Skip page header and navigation

Hanes (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Hanes yn cynnig i chi amrywiaeth ddiddorol o fodylau a fydd yn caniatáu i chi ymgysylltu â hanes Ewrop, yr UD a thu hwnt, o’r oes hynafol i’r oes fodern. Byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy a deallusol gwerthfawr trwy’r amrywiaeth o ddulliau asesu a ddefnyddir yn ein modylau.

Trwy astudio Hanes, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r gwahanol ffyrdd o adeiladu naratif hanesyddol a’r cyfoeth ac amrywiaeth eang sydd gan hanes i’w cynnig.

Nod y rhaglen yw eich paratoi i ofyn ac ateb cwestiynau cymhellol a phwrpasol am y gorffennol a dilyn y cwestiynau hyn trwy ymholi strwythuredig, dethol a holi ystod addas o ddeunyddiau, yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth gwreiddiol a hanesyddiaethol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
V100
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ystod eang o fodylau, sy’n ffocysu ar lawer o wahanol leoedd, themâu, pynciau a phobl, o Bede i Bowie, mynachlogydd i ffilmiau, a Chesar i Churchill.
02
Cyfle i astudio rhan eang o hanes, yr holl ffordd nôl i henfyd trwy’r Canoloesoedd yr holl ffordd i’r presennol.
03
Modylau wedi’u seilio ar arbenigedd ymchwil nodedig darlithwyr, fel hanes diwylliannol dinasoedd, coffâd rhyfel, Prydain y 1980au, ysgrifennu hanes a chof yn y Canol Oesoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Hanes yn Y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i lawer o wahanol agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, milwrol a diwylliannol ar hanes. Mae’n cyfuno astudio newid dros gyfnod mewn modylau arolwg eang sy’n cyflwyno agweddau allweddol ar y byd canoloesol a modern, gyda modylau â mwy o ffocws ar bynciau fel cymdeithas y Normaniaid a Chrwsadau, y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain y 1980au.

Cyflwynir pob modwl mewn grwpiau bach a gydag ymagwedd ymarferol, ymdrochi. Caiff yr addysgu ei arwain gan ymchwil, ac wedi’i seilio yn niddordebau ac arbenigedd proffesiynol y darlithwyr. Bydd myfyrwyr yn dod ar draws gwahanol ymagweddau at a deunyddiau crai er mwyn deall y gorffennol, gyda ffocws arbennig ar ddefnyddio’r archif o lawysgrifau a ffynonellau cynradd printiedig sydd ar y safle. Mae hyn oll yn darparu rhaglen astudio gyflawn a chynhwysfawr sy’n rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn y damcaniaethau, fethodoleg a’r arferion angenrheidiol sy’n gysylltiedig â disgyblaeth hanes.

Gorfodol 

Y Byd Modern

(20 credydau)

Archwilio'r Dyniaethau
Gwneud Hanes: Y Gorffennol ar Waith

(20 credydau)

Y Byd Canol Oesol

(20 credydau)

Dewisol

Marwolaeth, Claddu a Bywyd ar ôl Marwolaeth
Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd
Bywyd bob dydd yn Athen a Rhufain

(20 credydau)

Haneseiddio Testunau

(20 credydau)

Beth sy'n creu gwareiddiad?

(20 credydau)

Blwyddyn A

Dewisol

(Ail)gyflwyno ac (ail)greu'r Gorffennol

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Blwyddyn B

Dewisol

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Treftadaeth Anodd/ Twristiaeth Dywyll

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith
Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Blwyddyn A & B

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Blwyddyn A

Dewisol

(Ail)gyflwyno ac (ail)greu'r Gorffennol

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon am Ddefaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Blwyddyn B

Dewisol

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Treftadaeth Anodd/ Twristiaeth Dywyll

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Cyffesu gyda Saint Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig
Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith a/neu astudiaethau pellach. Mae’r radd Hanes yn paratoi myfyrwyr at swyddi mewn meysydd fel gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu. Yn Llambed, mae gennym hanes cadarn o helpu myfyrwyr i symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd – ar lefel MA a PhD.

    • Academia
    • Busnes
    • Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol; gwasanaeth sifil.
    • Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
    • Newyddiaduraeth
    • Y gyfraith ac eiriolaeth
    • Llywodraeth leol, cymuned, gwleidyddiaeth leol
    • Ymchwil ôl-raddedig
    • Addysgu

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau