Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Rheolaeth Adnoddau Dynol (BA)

Rheolaeth Adnoddau Dynol (BA)

Ymgeisio drwy UCAS – Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Mae ein rhaglen Rheolaeth Adnoddau Dynol yn darparu dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth, gan ganiatáu i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes arbenigol adnoddau dynol. Bydd integreiddio modylau’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) yn sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n dewis y llwybr hwn ddealltwriaeth glir o ofynion y corff proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon.

Bydd modylau’n cynnwys disgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheolaeth adnoddau dynol a datblygiad proffesiynol ond fe fydd hefyd yn cynnwys modylau disgyblaeth-benodol, fel Arwain a Datblygu Pobl a Rheoli Perthnasau Gweithwyr. Mae sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu yn rhan annatod o’r modylau.

Mae’r modylau adnoddau dynol yn ymgorffori hanfodion y ddisgyblaeth wedi’u halinio â chymwysterau proffesiynol CIPD. Byddant yn rhoi i chi ddealltwriaeth glir o’r ffordd y gall sefydliad greu gwerth trwy ei bobl.

Byddwch yn cynyddu eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, ac yn paratoi ar gyfer, a datblygu gyrfa rheoli posibl trwy gaffael ystod o wybodaeth a sgiliau busnes penodol, ynghyd â gwell hunanymwybyddiaeth a datblygiad personol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Rheolaeth Adnoddau Dynol (BA): astudio yn Abertawe
Cod UCAS: HRM1
Gwneud Cais drwy UCAS

Rheolaeth Adnoddau Dynol (BA): dysgu o bell
Cod UCAS: HRM1
Gwneud Cais drwy UCAS


Os hoffech ddechrau astudio ym mis Ionawr, defnyddiwch y botwm Gwneud Cais Llawn Amser ar frig y dudalen i wneud cais drwy’r Brifysgol.

Os hoffech astudio’n rhan-amser, defnyddiwch y botwm Gwneud Cais Rhan Amser ar frig y dudalen i wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Davina Wyn Evans


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant ac ymchwil at yr addysgu.
  • Modylau’n cydweddu â gofynion y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad
  • Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
  • Opsiynau i astudio o bell ac ar y campws
  • Cyfle i astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BA (Anrh) Rheolaeth Adnoddau Dynol yn darparu dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth, gan ganiatáu i chi ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes arbenigol adnoddau dynol. Bydd integreiddiad modylau’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad (CIPD) yn sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n dewis y llwybr hwn ddealltwriaeth glir o ofynion y corff proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon. 

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4 (BA)

  • Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Arloesi Entrepreneuraidd (20 credyd; gorfodol)
  • Cyllid ar gyfer Busnes (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Hanfodion Marchnata (20 credyd; gorfodol)
  • Pobl a Sefydliadau (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (BA)

  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Cyfraith Contract (20 credyd; gorfodol)
  • Deallusrwydd Digidol a Dadansoddeg (20 credyd; gorfodol)
  • Rheolaeth Perfformiad Ariannol (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Talent ac Adnoddau (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)

  • Moeseg Fyd-eang (20 credyd; gorfodol)
  • Arwain a Datblygu Pobl (20 credyd; gorfodol)
  • Rheoli Cysylltiadau Gweithwyr (20 credyd; gorfodol)
  • Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol)

Mae pedwar deg credyd ar Lefel 5 a 6 ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Asesiad

Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd gyda thasgau “byd go iawn” sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Bywyd Myfyrwyr

Campws Busnes Abertawe


Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad
  • BA – 88 o Bwyntiau UCAS
Llety

Ewch i'n hadran Llety Abertawe i ddarganfod mwy.