflogwyr heddiw.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

    Taith Maes ddewisol:
    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae meysydd gwaith posibl ar gyfer ein graddedigion yn cynnwys:

    • Busnes a Masnach
    • Astudiaethau Pellach
    • Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
    • Y Cyfryngau a Chyhoeddi
    • Addysgu

    Nid oes un llwybr penodol i raddedigion Hanes yr Hen Fyd. Mae myfyrwyr sy’n graddio gyda ni’n parhau i ddilyn llwybrau traddodiadol addysgu, amgueddfeydd a threftadaeth, y gwasanaeth sifil ac ymchwil - academaidd, yn y llywodraeth a’r cyfryngau.

    Fodd bynnag, mae’r sgiliau cyflogadwyedd a ymgorfforir yn y graddau a gynigiwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sicrhau bod gan ein graddedigion Hanes yr Hen Fyd y sgiliau a’r hyder i archwilio amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa.

    Yn wir, mae ein myfyrwyr sydd wedi graddio wedi archwilio dewisiadau o hyfforddwyr chwaraeon awyr agored i swyddogion carchar, o’r Lluoedd Arfog i yrfaoedd mewn amgylchedd meddygol, gyda detholiad da o rai ag anian entrepreneuraidd yn cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i greu eu cwmnïau eu hun.

    Gan fanteisio ar bopeth maent wedi’i ennill drwy astudio Hanes yr Hen Fyd gyda ni, a’i gyfuno â Gwasanaeth Gyrfaoedd penodedig, mae gan raddedigion Hanes yr Hen Fyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr offer i ddilyn eu diddordebau lle bynnag y byddant yn eu harwain. 

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau